Neidio i'r prif gynnwy

Adnoddau Diogelu Hyfforddwr-i-Hyfforddwr

Adnoddau Diogelu Hyfforddwr-i-Hyfforddwr

Dod â Hyfforddiant Diogelu yn Fyw

Croeso i dudalennau adnoddau diogelu Hyfforddi'r Hyfforddwr y Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol. Mae’r tudalennau hyn yn cynnwys cyfres o ddeunyddiau o safon uchel, rhad ac am ddim sydd wedi'u cynllunio i gryfhau arferion diogelu ar draws GIG Cymru a sefydliadau partner.

Mae'r adnoddau hyn yn cefnogi ymarferwyr, hyfforddwyr ac arweinwyr diogelu i ymgorffori dysgu cyson, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ar draws eu gwasanaethau. Mae pob pecyn yn cynnwys nodiadau i hyfforddwyr, taflenni i ddysgwyr, ac ymarferion sy'n seiliedig ar senarios wedi'u mapio i:

  • Lefel 3 o'r Ddogfen Ryng-golegol: Rolau a Chymwyseddau ar gyfer staff gofal iechyd
  • Grŵp C Fframwaith Hyfforddiant Diogelu Gofal Cymdeithasol Cymru

 

Ynglŷn â'r Adnoddau

Mae'r Pecynnau Hyfforddiant Diogelu wedi'u cynllunio i helpu hwyluswyr i gyflwyno sesiynau difyr a myfyriol ar themâu diogelu cymhleth.

Mae pob pwnc yn cynnwys:

  • Nodiadau i hyfforddwyr – canllawiau cryno, strwythuredig i gefnogi cyflwyno sesiynau.
  • Taflenni i ddysgwyr – gwybodaeth glir ac ymarferol ar gyfer staff.
  • Dysgu yn seiliedig ar senarios – yn dod â heriau diogelu go iawn yn fyw trwy achosion a ysgrifennwyd a'u gweithredu'n broffesiynol.

Mae'r modiwlau sydd ar gael ar hyn o bryd yn cynnwys:

  • Cydymffurfiaeth ffug
  • Cyfarfodydd Strategaeth
  • Chwilfrydedd Proffesiynol
  • Llais y Gofalwr
  • Rheoli Datgeliadau
  • Galluedd Meddyliol a Gofal Iechyd
  • Codi Llais
  • Meddiannu Cartrefi

Mae pob modiwl wedi'i adeiladu o amgylch profiad bywyd y plentyn neu'r oedolyn. Maent yn annog ymarferwyr i gynnal chwilfrydedd proffesiynol, adnabod cydymffurfiaeth ffug, a gwneud penderfyniadau diogelu amserol a hyderus.

Mae'r deunyddiau hyn yn addas ar gyfer:

  • Hyfforddwyr ac arweinwyr diogelu mewn sefydliadau iechyd a gofal
  • Gweithwyr proffesiynol sy'n darparu hyfforddiant diogelu mewnol
  • Ymarferwyr amlasiantaeth sy'n chwilio am ddealltwriaeth gyffredin ac ymarfer cyson

Fe'u bwriedir i'w haddasu a'u defnyddio ar draws GIG Cymru a chan asiantaethau partner ehangach.
 

Sut i ddefnyddio'r Adnoddau?

Gellir defnyddio adnoddau hyn yn annibynnol, neu fel rhan o raglen ddysgu ddiogelu lawn.

Mae hyfforddwyr yn cael eu hannog i wneud y canlynol:

  1. Adolygu’r nodiadau i hyfforddwyr cyn eu cyflwyno.
  2. Defnyddio’r set sleidiau PowerPoint fel fformat sy'n gosod cyd-destun y fideos. Mae’n rhannu amcanion cyffredinol, ac yn darparu rhybudd cynnwys i’r cyfranogwyr.  
  3. Lawrlwytho a rhannu’r daflen i ddysgwyr ym mhob sesiwn.
  4. Hwyluso myfyrio a thrafod i gysylltu dysgu ag ymarfer go iawn.

 

Adnoddau Cyfryngau Cysylltiedig

Mae'r gyfres hefyd yn cynnwys offer dysgu amlgyfrwng newydd, yn cynnwys:

  • Adnodd ymwybyddiaeth Holiadur Risg Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSERQ)
  • Fideos gwybodaeth ar gyfer teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ar yr Ymateb Gweithdrefnol i Farwolaethau Annisgwyl mewn Plentyndod (PRUDiC)

 

 

     

    Ein Hymrwymiad

    Mae'r Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol wedi ymrwymo i:

    • Hyrwyddo Cymru fwy diogel drwy adnoddau hyfforddi diogelu hygyrch, o safon uchel
    • Cefnogi gwelliant parhaus a dysgu myfyriol ar draws gwasanaethau
    • Cryfhau diwylliant diogelu cyson yn GIG Cymru

     

    Cyswllt: Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol, Iechyd Cyhoeddus Cymru