Cyhoeddwyd: 04 Mai 2021
Yn ystod hydref a gaeaf 2020/21 mae mwy o bobl yng Nghymru wedi cael brechiad y ffliw na mewn unrhyw flwyddyn flaenorol arall.
Ychydig iawn o ffliw a welwyd y tymor yma. Mae hyn yn debygol o fod o ganlyniad i bobl yn dilyn canllawiau diogelwch COVID-19, fel cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo'n drwyadl yn rheolaidd, yn ogystal â chael brechiad rhag y ffliw.
Cynyddodd nifer y bobl a gafodd y brechiad ar draws y grwpiau cymwys, gyda mwy na 76.5 y cant o bobl 65 oed a hŷn yn cael y brechiad y gaeaf yma.
Cynyddodd nifer y plant dwy a thair oed a gafodd y brechiad hefyd - grŵp allweddol ar gyfer helpu i reoli a chyfyngu ar ledaeniad y feirws ffliw, gweithwyr gofal iechyd a'r rhai â chyflyrau iechyd hirdymor.
Mae'r rhai sy'n gymwys i gael brechiad ffliw y GIG am ddim yn rheolaidd yn cynnwys pobl â chyflyrau iechyd hirdymor, pobl 65 oed a hŷn, merched beichiog, plant rhwng dwy a deng mlwydd oed, gofalwyr, gofalwyr cartref a staff cartrefi gofal sydd â chyswllt rheolaidd â chleientiaid, yn ogystal â phreswylwyr cartrefi gofal. Argymhellir yn gryf hefyd bod gweithwyr gofal iechyd sy’n gofalu’n uniongyrchol am gleifion yn cael y brechiad bob blwyddyn, er mwyn helpu i'w diogelu eu hunain a'r rhai maent yn gofalu amdanynt.
Yn ogystal, ychwanegwyd grwpiau newydd eleni, i helpu i ddiogelu mwy o bobl. Roedd hyn yn cynnwys cysylltiadau cartref unigolion ar restr gwarchod rhag COVID-19 y GIG, a phobl ag anabledd dysgu, a chafodd yr oedran cymhwyso ei ymestyn i 50, gan olygu y gallai pawb 50 oed a hŷn gael brechiad y ffliw am ddim, ac felly dyma'r rhaglen ffliw genedlaethol fwyaf erioed hyd yma.
Dywedodd Dr Richard Roberts, Pennaeth y Rhaglen Afiechydon Ataliadwy Trwy Frechu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, "Mae'n newyddion gwych bod mwy o bobl nag erioed wedi cael brechiad rhag y ffliw y llynedd. Er mai ychydig iawn o ffliw a welwyd yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gallai'r ffliw ddod yn ôl yn gryfach y gaeaf nesaf pan fydd y mesurau presennol yn cael eu llacio. Mae’r ffliw yn parhau i fod yn haint feirol peryglus, ac mewn blynyddoedd gwael mae wedi arwain at fwy nag 20,000 o farwolaethau yn y DU dros gyfnod y gaeaf. Mae GIG Cymru eisoes yn cynllunio'r brechiadau ffliw ar gyfer yr hydref nesaf."