Archwiliodd un astudiaeth o ansawdd da(3) a dwy astudiaeth o ansawdd cymedrol (1, 2) ymyriadau newid ymddygiad aml-gydrannol ar gyfer lleihau ffactorau risg coronaidd mewn cleifion sy'n aros am Grafftiad i Ddargyfeirio'r Rhydwelïau Coronaidd.
Roedd y tri ymyriad yn cael eu harwain gan nyrsys(1-3) a'u nod oedd mynd i'r afael â ffactorau risg clefyd coronaidd y galon ac annog a hwyluso newid ymddygiad. Roedd dwy astudiaeth yn cynnwys sesiynau misol gyda nyrs(2, 3), tra bod un yn cynnwys sesiwn gychwynnol a galwad ffôn misol ddilynol(1). Cafodd ymyriadau pellach, cyngor a thriniaeth fel meddyginiaeth a chwnsela eu teilwra ar gyfer cyfranogwyr unigol yn seiliedig ar y ffactorau risg ymddygiadol a nodwyd o'r sesiynau dan arweiniad nyrsys.(1-3) Roedd un astudiaeth yn ceisio chwalu camdybiaethau cyffredin am y galon hefyd, ac roedd hefyd yn cynnwys rhaglen ymlacio.(1)
Cymharwyd ymyriadau â gofal arferol(3), neu addysg a chwnsela nyrsys nad oedd yn benodol i gamdybiaethau'r galon(1). Nid yw un astudiaeth yn nodi'r hyn a gafodd y grŵp rheolydd.(2)
Mae tystiolaeth o ansawdd da neu gymedrol i awgrymu bod ymyriadau newid ymddygiad aml-gydrannol ar gyfer lleihau ffactorau risg coronaidd mewn cleifion sy'n aros am Grafftiad i Ddargyfeirio'r Rhydwelïau Coronaidd yn debygol o fod yn effeithiol ar gyfer y canlyniadau canlynol:
Iselder:
Gallai fod yn effeithiol (dwy astudiaeth(1, 2) o ansawdd cymedrol yn dangos gwelliannau yn y grŵp ymyriad o'i gymharu â'r grŵp rheolydd. Un astudiaeth o ansawdd cryf(3) yn dangos nad oedd unrhyw effaith ar gyfer y grŵp ymyriad o gymharu â’r grŵp rheolydd).
Costeffeithiolrwydd:
Gallai fod yn gost-effeithiol (un astudiaeth o ansawdd cryf(3) ac un o ansawdd cymedrol yn dod i'r casgliad y gallai'r ymyriad gael ei ystyried yn gost effeithiol).
Mae'r dystiolaeth ar gyfer ymyriadau aml-gydrannol newid ymddygiad ar gyfer lleihau ffactorau risg coronaidd mewn cleifion sy'n aros am Grafftiad i Ddargyfeirio'r Rhydwelïau Coronaidd yn anghyson ar gyfer y canlyniadau canlynol:
BMI (ffactor risg clefyd coronaidd y galon):
Anghyson (un(3) astudiaeth o ansawdd cryf ac un o ansawdd cymedrol(2); effeithiau anghyson ar draws astudiaethau).
Pwysedd gwaed (ffactor risg clefyd coronaidd y galon):
Anghyson (un(3) astudiaeth o ansawdd cryf ac un o ansawdd cymedrol(2); effeithiau anghyson ar draws astudiaethau).
Ansawdd bywyd sy'n gysylltiedig ag iechyd:
Anghyson (un(3) astudiaeth o ansawdd cryf ac un o ansawdd cymedrol(2); effeithiau anghyson ar draws astudiaethau).
Mae tystiolaeth o ansawdd da neu gymedrol i awgrymu bod ymyriadau newid ymddygiad amlgydrannol ar gyfer lleihau ffactorau risg coronaidd mewn cleifion sy'n aros am Grafftiad i Ddargyfeirio'r Rhydwelïau Coronaidd yn debygol o fod yn aneffeithiol ar gyfer y canlyniadau canlynol:
Gorbryder:
Efallai na fydd yn effeithiol (Un astudiaeth o ansawdd cryf(3) ac un o ansawdd cymedrol(1) yn dangos nad oedd unrhyw effaith ar gyfer y grŵp ymyriad o gymharu â’r grŵp rheolydd. Dangosodd un astudiaeth o ansawdd cymedrol(2) welliant yn y grŵp ymyriad o gymharu â'r grŵp rheolydd).
Colesterol (ffactor risg clefyd coronaidd y galon):
Efallai na fydd yn effeithiol (Un astudiaeth o ansawdd cryf (3) ac un o ansawdd cymedrol(2)a'r ddwy’n dangos nad oedd unrhyw welliant yng nghyfanswm lefelau colesterol ar gyfer y grŵp ymyriad o gymharu â'r grŵp rheolydd. Dangosodd un astudiaeth(2) o ansawdd cymedrol welliant mewn crynodiad colesterol plasma cymedrig yn y grŵp ymyriad o gymharu â'r grŵp rheolydd).
