Dogfen Atgoffa Genedlaethol o’r cyfrifoldebau mewn perthynas â Lladdiadau Iechyd Meddwl a'r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl yn GIG Cymru
Diben y ddogfen atgoffa yw egluro’r ymateb priodol a arweinir gan iechyd ar draws GIG Cymru i achosion o Laddiadau Iechyd Meddwl (MHH), yn enwedig mewn perthynas â'r broses Adolygu Diogelu Unedig Sengl (SUSR) a rheoli Digwyddiadau Diogelwch Cleifion (PSI). Mae'r ddogfen atgoffa genedlaethol yn cynnwys y prosesau mewnol ac allanol disgwyliedig pan fydd lladdiad iechyd meddwl yn digwydd. Nod hyn yw egluro’r cyfrifoldebau a sicrhau cydymffurfedd â rhwymedigaethau statudol a gweithdrefnol.
Mae'r Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol ac is-adran Perfformiad a Sicrwydd GIG Cymru wedi drafftio'r ddogfen atgoffa ar y cyd. Y ffocws oedd egluro:
• Yr angen parhaus am ymchwiliadau iechyd mewnol.
• Y rhyngwyneb rhwng prosesau PSI a SUSR.
• Pwysigrwydd cyngor diogelu cynnar a chydlynu ag ymchwiliadau troseddol.
Ymgysylltu Drwy’r Grŵp Llywio Cenedlaethol
Mae gwaith ymgysylltu ac adborth wedi digwydd gyda chydweithwyr iechyd meddwl drwy Grŵp Llywio Cenedlaethol y Rhaglen Diogelwch Cleifion Iechyd Meddwl, er mwyn sicrhau bod y ddogfen atgoffa yn adlewyrchu safbwyntiau cenedlaethol a realiti gweithredol ar draws GIG Cymru.
Datblygwyd Dogfen Atgoffa PSI MHHR SUSR i amlinellu:
• Diffiniadau a meini prawf ar gyfer lladdiadau iechyd meddwl
• Gofynion adrodd (Datix, Digwyddiad Adroddadwy Cenedlaethol (NRI) a Hysbysiad Rhybudd Cynnar (EWN)).
• Prosesau ymchwilio cyfochrog.
• Cyswllt teuluol.
• Dyletswydd Gonestrwydd, comisiynu ac ystyriaethau trawsffiniol.
• Eglurhad nad yw SUSR yn disodli ymchwiliadau iechyd mewnol.
• Pwyslais ar rôl hanfodol arweinwyr diogelu.
• Cynnwys senarios darparwr annibynnol a gofal rhanbarthol.
Canlyniadau Bwriadedig
• Gwell ansawdd, eglurder a chysondeb mewn ymatebion i laddiadau iechyd meddwl a arweinir gan iechyd.
• Cryfhau’r aliniad rhwng PSI, SUSR, diogelu a phrosesau troseddol.
• Gwell gweithio amlasiantaethol a dealltwriaeth o rolau a chyfrifoldebau
• Cymorth cydlynol i deuluoedd a lleihau risgiau gweithdrefnol yn ystod ymchwiliadau troseddol
NODYN ATGOFFA O GYFRIFOLDEBAU MEWN PERTHYNAS Â LLADDIADAU IECHYD MEDDWL (MMHS) YN GIG CYMRU
REMINDER OF RESPONSIBILITIES IN RELATION TO MENTAL HEALTH HOMICIDE INCIDENTS IN NHS WALES