Amcangyfrifon canol blwyddyn
Amcangyfrifon blynyddol y Swyddfa Ystadegau Gwladol o’r boblogaeth breswyl, yn seiliedig ar y Cyfrifiad, a chan ystyried newidiadau yn y boblogaeth (genedigaethau, marwolaethau a mudo).
Amcanestyniadau poblogaeth
Mae amcanestyniadau poblogaeth yn rhoi amcangyfrif o faint y boblogaeth yn y dyfodol ac maent yn seiliedig ar ragdybiaethau yngl?n â genedigaethau, marwolaethau a mudo. Mae’r rhagdybiaethau'n seiliedig ar dueddiadau blaenorol ac yn nodi'r hyn a allai ddigwydd pe bai’r tueddiadau diweddar yn parhau.
Ardal gynnyrch ehangach haen ganol [MSOA]
Ardal ddaearyddol ddiffinedig sy’n seiliedig ar ardaloedd cynnyrch y Cyfrifiad sydd â chyfartaledd o 7500 o unigolion fesul MSOA. Mae 410 o MSOAs yng Nghymru, a gall nifer yr MSOAs amrywio rhwng byrddau iechyd.
Ardal gynnyrch ehangach haen is [LSOA]
Ardal ddaearyddol ddiffiniedig sy’n seiliedig ar ardaloedd cynnyrch y Cyfrifiad sydd â chyfartaledd o 1500 o unigolion fesul LSOA. Mae 1909 o LSOAs yng Nghymru, a gall nifer y LSOAs amrywio’n eang rhwng byrddau iechyd.
Ardal gynnyrch ehangach haen uwch [USOA]
Ardal ddaearyddol wedi’i diffinio yn seiliedig ar ardaloedd cynnyrch y Cyfrifiad lle ceir 30,000 o bobl fesul USOA ar gyfartaledd. Mae 94 USOA yng Nghymru, ac mae’r niferoedd yn amrywio rhwng byrddau iechyd.
Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth
Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS) yn arolwg aelwydydd sydd yn cynnwys sampl o ryw 320,000 yn flynyddol yn y DU. Mae’n cynnwys trigolion sydd yn byw mewn cyfeiriadau preifat ond nid sefydliadau cymunol. Caiff data ei gasglu’n barhaus trwy gydol y flwyddyn yn seiliedig ar chwarter. Mae wedi ei ddylunio i ddarparu gwybodaeth economaidd-gymdeithasol ar lefel leol.
Arolwg Cenedlaethol Cymru
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru (NSW) wedi cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru (LlC) er 2012, yn fwy diweddar yn cyfuno pum arolwg blaenorol yn un (er 2016). Mae’n seiliedig ar sampl gynrychioliadol o ryw 11,000 o bobl sydd yn byw ar aelwydydd preifat yng Nghymru ond nid sefydliadau cyfunol. Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn rhoi tystiolaeth allweddol o safbwyntiau a lles pobl i lywio a ffurfio’r broses o wneud penderfyniadau gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru.
Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dîm bach o fewn Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda staff â sgiliau dadansoddi data iechyd cyhoeddus, sgiliau darganfod tystiolaeth a sgiliau rheoli gwybodaeth. Yr Arsyllfa yw’r lle y gall y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a’r cyhoedd gael gwybodaeth ddefnyddiol am iechyd cyhoeddus pobl Cymru.
Arwyddocâd ystadegol
Gellir barnu bod i ganlyniad arwyddocâd ystadegol os ystyrir ei bod yn annhebygol ei fod wedi digwydd ar hap yn unig. Sail dyfarniadau o’r fath yw torbwynt mympwyol wedi'i bennu ymlaen llaw, fel arfer 5% neu 0.05. Mewn rhai amgylchiadau, gall y torbwynt hwn gael ei ostwng i 1%, er enghraifft, lle mae mwy o angen am sicrwydd ynghylch diogelwch cyffur neu weithdrefn. Ni ddylid drysu rhwng arwyddocâd ystadegol ac arwyddocâd clinigol neu arwyddocâd arall. Gall canlyniad fod ag arwyddocâd clinigol ond nid arwyddocâd ystadegol, ac i’r gwrthwyneb.
