Neidio i'r prif gynnwy

Gweminar Rhad ac Am Ddim Cymru Iach ar Waith: Rheoli Absenoldeb oherwydd Salwch ar gyfer Cyflogwyr

Ymunwch â Gweminar Rhad ac Am Ddim Cymru Iach ar Waith: Rheoli Absenoldeb oherwydd Salwch ar gyfer Cyflogwyr 

 

Dydd Iau  14 Tachwedd 2024 | Amser: 10:30 – 11:30 | Platfform: Microsoft Teams 

 

Mae Cymru Iach ar Waith (CIW) yn teimlo’n gyffrous wrth gynnig gweminar am ddim: Rheoli Absenoldeb oherwydd Salwch.

Wrth i anghenion gweithwyr ddatblygu ac wrth i gostau godi, mae cael strategaethau effeithiol ar gyfer absenoldeb oherwydd salwch yn bwysicach nag erioed. Bydd y sesiwn hon, a letyir gan Gynghorwyr CIW, yn rhoi’r cipolwg sydd ei angen arnoch i hybu llesiant yn y gweithle a lleihau absenoldeb oherwydd salwch. 

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu: 

  • Tueddiadau o ran absenoldeb oherwydd salwch yng Nghymru a’r DU  
  • Sut i gael gweithwyr i ymwneud â dulliau ataliol mewn perthynas ag iechyd 
  • Cipolwg gan Cartrefi Melin ar reoli absenoldeb oherwydd salwch yn effeithiol 
  • Sut i gael gafael ar adnoddau gan gynnwys pecyn e-ddysgu am ddim ar reoli absenoldeb oherwydd salwch. 
  • Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i gael gwybodaeth ac adnoddau gwerthfawr i gefnogi eich sefydliad. 

Gallwch gymryd rhan am ddim. 

Siaradwyr: 

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: iechydynygweithle@wales.nhs.uk

 

Cofrestrwch yma erbyn dydd Iau 07 Tachwedd:

Rheoli Absenoldeb oherwydd Salwch