Lansiwyd Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru ym 1999 yn dilyn rhaglen beilot 4-blynedd fel rhan o fenter Sefydliad Iechyd y Byd/y Comisiwn Ewropeaidd/Cyngor Ewrop - Rhwydwaith Ysgolion Hybu Iechyd Ewropeaidd 1992.
Mae'r 'Ysgol Iach' yn ysgol sy'n cymryd cyfrifoldeb dros gynnal a hyrwyddo iechyd pawb sy'n 'dysgu, gweithio, chwarae a byw' ynddi, nid yn unig drwy addysgu disgyblion yn ffurfiol sut i fyw bywydau iach, ond drwy alluogi disgyblion a staff i gymryd rheolaeth dros agweddau ar yr amgylchedd ysgol sy'n dylanwadu ar eu hiechyd.
Mae mynd ati i hyrwyddo, gwarchod ac ymgorffori iechyd a lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol ei chymuned drwy gamau gweithredu cadarnhaol.
Gellir cyflawni hyn drwy bolisi, cynllunio strategol a datblygu staff ynglŷn â'i chwricwlwm, ethos, amgylchedd ffisegol a chysylltiadau cymunedol.
Lansiwyd y Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy yn genedlaethol yn 2011 ac fe'i datblygwyd fel estyniad o Gynllun Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru ac mae cyfatebiaeth glir rhwng y meini prawf â gwobr Ansawdd Genedlaethol y Cynllun Ysgolion Iach.
Mae dros 575 o sefydliadau bellach yn cymryd rhan yn y cynllun a gall unrhyw sefydliad sy'n cynnig darpariaeth cyn ysgol fynegi diddordeb yn y cynllun, gan gynnwys:
Disgwylir i sefydliadau gyflwyno pynciau gwella iechyd mewn pedwar maes: Arweinyddiaeth a Chyfathrebu; Cynllunio a Chyflawni; Ethos a'r Amgylchedd a Chyfranogiad y Teulu a'r Gymuned gan gwmpasu saith pwnc iechyd: Maeth ac Iechyd y Geg, Gweithgaredd Corfforol/Chwarae Gweithredol, Iechyd Meddyliol ac Emosiynol, Lles a Pherthnasoedd, yr Amgylchedd, Diogelwch, Hylendid ac Iechyd a Lles yn y Gweithle.
Dogfen: Cyllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Meini Prawf y Wobr Genedlaethol [Cymraeg / Saesneg]
Lansiwyd y Fframwaith Addysg Bellach/Addysg Uwch Iach yn 2015 ac fe'i datblygwyd fel estyniad o Gynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwatih Cymru mewn lleoliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach.
Mae'r fframwaith wedi'i rhannu'n chwe phwnc iechyd a phedair agwedd ar fywyd coleg a phrifysgol. Mae'r pynciau iechyd yn cwmpasu iechyd a lles meddyliol ac emosiynol, gweithgarwch corfforol, bwyd iach a chynaliadwy, defnyddio a chamddefnyddio sylweddau, iechyd a pherthnasoedd personol a rhywiol, amgylchedd cynaliadwy.
Mae agweddau ar fywyd coleg a phrifysgol yn cwmpasu: llywodraethu, arwain a rheoli; cyfleusterau, yr amgylchedd a darparu gwasanaethau; cymunedau a chyfathrebu; a datblygiad academaidd, personol, cymdeithasol a phroffesiynol.
Gemma Cox
Prif Swyddog Iechyd Cyhoeddus– Lleoliadau Addysgol
Ffôn: 01792 940959
Ebost: Gemma.Cox@wales.nhs.uk