Mae'r rhaglen tair blynedd yn canolbwyntio ar wella canlyniadau llawfeddygol a phrofiad cyffredinol yr ysbyty i gleifion sy'n cael laparotomi brys. Mae'r tîm yn gweithio gyda 13 ysbyty ledled Cymru i dreialu gwelliannau.
Mae'r rhaglen yn dilyn model Cydweithredol Laparotomi Brys y DU . Mae'r rhaglen Laparotomi Cymru Brys yn gweithio gyda thimau amlddisgyblaethol yn yr 13 ysbyty dan sylw ac mae tri arweinydd clinigol yn symud ymlaen â'r gwaith ar draws rhanbarthau lleol.
Mae'r tîm yn gweithio gyda byrddau iechyd ledled Cymru yn ogystal ag arbenigwyr ledled y DU i lywio eu gwaith.
Lansiwyd y rhaglen ym mis Gorffennaf 2018. Mae gwelliannau yn cael eu profi ar hyn o bryd mewn safleoedd ysbytai a byddant yn cael eu defnyddio i wella mesurau canlyniadau Cymru ymhellach.
I ddarganfod mwy am y rhaglen, cysylltwch â Margaret Rennocks, Arweinydd y Rhaglen, Margaret.rennocks@wales.nhs.uk
Mae'r tîm yn gweithio'n agos gyda'r tri arweinydd clinigol rhanbarthol a Thimau Amlddisgyblaethol ar draws pob un o'r 13 safle ysbyty sy'n rhan o'r rhaglen.