Mae ADHD UK wedi creu pecyn llesiant i helpu pobl ag ADHD yn y gweithle. Mae wedi’i ddylunio i gynorthwyo’r sgwrs rhwng cyflogwr a chyflogai ag ADHD, gyda’r nod o gynyddu cyd-ddealltwriaeth a helpu i nodi addasiadau rhesymol.
Mae’r wefan yn darparu gwybodaeth am awtistiaeth ac yn argymell gwasanaethau a chyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael ar-lein a ledled Cymru. Mae yna fideo defnyddiol sy’n esbonio ‘beth yw awtistiaeth’ ac ystod o adnoddau y gellir eu lawrlwytho a ddatblygwyd gyda phobl awtistig, rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ledled Cymru.
Mae gan TUC Cymru Becyn Cymorth Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth yn y Gweithle.
Mae Cymorth Dyslecsia Cymru yn cynnig gwybodaeth a chysylltiadau i rieni, gofalwyr, addysgwyr, cyflogwyr, busnes ac asiantaethau’r trydydd sector. Maent yn gweithio ledled Cymru, yn helpu unigolion â dyslecsia i gyrraedd eu potensial llawn.
Mae Cymdeithas Dyslecsia Prydain yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad ar ddyslecsia a dyscalcwlia a phecyn offer i gyflogwyr ar weithleoedd sy’n ystyriol o ddyslecsia.
Datblygwyd y pecyn offer hwn i reolwyr llinell gan Rwydwaith Dyslecsia a Dyspracsia y Gwasanaeth Sifil i gynorthwyo rheolwyr llinell a’r rhai â dyslecsia, dyspracsia, dyscalcwlia a dysgraffia i gael sgyrsiau safonol a gwybodus. Mae’n cynnwys gwybodaeth am y ‘Pasbort Addasu’r Gweithle’ a ddatblygwyd gan y gwasanaeth sifil.
Mae’r Fforwm Anabledd Busnes (BDF) yn sefydliad aelodaeth nid-er-elw sy’n ceisio hyrwyddo cynhwysiant pobl anabl yn y gweithle. Mae’n darparu adnoddau, cymorth ac arweiniad i fusnesau i’w helpu i ddod yn fwy deallus ynglŷn ag anabledd, cynnig cyngor ar bynciau fel hygyrchedd, addasiadau rhesymol, recriwtio cynhwysol a chymorth i gyflogeion.
Taflen ffeithiau i gyflogwyr: Syndrom Tourette
Mae gan ACAS ystod o fideos byr ar rai cyflyrau niwrowahanol unigol sydd ar gael yma.
Mae’n darparu cymorth, arweiniad a chyngor gan gynnwys gwybodaeth gyffredinol am ystod o bynciau, er enghraifft cyflogaeth a datblygiad proffesiynol.