Mae past dannedd fflworid yn helpu i gadw dannedd yn gryf.
- Gall plant ddefnyddio past dannedd sy'n cynnwys fflworid (1000- 1450ppm F)
- Brwsiwch ddannedd eich plentyn ddwywaith y dydd, yn enwedig cyn mynd i’r gwely gyda’r nos
- Ar gyfer plant o dan 3 oed, defnyddiwch haen denau o bast dannedd yn unig
- Ar gyfer plant dros 3 oed, defnyddiwch swm sydd yr un faint â physen
I blant o dan 3 I blant dros 3
- Mae angen cymorth i frwsio ar blant o dan 8 oed
- Peidiwch â gadael iddynt rinsio eu cegau ar ôl brwsio, yn hytrach dylent boeri’r past dannedd allan yn unig
- POERI NID RINSIO yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddefnyddio past dannedd fflworid
- Cofiwch fynd â brwsh a phast dannedd eich plentyn gyda chi pan fyddwch yn ymweld â theulu a ffrindiau a phan fyddwch yn mynd ar eich gwyliau
- Hyd yn oed os bydd eich plentyn yn ymuno â rhaglen brwsio dannedd mewn meithrinfa/yn yr ysgol, mae’n dal i fod yn bwysig iddynt frwsio ei ddannedd gartref ddwywaith y dydd, yn enwedig cyn mynd i'r gwely
I gael cyngor ar beth i'w wneud os na fydd eich plentyn yn caniatáu ichi frwsio ei ddannedd,cliciwch yma.