Cyflwyniad
Crynodebau Tystiolaeth Rhagsefydlu
Tystiolaeth Graddio Allweddol
Dulliau
Nod ymyriadau rhagsefydlu yw gwella iechyd a lles cyffredinol cleifion cyn llawdriniaeth fawr trwy ymyrryd yn y cyfnod cyn y llawdriniaeth i addasu ffactorau risg ymddygiad a ffordd o fyw a allai gael effaith gadarnhaol ar ganlyniadau cyn y llawdriniaeth ac yn yr hirdymor. Gall arosiadau hir am lawdriniaeth effeithio'n negyddol ar gleifion a gallent brofi canlyniadau iechyd gwaeth. Ar hyn o bryd, mae amseroedd aros y GIG ar eu huchaf erioed, gyda rhai o feysydd llawfeddygaeth ddewisol yn profi rhestrau aros arbennig o hir. Hwyrach y gellid treulio’r amser yn aros am lawdriniaeth yn well trwy baratoi cleifion, gan ddefnyddio rhagsefydlu fel ymyriad allweddol i wella iechyd cyn llawdriniaeth.
Nod y crynodeb hwn o dystiolaeth pwnc yw nodi ac archwilio'r cwestiynau canlynol:
Lluniwyd y crynodebau tystiolaeth isod o 57 o astudiaethau sylfaenol sy'n bodloni meini prawf cynhwysiant rhagddiffiniedig. Er mwyn ystyried eu cynnwys, roedd angen astudiaethau i asesu effeithiolrwydd ymyrraeth rhagsefydlu benodol (nid rhan o ofal cyn-lawfeddygaeth arferol) ac adrodd ar ganlyniad iechyd cyn llawdriniaeth mewn oedolion. Ni chafodd astudiaethau gyda chanlyniadau ôl-lawdriniaeth yn unig eu cynnwys.
Yn seiliedig ar ddata a gasglwyd o'r ffynonellau a nodwyd, mae ymyriadau wedi'u categoreiddio a'u hasesu gan ddefnyddio cynllun graddio, i bennu'r rhai y mae'r dystiolaeth yn awgrymu a allai fod yn effeithiol, neu’n aneffeithiol a'r rhai y mae'r dystiolaeth ar eu cyfer yn ddiffygiol, yn wael neu'n amhendant ar gyfer amrywiaeth o ganlyniadau. Lluniwyd naw crynodeb o dystiolaeth, gan archwilio gwahanol arddulliau o ymyriadau ar draws gwahanol arbenigeddau llawfeddygol. Yn ogystal, cynhyrchwyd adroddiad sy'n crynhoi'r dystiolaeth o astudiaethau yn y Deyrnas Unedig yn unig hefyd.
I weld y dystiolaeth, cliciwch ymlaen i grynodeb o ddiddordeb isod: