Neidio i'r prif gynnwy

Enillwyr Gwobrau Curwch Ffliw 2021

 

 

Beat Flu

Enillwyr Gwobrau Curwch Ffliw 2021

Cyhoeddwyd: 05 May 2021


Mae enillwyr y Gwobrau Curwch Ffliw blynyddol yng Nghymru wedi cael eu cyhoeddi.

Mae'r gwobrau hyn yn cydnabod ac yn dathlu ymdrech anhygoel unigolion a thimau yng Nghymru sydd wedi gweithio'n galed i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo brechiad y ffliw yng Nghymru yn ystod y gaeaf heriol iawn yma.

 

Gwobr Hyrwyddwr Curwch Ffliw

Gwobr unigol sy'n agored i unrhyw un sy'n ymwneud ag unrhyw elfen o'r rhaglen ffliw yng Nghymru, sydd wedi dangos ymrwymiad ac ymroddiad i wella'r niferoedd sy'n cael brechiad y ffliw.

Enillydd: Linda Tadgell, Arbenigwr Nyrsio Clinigol, Meddygaeth Resbiradol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mae Ms Tadgell wedi dangos ymrwymiad mawr yn ei rôl fel brechwr cydweithwyr, gan ddyblu bron nifer y brechiadau ffliw mae wedi'u rhoi i staff o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae wedi helpu i greu diwylliant o ymgysylltu ynghylch ymgyrch y ffliw gan ddefnyddio ei gwybodaeth a'i phrofiad o frechu rhag y ffliw i gefnogi holl staff yr ysbyty. Gan dargedu meysydd blaenoriaeth uchel allweddol (a chefnogi cydweithwyr i wneud y penderfyniad cywir i amddiffyn eu hunain ac eraill drwy gael eu brechu) mae Ms Tadgell wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflwyno'r rhaglen ffliw.

Canmoliaeth Uchel: Emma Williams, Nyrs Practis, Meddygfa Gwalchmai, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Nyrs Practis sydd bob amser yn fodlon mynd yr ail filltir er budd ei chleifion.
 

Gwobr Tîm Curwch Ffliw

Roedd y wobr hon yn agored i unrhyw dîm sy’n ymwneud â rhaglen y ffliw yng Nghymru.

Enillydd: Alison Jones, Gofal Sylfaenol Fferyllfa Gymunedol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Rhianydd Davies, Iechyd Galwedigaethol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Roedd y tîm hwn yn cynnwys cydweithio rhwng y bwrdd iechyd a'r awdurdod lleol i annog staff gofal cymdeithasol i gael brechiad y ffliw. Rhoddodd fferyllfeydd cymunedol frechiadau mewn clinigau a sefydlwyd mewn swyddfeydd/adeiladau cyngor gwag. Mae'r cydweithio hwn wedi’i nodi fel llwyddiant mawr, gan y cyngor, y fferyllwyr cymunedol ac yn arbennig y staff a ddefnyddiodd y gwasanaeth.

Canmoliaeth Uchel: Tîm Brechu’r Gyfarwyddiaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Cydweithiodd y tîm yma’n frwdfrydig, gan gynnig cyfuniad o ddulliau gweithredu oedd yn sicrhau bod y brechiad yn cael ei ddarparu mewn ffordd amserol, effeithiol a hygyrch i staff y bwrdd iechyd.    
 

Gwobr Cydraddoldeb a Chynhwysiant Curwch Ffliw

Gwobr sy'n agored i unrhyw un sy'n ymwneud â'r rhaglen ffliw yng Nghymru ac sydd wedi rhoi sylw i annhegwch, anghydraddoldeb neu gynhwysiant.

Enillydd: Cath Hughes, Nyrs Imiwneiddio, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Drwy waith caled, dyfalbarhad a chyffyrddiad personol, mae Ms Hughes wedi meithrin perthynas o ymddiriedaeth gydag ysgol Fwslimaidd annibynnol nad yw wedi ymwneud yn flaenorol â'r rhaglen ffliw flynyddol ar gyfer disgyblion, gan helpu i roi sylw i bryderon, a hwyluso brechu rhag y ffliw i'r disgyblion. Gweledigaeth Ms Hughes yw meithrin perthynas, cydweithio, cynhwysiant a thegwch.
 

Gwobr Cyflawniad Bwrdd ac Ymddiriedolaeth Iechyd Curwch Ffliw

Roedd y wobr hon yn ystyried y niferoedd sydd wedi cael brechiad y ffliw mewn byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn GIG Cymru. Panel arbenigol oedd y beirniaid, a ystyriodd y data ar gyfer gwella a chyflawni.     

Enillydd: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)

Mae BIPBC wedi sicrhau cynnydd o bron i 15 y cant yn nifer y staff rheng flaen sydd wedi cael brechiad y ffliw o gymharu â’r llynedd. Mae wedi dangos y cynnydd mwyaf ymhlith yr holl fyrddau/ymddiriedolaethau iechyd yng Nghymru, sy’n golygu bod 2,000 o staff rheng flaen ychwanegol wedi cael eu brechu eleni. Cyflawniad gwych mewn blwyddyn mor heriol.   
              

Gwobr Cyflawniad Meddygfa Curwch Ffliw

Ystyriodd y panel arbenigol oedd yn barnu’r wobr hon y niferoedd sydd wedi cael brechiad y ffliw mewn meddygfeydd ledled Cymru, ar draws elfennau amrywiol y rhaglen.              

Enillydd: Canolfan Feddygol Isca, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Cynyddodd y feddygfa hon y niferoedd sydd wedi cael brechiad y ffliw ar draws yr holl grwpiau cymwys, gyda’r cynnydd mwyaf yn y niferoedd sydd wedi cael brechiad y ffliw ymhlith y grŵp cyflyrau iechyd tymor hir yng Nghymru. Cynnydd o 32.5 y cant.    

Gyda mwy na 70 y cant wedi cael y brechiad yn y grŵp hwn, a mwy nag 80 y cant ymhlith y rhai 65 oed a hŷn, a phlant dwy a thair oed, maent yn enillwyr teilwng y Wobr Cyflawniad Meddygfa.