Asedau iechyd
Mae asedau iechyd yn ffactorau sy’n hybu gweithredu cadarnhaol i wella iechyd a lles trwy ddatblygu adnoddau cynhenid unigolion, teuluoedd a chymunedau.
Bwrdd iechyd
Byrddau iechyd (a adwaenir yn swyddogol fel byrddau iechyd lleol) yw cyrff y GIG yng Nghymru sy’n gyfrifol am iechyd y boblogaeth o fewn eu hardal ddaearyddol nhw. Maen nhw’n gyfrifol am gynllunio, dylunio, datblygu a sicrhau bod gwasanaethau gofal sylfaenol, cymunedol ac mewn ysbytai, a gwasanaethau arbenigol yn cael eu darparu. Mae saith bwrdd iechyd yng Nghymru, sydd wedi disodli'r 22 bwrdd iechyd lleol (BILl) a'r saith Ymddiriedolaeth GIG. Ar y wefan hon dim ond mewn gwaith hanesyddol sy’n cyfeirio at y 22 bwrdd iechyd lleol blaenorol y mae’r talfyriad BILl yn cael ei ddefnyddio.
Bwrdd Iechyd Lleol [BILl]
Gweler bwrdd iechyd.
Cyfradd oed safonedig Ewropeaidd
Mae’r gyfradd oed safonedig Ewropeaidd yn cynrychioli’r gyfradd gyffredinol y byddech yn ei chael pe bai gan y boblogaeth yr un strwythur oedran â phoblogaeth Ewropeaidd safonol ddamcaniaethol (safoni oedran uniongyrchol). Er mwyn cyfrifo’r gyfradd hon rydym yn cymhwyso’r cyfraddau sy’n digwydd ym mhob band oedran i’r strwythur poblogaeth (safonol) newydd. Mae’r mesur ond yn caniatáu i chi gymharu cyfraddau sydd wedi cael eu safoni; nid yw’n cynrychioli cyfran na risg o ddigwyddiad, ac nid yw ynddo’i hun yn cynnwys cymhariaeth â chyfraddau ledled Ewrop. Gweler y gyfradd oed safonedig am ragor o fanylion.
Cyfradd ffrwythlondeb cyffredinol [GFR]
Genedigaethau byw fesul 1,000 o fenywod 15 i 44 mlwydd oed.
Cyfrifiad
Mae cyfrifiad yn cyfrif yr holl bobl a’r aelwydydd o fewn ardal wedi ei diffinio; yma caiff ei gynnal ar gyfer Cymru a Lloegr gyda chyfrifiadau’n cael eu cynnal ar yr un pryd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’r data a gesglir yn cynnwys gwybodaeth am y boblogaeth, iechyd, tai, cyflogaeth, trafnidiaeth ac ethnigrwydd. Yng Nghymru a Lloegr, caiff e gynnal bob 10 mlynedd a chynhaliwyd y Cyfrifiad mwyaf diweddar yn 2011. Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd yn archwilio dewisiadau amgen i’r model confensiynol ar gyfer y Cyfrifiad ar ôl 2011.
Cyfyngau hyder
Mae cyfyngau hyder yn ddangosyddion o’r amrywiad naturiol a ddisgwylir mewn perthynas â chyfradd, a dylid eu hystyried wrth asesu neu ddehongli cyfradd. Mae maint y cyfwng hyder yn dibynnu ar nifer y digwyddiadau a maint y boblogaeth y deilliodd y digwyddiadau ohoni. Yn gyffredinol, mae cyfraddau sy’n seiliedig ar nifer fach o ddigwyddiadau a phoblogaethau bach yn debygol o gael cyfyngau hyder ehangach. I’r gwrthwyneb, mae cyfraddau sy’n seiliedig ar boblogaethau mawr yn debygol o gael cyfyngau hyder llai.
