Cyhoeddig: 30 Tachwedd 2023
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn cydweithrediad ag Improvement Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru, wedi cydgynhyrchu fideo a chanllaw hawdd ei ddarllen newydd i gefnogi pobl ag anabledd dysgu i egluro’r broses o gael eu gwahodd am frechiad a chael brechiad.
Yn lansio'n swyddogol cyn y Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Pobl ag Anableddau ar 3ydd Rhagfyr Comisiynwyd Anabledd Dysgu Cymru i ddarparu’r ddau adnodd yma sy’n seiliedig ar wybodaeth sydd wedi’i chasglu drwy ymgysylltu â phobl ag anabledd dysgu, eu gofalwyr a sefydliadau cefnogi.
Nod yr adnoddau yw cefnogi pobl ag anabledd dysgu i wneud dewisiadau gwybodus am frechu. Bydd yr adnoddau hyn hefyd yn helpu i wneud pobl yn ymwybodol o sut gallant wneud cais am addasiadau rhesymol i'w helpu i gael brechiad.
Mae'r fideo’n dangos menyw a'i gofalwr yn ymweld â'i meddygfa i gael brechiad y ffliw. Mae’n tynnu sylw at rai o’r elfennau hwyluso allweddol i gefnogi person ag anabledd dysgu i gael brechiad, gan gynnwys gofyn am addasiadau rhesymol cyn yr apwyntiad, a help ar gyfer gorbryder am nodwyddau.
Dywedodd Dr Christopher Johnson, Pennaeth y Rhaglen Afiechydon Ataliadwy Trwy Frechu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’n flaenoriaeth i bob darparwr gofal iechyd yng Nghymru sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a bod pobl yn gwrando arnyn nhw wrth iddyn nhw dderbyn gofal iechyd.
“Mae brechiadau’n hynod bwysig i iechyd unigolion, ac rydyn ni eisiau sicrhau nad oes unrhyw rwystrau i’r rhai sydd ag anabledd dysgu rhag cael eu rhai hwy.
“Mae cydgynhyrchu’r adnoddau hyn wedi golygu ein bod ni wedi gallu datblygu gwybodaeth sy’n cefnogi pobl ag anabledd dysgu yn y ffordd orau i sicrhau eu bod yn cael y canlyniadau gorau wrth gael mynediad at wasanaethau iechyd.
Dywedodd Faye Parrington a gymerodd ran yn y fideo: “Fe wnes i gymryd rhan yn y fideo brechu oherwydd roeddwn i eisiau dangos i bobl ag anabledd dysgu pa mor bwysig yw cael brechiadau i warchod eich anwyliaid chi, pobl fregus yn eich cymuned a chi'ch hun. Fe wnes i fwynhau’r profiad yn fawr, cwrdd â phobl newydd a chael profiadau newydd a gobeithio y bydd yn arwain at gyfleoedd eraill.”
Dywedodd Jo Parrington, rhiant ofalwr, “O fy safbwynt i, fe fyddwn i’n dweud ei bod yn bwysig iawn darparu ar gyfer pobl ag anabledd dysgu gydag ochr feddygol eu bywydau, mae gan lawer ohonyn nhw, gan gynnwys Faye, broblemau meddygol niferus ac maen nhw’n mynychu ysbytai a meddygfeydd yn amlach na llawer o bobl eraill. Yn sicr mae arnyn nhw angen help ychwanegol i fynd drwy brosesau ac amseriadau apwyntiadau meddygol gan ei fod yn helpu gydag unrhyw orbryder sydd ganddyn nhw. Dydi'r hyn sy'n arferol ac yn normal bob dydd i'r rhan fwyaf o bobl ddim felly ar gyfer y grŵp yma yn ein cymdeithas ni. Rydw i a Faye yn meddwl bod brechu'n bwysig - i warchod eich hun ac eraill. Mae Faye yn teimlo’n gryf iawn am helpu i warchod ei ffrindiau rhag niwed.”
Dr Grace Krause, Swyddog Polisi, Anabledd Dysgu Cymru “Rydw i mor falch ein bod ni wedi cael gwneud y darn pwysig yma o waith. Rydyn ni eisiau helpu i rymuso pobl ag anabledd dysgu i allu siarad a lleisio eu barn am eu hiechyd. Fe ddywedodd y rhan fwyaf o’r bobl wnaethon ni siarad â nhw eu bod nhw wir eisiau cael eu brechu oherwydd eu bod nhw eisiau gwarchod eraill yn ogystal â nhw eu hunain. Ond fe ddywedodd llawer ohonyn nhw wrthym ni hefyd eu bod nhw’n ofnus iawn am deimlo'n ddrwg wedyn. Fe wnaethon nhw ddweud wrthyn ni hefyd eu bod nhw’n aml yn teimlo nad oedd ganddyn nhw ddigon o amser i wneud penderfyniadau ac nad yw’r bobl o’u cwmpas nhw weithiau’n rhoi’r gefnogaeth sydd arnyn nhw ei hangen. Rydw i’n gobeithio y bydd y fideo, y canllaw hawdd ei ddarllen ac adroddiad y prosiect yn helpu pawb sy’n cefnogi pobl ag anabledd dysgu. Eu helpu nhw i wneud penderfyniadau am eu hiechyd a chael y driniaeth maen nhw’n ei haeddu.”