“Bydd y gwerthoedd, yr wybodaeth a’r sgiliau y bydd staff gofal iechyd yn eu cael trwy gwblhau’r hyfforddiant hanfodol hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i brofiad cleifion ag anabledd dysgu.
Mae’r hyfforddiant hwn yn deyrnged i Paul, ac rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Llywodraeth Cymru wrth wneud hyn yn orfodol.”
- Sefydliad Paul Ridd
Roedd Paul Ridd yn byw yng Nghymru. Roedd ganddo anabledd dysgu ac yn 2009 bu farw marwolaeth y gellid bod wedi ei osgoi. Roedd yn bum deg pedwar mlwydd oed. Ers i Paul farw, mae ei deulu ac eraill wedi ymgyrchu dros wella hyfforddiant a chefnogaeth i staff gofal iechyd er mwyn iddynt allu darparu gofal mwy diogel i bobl ag anabledd dysgu. Yn anffodus, nid achos unigryw mo stori Paul.
Mae hyfforddiant Ymwybyddiaeth Anabledd Dysgu Paul Ridd yn orfodol i holl staff GIG Cymru sy’n wynebu’r cyhoedd ei gwblhau. Fe’i lluniwyd ochr yn ochr â phobl ag anabledd dysgu a rhanddeiliaid allweddol o bob rhan o’r gwasanaethau iechyd a’r trydydd sector. Gellir ei gwblhau drwy'r Cofnod Staff Electronig (ESR) neu drwy wefan Learning@Wales. Gwyliwch y fideos isod am ragor o wybodaeth.
Mae'r hyfforddiant yn gwneud staff yn ymwybodol o'r rhwystrau a wynebir gan bobl ag anabledd dysgu wrth gael mynediad at ofal iechyd. Mae'n ymdrin â phynciau gan gynnwys cyfathrebu, deall ac ymateb i ymddygiad, anghenion iechyd pobl ag anabledd dysgu, materion cyfreithiol a pholisi.
Nod yr hyfforddiant a'r fframwaith yw cefnogi staff gofal iechyd i ddatblygu eu hyder a'u galluoedd eu hunain i sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu yn gallu cael gofal iechyd priodol. Mae adeiladu gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd ar draws y gweithlu yn weithred allweddol wrth leihau anghydraddoldebau iechyd i bobl ag anabledd dysgu.