Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â Strategaeth Gwaedu Obstetreg Cymru

08/12/20
Beth oedd OBS Cymru?

Lansiwyd y Strategaeth Gwaedu Obstetrig i Gymru ym mis Tachwedd 2016. Nod y prosiect gwella ansawdd cenedlaethol tair blynedd oedd safoni gofal a lleihau cyfraddau morbidrwydd a marwolaeth sy'n gysylltiedig â PPH ar draws holl leoliadau mamolaeth Cymru. Arweiniwyd y prosiect gan dîm amlbroffesiynol cenedlaethol a gefnogodd dimau o hyrwyddwyr lleol i sicrhau newidiadau yn y deuddeg Uned Famolaeth o dan Arweiniad Ymgynghorwyr ledled Cymru.

08/12/20
Beth gyflawnodd OBS Cymru?

Mae’r Strategaeth Gwaedu Obstetrig i Gymru wedi safoni gofal PPH ledled Cymru trwy ymgorffori'r 4 piler rheoli PPH.

  • Asesiad risg
  • Darganfod yn gynnar trwy fesur colli gwaed
  • Gwaith tîm amlddisgyblaethol
  • Profion pwynt gofal ROTEM

Mae gwaith y prosiect bellach wedi'i ymgorffori mewn ymarfer bob dydd ac mae gwaith caled y timau amlbroffesiynol lleol wedi arwain at newidiadau cadarnhaol yng ngofal mamau sy'n profi PPH.