Pwrpas y Dangosfwrdd Clystyrau Gofal Sylfaenol yw darparu dangosfwrdd iechyd poblogaeth Clwstwr Gofal Sylfaenol a arweinir gan ddefnyddwyr sy’n gysylltiedig â gwybodaeth iechyd y cyhoedd gofal sylfaenol a fydd yn cefnogi amrywiaeth o ddefnyddwyr ac yn llywio amodau cynllunio a fydd yn allbwn blaenllaw i’n hardal leol.
Sylwch nad yw Clystyrau Gofal Sylfaenol yn cyd-fynd â ffiniau daearyddol swyddogol, a all gymhlethu llywodraethu. Gall ffiniau’r clystyrau a ddangosir yn y dangosfwrdd hwn fod yn wahanol oherwydd amrywiadau mewn methodolegau ac amseriad y ffynonellau data a ddefnyddiwyd. Bydd gwybodaeth leol yn hanfodol ar gyfer dehongli'r data'n gywir. Am fanylion pellach, cyfeiriwch at y canllaw technegol.
Rydym hefyd wedi cynhyrchu proffil cryno, gan ganiatáu i ddefnyddwyr ddelweddu dangosyddion allweddol ar gyfer pob clwstwr o fewn bwrdd iechyd ar yr un pryd. Gall defnyddwyr hefyd gymharu data dangosyddion â chyfartaledd y bwrdd iechyd a chyfartaledd Cymru gyfan. Yn ogystal, cynhwysir naratif byr sy'n tynnu sylw at ganfyddiadau allweddol o'r data.
Rydym bob amser eisiau gwella’r cynnyrch yr ydym yn eu creu er mwyn sicrhau eu bod yn hawdd i’w defnyddio. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu adborth, cysylltwch â ni e-bost: publichealthwalesobservatory@wales.nhs.uk