Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â Mamolaeth Cymru

08/12/20
Beth yw Cymru Newyddenedigol Mamolaeth?

Mae'r tîm yn rhoi cefnogaeth i gydweithwyr ar draws gwasanaethau mamolaeth a gofal newyddenedigol i ddefnyddio sgiliau gwelliant i wneud newidiadau cadarnhaol i ganlyniadau ac i brofiadau menywod, babanod, eu teuluoedd a staff.

08/12/20
Pa waith mae Cymru Newyddenedigol Mamolaeth yn ei wneud?

Mae gwaith y rhaglen yn cynnwys cefnogi timau amlbroffesiynol ym Myrddau Iechyd Cymru i ddysgu a defnyddio sgiliau a dulliau gwelliant, gan eu galluogi i ymgymryd â phrosiectau gwelliant ac i amlygu newidiadau cadarnhaol i wasanaethau mamolaeth a gofal newyddenedigol.

Yn flaenorol, arweiniodd y tîm raglen tair blynedd Strategaeth Gwaedu Obstetrig i Gymru a rhaglen Beichiogrwydd Mwy Diogel Cymru.

08/12/20
Gyda phwy mae Cymru Newyddenedigol Mamolaeth yn gweithio?

Mae'r tîm yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn y Rhwydwaith Mamolaeth a gofal Newyddenedigol, yn ogystal â thimau’r Byrddau Iechyd lleol.

08/12/20
Beth yw'r camau nesaf ar gyfer Cymru Newyddenedigol Mamolaeth?

Mae'r rhaglen waith yn cael ei chwmpasu ar hyn o bryd a bydd yn cynnwys hyfforddi timau mamolaeth a gofal newyddenedigol amlbroffesiynol lleol i adeiladu ar eu gwybodaeth a'u sgiliau gwelliant ynghyd â hwyluso rhannu’r arferion gorau ledled Cymru.

08/12/20
Gyda phwy y dylwn gysylltu am Cymru Newyddenedigol Mamolaeth?

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Elinore Macgillivray, Uwch Reolwr Gwella, Elinore.Macgillivray2@wales.nhs.uk