Neidio i'r prif gynnwy

Ymyriadau cyffredinol, system gyfan a lleoliadau ar gyfer sefydlogi neu leihau achosion o fod dros bwysau a gordewdra.

Crynodeb o adolygiad o adolygiadau systematig

Cefndir: 

Mae nifer yr achosion o fod dros bwysau a gordewdra yng Nghymru ar gynnydd. Mae bod dros bwysau neu'n ordew yn cynyddu risg person o gael ystod o afiechydon cronig fel diabetes math 2, pwysedd gwaed uchel, a chlefyd cardiofasgwlaidd. 

Mae Gwasanaeth Tystiolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnal adolygiad o adolygiadau systematig i archwilio’r hyn sy’n gweithio o ran ymyriadau cyffredinol, system gyfan a lleoliadau, ar gyfer sefydlogi neu leihau nifer yr achosion o fod dros bwysau a gordewdra. Mae'r gwaith hwn wedi'i wneud er mwyn llywio ymyriadau, polisïau a rhaglenni i helpu i leihau baich clefydau ar gyfer cyflyrau allweddol fel diabetes a chlefyd cardiofasgwlaidd.  

Ar y cyfan, roedd 26 o adolygiadau systematig yn bodloni'r meini prawf cynhwysiant ar gyfer yr adolygiad hwn o adolygiadau systematig. Mae tystiolaeth sy'n amlygu effeithiolrwydd ymyriadau cyffredinol, system gyfan neu leoliadau ar ystod o ganlyniadau wedi'i chrynhoi mewn 15 o grynodebau ymyriadau sydd i'w gweld isod.