Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Diweddaru'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd – Canllawiau i Ymgeiswyr

Darllenwch y ddogfen hon yn ofalus a dilynwch gamau 1 i 4 i sicrhau eich bod yn cwblhau'r holl gamau angenrheidiol.

Mae'n amod cyflogaeth ar gyfer swyddi yn Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) sy'n gofyn am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) eich bod yn tanysgrifio i Wasanaeth Diweddaru’r DBS ac yn cynnal eich tanysgrifiad yn flynyddol cyhyd â'ch bod yn parhau mewn swydd sy'n gofyn am wiriad DBS.  Bydd cost tanysgrifio i'r Gwasanaeth Diweddaru yn cael ei ad-dalu yn eich cyflog pan fyddwch yn dechrau eich cyflogaeth.

Mae tanysgrifio i Wasanaeth Diweddaru'r DBS yn cefnogi diogelu parhaus.  Bydd eich Cofnod Staff Electronig (ESR) yn cael ei gysylltu â Gwasanaeth Diweddaru’r DBS i alluogi gwiriadau statws rheolaidd bob 60 diwrnod.

Beth yw Gwasanaeth Diweddaru'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)?

Mae Gwasanaeth Diweddaru'r DBS yn wasanaeth tanysgrifio ar-lein sy’n cael ei ddarparu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Mae'n caniatáu i unigolion gadw eu tystysgrif DBS yn gyfredol ac yn gludadwy, ac yn galluogi cyflogwyr i wneud gwiriadau statws ar-lein cyflym a rhad ac am ddim yn lle gofyn am wiriad DBS newydd.

Yn y GIG, mae'r Cofnod Staff Electronig (ESR) wedi'i gysylltu'n uniongyrchol â Gwasanaeth Diweddaru'r DBS. Unwaith y bydd tystysgrif DBS wedi'i chofrestru gyda'r Gwasanaeth Diweddaru, mae ESR yn ail-wirio ei statws yn awtomatig bob 60 diwrnod ac yn rhoi gwybod i’r tîm Pobl a Datblygu Sefydliadol yn awtomatig os yw'r wybodaeth ar dystysgrif DBS yn newid (megis dileu neu ychwanegu rhybudd neu euogfarn).

Mae hyn yn helpu Iechyd Cyhoeddus Cymru i wneud y canlynol:

  • Gwella diogelu ar draws ein gwasanaethau
  • Cael hysbysiadau amser real os bydd eich statws DBS yn newid
  • Lleihau'r angen am wiriadau DBS niferus yn y dyfodol
  • Meithrin ymddiriedaeth gyda'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu

Cam 1: Cwblhau'r Cais DBS a'r Gwiriad ID

Rhaid i chi yn gyntaf gwblhau'r cais DBS ar-lein sydd wedi'i gynnwys yn eich pecyn cynnig amodol a chwblhau'r gwiriad hunaniaeth gofynnol. Rhoddir cyfarwyddiadau llawn ar gyfer y camau hyn yn nogfennaeth eich cynnig amodol a rhaid eu cwblhau cyn gynted â phosibl.

Cam 2:  Cymorth drwy Daliad Ymlaen Llaw (Os oes angen)

Os byddai talu'r ffi tanysgrifio o £16 ymlaen llaw yn achosi anhawster ariannol, cysylltwch â’r tîm Cymorth Pobl yn gyfrinachol. Anfonir ffurflen atoch i drefnu trosglwyddiad banc ymlaen llaw.

Mae prosesu'r trosglwyddiad banc fel arfer yn cymryd tuag wythnos, felly gofynnwch am y ffurflen cyn gynted â phosibl i sicrhau bod gennych ddigon o amser i danysgrifio.

Cam 3: Arhoswch am gadarnhad trwy e-bost bod eich cais wedi'i anfon at y DBS

Unwaith y bydd eich cais DBS wedi'i wirio a'i gyflwyno i'r DBS, byddwch yn cael e-bost gan Trac. Bydd yr e-bost hwn yn cynnwys rhif cyfeirnod eich cais DBS, a fydd yn dechrau gyda'r llythyren 'E' ac yna rhif 10 digid o hyd. Cwblhewch Gam 4 cyn gynted ag y byddwch yn cael yr e-bost hwn.

Cam 4: Tanysgrifio i Wasanaeth Diweddaru'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

1.    Ewch i: www.gov.uk/dbs-update-service 
2.    Dewiswch ‘Subscribe to the Update Service’
3.    Dewiswch yr opsiwn i gofrestru trwy ddefnyddio rhif eich cais DBS sy'n dechrau gydag E (neu os oes gennych Dystysgrif DBS eisoes a gyhoeddwyd yn ystod y 30 diwrnod diwethaf, defnyddiwch gyfeirnod y dystysgrif sy'n dechrau gyda 00)
4.    Llenwch y ffurflen gofrestru ar-lein a thalwch £16 drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd
5.    Llenwch y ffurflen Hysbysiad Tanysgrifio i Wasanaeth Diweddaru’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd – mae hwn yn gam pwysig sy'n ein galluogi i ddiweddaru Trac a threfnu i ad-dalu’r ffi tanysgrifio (oni bai bod taliad ymlaen llaw wedi'i drefnu).

Argymhellir yn gryf eich bod yn tanysgrifio cyn gynted â phosibl. Rhaid i chi danysgrifio cyn pen 30 diwrnod calendr o'r dyddiad cyhoeddi a nodir ar eich tystysgrif DBS. Os na fyddwch yn tanysgrifio o fewn yr amserlen 30 diwrnod hon, ni fyddwch yn gallu ymuno â'r Gwasanaeth Diweddaru a bydd angen gwiriad DBS newydd.

Eich Tystysgrif DBS

Bydd tystysgrif DBS bapur yn cael ei hanfon yn uniongyrchol i'ch cyfeiriad cartref. Chi sydd biau’r dystysgrif hon a rhaid ei chadw mewn lle diogel, gan y gallai Iechyd Cyhoeddus Cymru ofyn i’w gweld yn ystod eich cyflogaeth.

Gofyniad Parhaus i Gynnal eich Tanysgrifiad

Rhaid i chi adnewyddu eich tanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru’r DBS bob blwyddyn cyhyd â'ch bod yn parhau i fod yn gyflogedig mewn swydd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n gofyn am wiriad DBS. Gallai methiant i gynnal eich tanysgrifiad effeithio ar eich cyflogaeth barhaus yn y swydd honno.

Cymorth ac Ymholiadau

Os oes gennych gwestiynau am Wasanaeth Diweddaru'r DBS, ad-daliad, neu os hoffech ofyn am daliad ymlaen llaw yn gyfrinachol, cysylltwch â’r tîm Cymorth Pobl.