Mae'r dystiolaeth ar gyfer ymyriadau aml-gydrannol newid ymddygiad ar gyfer lleihau ffactorau risg coronaidd mewn cleifion sy'n aros am Grafftiad i Ddargyfeirio'r Rhydwelïau Coronaidd yn ddiffygiol ar gyfer y canlyniadau canlynol:
Gweithrediad corfforol:
Gallai fod yn effeithiol (Un astudiaeth o ansawdd cymedrol yn dangos gwelliant arwyddocaol ar gyfer y grŵp ymyriad o gymharu â’r grŵp rheolydd).(1)
Camdybiaethau cardiaidd:
Gallai fod yn effeithiol (Un astudiaeth o ansawdd cymedrol yn dangos effaith arwyddocaol ar gyfer y grŵp ymyriad o gymharu â’r grŵp rheolydd).(1)
Digwyddiadau niweidiol:
Nododd un astudiaeth o ansawdd cymedrol nad oedd unrhyw ddigwyddiadau niweidiol difrifol o'r ymyriad.(1)
Rhoi'r gorau i ysmygu (ffactor risg clefyd coronaidd y galon):
Gallai fod yn effeithiol (Un astudiaeth o ansawdd cymedrol yn dangos effaith arwyddocaol ar gyfer y grŵp ymyriad o gymharu â’r grŵp rheolydd).(2)
Gweithgarwch corfforol (ffactor risg clefyd coronaidd y galon):
Gallai fod yn effeithiol (Un astudiaeth o ansawdd cymedrol yn dangos effaith arwyddocaol ar gyfer y grŵp ymyriad o gymharu â’r grŵp rheolydd).(2)
Boddhad cleifion:
Adroddodd un astudiaeth o ansawdd cymedrol fod cleifion, yn gyffredinol, yn fodlon â'r ymyriad.(2)
Y gallu i gyffredinoli:
Cynhaliwyd y tair astudiaeth yn y DU ac felly efallai y gellir eu cyffredinoli i Gymru.(1-3)
Cymhwysedd:
Roedd y dystiolaeth ar gyfer y canlyniadau a restrir uchod yn deillio o gleifion a oedd yn aros am lawdriniaeth Grafftiad i Ddargyfeirio'r Rhydwelïau Coronaidd, ac felly efallai na fydd yn berthnasol i gleifion sy'n aros am lawdriniaethau dewisol eraill.
Os ydych yn parhau â’r ymyriad hon:
Awgrymir bod angen gwaith ymchwil cadarn pellach a gwerthuso effaith yn drylwyr.
Archwiliodd un astudiaeth(5) o ansawdd cymedrol ymyriad hunanreoli addysgol a seicolegol aml�gydrannol ar gyfer cleifion ar restrau aros am osod clun neu ben-glinnewydd cyflawn a chymharu hyn â grŵp rheolydd arferol.
Roedd yr ymyriad yn cynnwys sesiwn gosod nodau wyneb yn wyneb (cyfweliad 'Partneriaid mewn Iechyd') gyda nyrs ymchwil a llunio cynllun gofal hunanreoli manwl, ynghyd â sgyrsiau ffôn misol dilynol i atgyfnerthu strategaethau hunanreoli (nifer cyfartalog y galwadau a wnaed i bob cyfranogwr oedd 5.2). Roedd cyfranogwyr yn y grŵp ymyriad yn cael mynediad at gydran addysg draddodiadol a galwadau ffôn cefnogaeth gan gymheiriaid hefyd. Gwelwyd cleifion eto ar ôl chwe mis, ni waeth a oeddent wedi cael llawdriniaeth ai peidio.
Mae'r dystiolaeth o effeithiolrwydd ymyriadau hunanreoli addysgol a seicolegol aml-gydrannol i gleifion sy'n aros am osod clun neu ben-glin newydd cyflawn yn ddiffygiol ar gyfer y canlyniadau canlynol:
Stiffrwydd:
Gallai fod yn effeithiol (un astudiaeth o ansawdd cymedrol yn dangos effaith arwyddocaol ar gyfer y grŵp ymyriad o gymharu â’r grŵp rheolydd).(5)
Effaith Addysg Iechyd2:
Anghyson (un astudiaeth o ansawdd cymedrol, effeithiau anghyson ar draws y gwahanol barthau a fesurwyd).(5)
Poen:
Efallai na fydd yn effeithiol (un astudiaeth o ansawdd cymedrol yn dangos nad oedd unrhyw effaith ar gyfer y grŵp ymyriad o gymharu â’r grŵp rheolydd).(5)
Gweithrediad:
Efallai na fydd yn effeithiol (un astudiaeth o ansawdd cymedrol yn dangos nad oedd unrhyw effaith ar gyfer y grŵp ymyriad o gymharu â’r grŵp rheolydd).(5)
Ansawdd Bywyd sy'n Gysylltiedig ag Iechyd:
Efallai na fydd yn effeithiol (un astudiaeth o ansawdd cymedrol yn dangos nad oedd unrhyw effaith ar gyfer y grŵp ymyriad o gymharu â’r grŵp rheolydd).(5)
Iselder:
Efallai na fydd yn effeithiol (un astudiaeth o ansawdd cymedrol yn dangos nad oedd unrhyw effaith ar gyfer y grŵp ymyriad o gymharu â’r grŵp rheolydd).(5)
Sylwadau'r Gwasanaeth Tystiolaeth:
Dylid nodi bod rhai cyfranogwyr yn y grwpiau ymyriad a dan reolaeth wedi cael llawdriniaeth yn ystod y cyfnod dilynol, ond eu bod yn dal i gael eu cyfrif yn y dadansoddiadau, felly mae'r canfyddiadau'n ymwneud â chyfranogwyr sy'n dal i aros am lawdriniaeth ac sydd eisoes wedi cael llawdriniaeth.
