Iechyd meddwl cyffredin a chyflyrau llesiant yn y gweithle:
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn teimlo'n drist weithiau. Fodd bynnag mae fel arfer yn bosib gwella hwyliau isel drwy wneud newidiadau bach i'ch bywyd.
Gall symptomau hwyliau isel gynnwys:
Os yw'r teimladau o hwyliau isel yn para pythefnos neu fwy, gallai hyn fod yn arwydd o iselder.
Yn ogystal â'r uchod, gall symptomau iselder gynnwys:
Mae gan y GIG adnodd hunanasesu a all helpu unigolion i nodi sut maent yn teimlo a chysylltiadau ag ystod o gefnogaeth a sefydliadau hunangymorth a all helpu gyda hwyliau isel, tristwch ac iselder.
GIG Hwyliau isel, tristwch ac iselder (Saesneg yn unig)
Gweler hefyd Rheoli cyflyrau iechyd meddwl yn y gweithle ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau cymorth iechyd meddwl ledled Cymru.
Mae cysylltiad agos rhwng straen a gorbryder ac maent yn rhannu llawer o'r un symptomau.
Straen yw ymateb y corff i fygythiad neu sefyllfa (dirboenwr). Mae pobl sydd â straen fel arfer yn ymwybodol y byddai eu lefelau straen yn gostwng pe gallent ddatrys eu straen. Fel arfer mae hyn yn wir. Fodd bynnag, gall effaith gronnus llawer o dirboenwyr bach arwain at straen cronig.
Mae gorbryder yn set o deimladau sy'n digwydd hyd yn oed os nad oes straeniau amlwg. Yn wahanol i straen, mae sawl math o anhwylder gorbryder diagnosadwy. (Darganfod mwy am ystod o gyflyrau iechyd meddwl)
Gall symptomau straen a gorbryder gynnwys:
Symptomau corfforol |
Symptomau meddyliol |
Newidiadau mewn Ymddygiad |
cur pen neu bendro tyndra neu boen yn y cyhyrau problemau stumog poen yn y frest neu guriad calon cyflymach problemau rhywiol |
anhawster canolbwyntio brwydro i wneud penderfyniadau teimlo wedi eich llethu poeni’n gyson bod yn anghofus |
bod yn llidiog a bachog cysgu gormod neu ddim digon bwyta gormod neu ddim digon osgoi rhai mannau neu bobl yfed neu ysmygu mwy |
Y rheswm pwysicaf dros ddeall a yw unigolyn naill ai dan straen neu'n orbryderus yw gallu adnabod yr opsiynau triniaeth gorau. Anaml iawn y caiff gorbryder ei reoli gyda dim ond newidiadau ffordd o fyw a/neu yn y gweithle a gall fod angen opsiynau triniaeth fel therapi a/neu feddyginiaeth (Gweler Rheoli cyflyrau iechyd meddwl yn y gweithle). Er bod symptomau straen yn debyg, efallai y bydd gweithwyr yn gallu adnabod eu dirboenwr ac awgrymu newidiadau i'r gweithle a allai eu helpu.
Am ragor o wybodaeth a chefnogaeth ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl, gweler ein partneriaid dibynadwy isod: