Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â Gofal Dementia

10/12/20
Beth yw'r gwaith yn y maes hwn?

Mae gwaith y tîm wedi cynnwys:

 

  • Gwaith gyda’r sector gofal sylfaenol, eilaidd a gwirfoddol i wella gofal dementia a chyfraddau diagnosis
  • Cychwyn argaeledd siarter ysbyty dementia i Gymru
  • Cefnogi rhaglen dysgu a datblygu’r gweithlu dementia gan gynnwys:
    • Rhaglen gofal dementia rhanbarthol
    • Cynyddu niferoedd a datblygiad Mapwyr Gofal Dementia
  • Hwyluso Grŵp Llywio Cenedlaethol, y Gymuned Ymarfer a fforymau ar gyfer gwasanaethau asesu cleifion mewnol, cymunedol a chof er mwyn rhoi mynediad i’r ymchwil a’r wybodaeth ddiweddaraf i glinigwyr.
10/12/20
Gyda phwy mae'r tîm yn gweithio?

Mae'r tîm yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau'r sector gwirfoddol ledled Cymru wrth gydgynhyrchu â phobl sy'n byw gyda dementia a gofalwyr.

10/12/20
Beth yw'r camau nesaf?

Ar hyn o bryd, mae’r tîm yn datblygu safonau llwybr gofal dementia a fframwaith cyflawni rhanbarthol ar gyfer Cymru 

10/12/20
Gyda phwy y dylwn gysylltu?

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Michaela Morris, Arweinydd Rhaglen, Michaela.Morris@wales.nhs.uk