Cynhaliwyd yr ymyriad yn Awstralia(5), felly dylid ystyried ymhellach a ellid ei gyffredinoli i Gymru.
Roedd y dystiolaeth ar gyfer y canlyniadau a restrir uchod yn deillio o gleifion a oedd yn aros am lawdriniaeth gosod clun neu ben-glin newydd cyflawn, ac felly efallai na fydd yn berthnasol i gleifion sy'n aros am lawdriniaethau dewisol eraill.
Awgrymir bod angen gwaith ymchwil cadarn pellach a gwerthuso effaith yn drylwyr.
Archwiliodd un astudiaeth(4) o ansawdd cymedrol effaith rhaglen rheoli poen aml-gydrannol i gleifion sy'n aros am lawdriniaeth clun newydd cyflawn a chymharu hyn â grŵp rheolydd nad oedd yn derbyn unrhyw ymyriad.
Cafodd y rhaglen rheoli poen a dderbyniwyd gan y grŵp ymyriad ei chyflwyno mewn sesiynau grŵp 1-2 fore'r wythnos dros 6 wythnos. Nod y rhaglen oedd addysgu cleifion i sicrhau newid ymddygiad a mynd i'r afael ag ofnau. Roedd yn cynnwys technegau seicolegol, ymarferol a chorfforol ar gyfer lleihau poen, anabledd a'i effaith ar hwyliau, rôl gymdeithasol a defnyddio gofal iechyd. Roedd ymlacio a ddysgwyd wedi'i gynnwys hefyd.
Roedd pob cyfranogwr gwaeth beth fo'r dyraniad grŵp yn derbyn gwybodaeth a chyngor ysgrifenedig hefyd, a chyfarwyddiadau ymarfer corff cyn cael eu hapddewis ar gyfer yr astudiaeth. Yn y grŵp ymyriad, pwysleisiwyd yr ymarfer hwn yn gryf fel rhan o'r rhaglen rheoli poen, ond ni phwysleisiwyd yr ymarfer ymhellach ar gyfer y grŵp rheolydd.
Mae'r dystiolaeth o effeithiolrwydd rhaglenni rheoli poen aml-gydrannol i gleifion ar restrau aros am glun newydd cyflawn yn ddiffygiol ar gyfer y canlyniadau canlynol:
Poen:
Gallai fod yn effeithiol (un o ansawdd cymedrol yn dangos gwelliant arwyddocaol yn y grŵp ymyriad o gymharu â'r grŵp rheolydd).(4)
Statws Iechyd:
Efallai na fydd yn effeithiol (un astudiaeth o ansawdd cymedrol yn dangos nad oedd unrhyw effaith ar gyfer y grŵp ymyriad o gymharu â’r grŵp rheolydd).(4)
Gweithrediad:
Efallai na fydd yn effeithiol (un astudiaeth o ansawdd cymedrol yn dangos nad oedd unrhyw effaith ar gyfer y grŵp ymyriad o gymharu â’r grŵp rheolydd).(4)
Defnydd o gyffuriau poenleddfol:
Efallai na fydd yn effeithiol (un astudiaeth o ansawdd cymedrol yn dangos nad oedd unrhyw effaith ar gyfer y grŵp ymyriad o gymharu â’r grŵp rheolydd).(4)
Oedi/canslo llawdriniaeth:
Efallai na fydd yn effeithiol (un astudiaeth o ansawdd cymedrol yn dangos dim gwahaniaethau rhwng y grŵp ymyriad a'r grŵp rheolydd mewn penderfyniadau i gael llawdriniaeth i osod clun newydd cyflawn).(4)
Cynhaliwyd yr astudiaeth yn y DU,(4), ac felly efallai y gellir ei chyffredinoli i Gymru.
Roedd y dystiolaeth ar gyfer y canlyniadau a restrir uchod yn deillio o gleifion a oedd yn aros am lawdriniaeth i osod clun newydd cyflawn, ac felly efallai na fydd yn berthnasol i gleifion sy'n aros am lawdriniaethau dewisol eraill.
Awgrymir bod angen gwaith ymchwil cadarn pellach a gwerthuso effaith yn drylwyr.