Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â Chartref Gofal Cymru

07/12/20
Beth yw Care Home Cymru?

Sefydlwyd y rhaglen waith dair blynedd i wella ansawdd gofal i bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal mewn ymateb i adroddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Lle i’w Alw’n Gartref: Effaith a Dadansoddiad ac i gynllun Cymru Iachach Llywodraeth Cymru. Mae'r rhaglen yn gweithio gyda staff ar bob lefel mewn cartrefi gofal i helpu i adeiladu amgylcheddau cefnogol. Mae hyn yn cynnwys gweithio ar gyfres o ymyriadau i wella diogelwch ac ansawdd gofal i breswylwyr, ymgysylltu â'u teuluoedd ac i gefnogi llesiant staff. Bydd hyn yn caniatáu i breswylwyr fyw bywydau ystyrlon yn eu cartrefi.

07/12/20
Pa waith mae Care Home Cymru yn ei wneud?

Mae tri cham i'r gwaith:

  • Cam un - bydd 16 cartref gofal ledled Cymru yn rhan o rwydwaith i ddatblygu a llunio'r rhaglen.
  • Cam dau - sefydlu cartref gofal rhithwir ar y cyd i feithrin a chefnogi diwylliant o ddysgu a datblygu parhaus
  • Cam tri - Ehangu’r rhaglen i ragor o gartrefi gofal ledled Cymru
07/12/20
Beth yw'r camau nesaf ar gyfer Cartref Gofal Cymru?

Mae staff o 16 Cartref Gofal ledled Cymru wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant Hanfodion Gwelliant i roi'r sgiliau iddynt sydd eu hangen i ddeall gwella ansawdd.  Mae rhagor o staff o'r Cartrefi Gofal wedi ymgymryd â hyfforddiant Gwelliant Ymarferol i'w cefnogi i wneud newidiadau llwyddiannus i'r ffordd y maent yn gweithio.

Mae Cartref Gofal Cymru yn cefnogi'r Cartrefi Gofal hyn trwy gydol eu taith welliant i greu prosiect y gellir ei rannu ymhlith grwpiau cymheiriaid.

07/12/20
Gyda phwy mae Care Home Cymru yn gweithio?

Mae'r tîm yn gweithio ochr yn ochr â staff cartrefi gofal, y Bwrdd Iechyd, Awdurdodau Lleol, Gofal Cymdeithasol Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru, Age Cymru, Cymunedau Digidol Cymru a Llywodraeth Cymru.

07/12/20
Gyda phwy y dylwn gysylltu am Care Home Cymru i gael mwy o wybodaeth?

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, cysylltwch â Rosalyn Davies, Arweinydd y Rhaglen, CareHomeCymru@wales.nhs.uk