Dadelfeniad disgwyliad oes
Gellir cyfrifo cyfraniad bandiau oedran neu achosion gwahanol marwolaeth i ddisgwyliad oes dros amser (oherwydd newidiadau mewn cyfraddau oedran neu achosion penodol marwolaeth) gan ddefnyddio dull 'dadelfeniad disgwyliad oes'. Mae cyfraniadau i newidiadau mewn disgwylliad oes dros amser yn nisgwyliad oes wedi cynyddu yn y cyfnod amser diweddarach oherwydd newidiadau yn y gyfradd farwolaeth ers y cyfnod cynharach mewn unrhyw grŵp oedran neu achos marwolaeth, gan gymryd bod yr holl gyfraddau eraill wedi parhau'n gyson. Mae gan gyfraniadau a gynyddodd ddisgwyliad oes (hynny yw, lle mae'r gyfradd farwolaeth wedi lleihau dros amser) werth cadarnhaol, tra bod cyfraniadau sydd yn gwrthbwyso'r cynnydd mewn disgwyliad oes (hynny yw, ond mae gan y gyfradd farwolaeth wedi cynyddu dros amser) werth negyddol.
Gellir defyddio'r un dull dadlefennu hefyd i asesu cyfraniad bandiau oedran neu achosion marwolaeth gwahanol (neu'r bwlch) rhwng ardaloedd gwahanol â lefelau amddifadedd gwahanol.
Deddf Gofal Wrthgyfartal
Mae’r ddeddf gofal wrthgyfartal yn ddamcaniaeth sydd yn cynnig bod “Argaeledd gofal meddygol da yn tueddu i amrywio’n wrthgyfartal â’r angen amdano yn y boblogaeth y mae’n ei gwasanaethu”. Mae ansawdd y gofal meddygol, yn ogystal â’i bresenoldeb neu ei absenoldeb, yn ganolog i’r ddamcaniaeth. Cafodd ei ffurfio’n wreiddiol gan Dr Julian Tudor Hart ym 1971 tra’n gweithio fel meddyg teulu ger Port Talbot.
Disgwyliad oes
Nifer cyfartalog y blynyddoedd y disgwylir i unigolyn o oed penodol fyw os bydd cyfraddau marwolaeth oedran penodol presennol yn parhau i fod yn gymwys.
Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC)
Dosbarthiad yn seiliedig ar alwedigaeth yw NS-SEC a grëwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Ei nod yw helpu i esbonio’r gwahaniaethau mewn ymddygiad cymdeithasol. Caiff mynegeion amddifadedd fel Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru eu mesur ar lefel ardal, sy’n golygu y gall unigolion sy’n byw yn yr ardal gael eu camddosbarthu, ond mantais yr NS-SEC yw y gall fesur ar lefel cartref neu unigolyn.
Dwysedd y boblogaeth
Unigolion fesul cilomedr sgwâr.
Bwrdd iechyd
Byrddau iechyd (a adwaenir yn swyddogol fel byrddau iechyd lleol) yw cyrff y GIG yng Nghymru sy’n gyfrifol am iechyd y boblogaeth o fewn eu hardal ddaearyddol nhw. Maen nhw’n gyfrifol am gynllunio, dylunio, datblygu a sicrhau bod gwasanaethau gofal sylfaenol, cymunedol ac mewn ysbytai, a gwasanaethau arbenigol yn cael eu darparu. Mae saith bwrdd iechyd yng Nghymru, sydd wedi disodli'r 22 bwrdd iechyd lleol (BILl) a'r saith Ymddiriedolaeth GIG. Ar y wefan hon dim ond mewn gwaith hanesyddol sy’n cyfeirio at y 22 bwrdd iechyd lleol blaenorol y mae’r talfyriad BILl yn cael ei ddefnyddio.
Bwrdd Iechyd Lleol [BILl]
Gweler bwrdd iechyd.
Ffracsiynau priodoladwy (ffracsiynau priodoladwy ar gyfer y boblogaeth)
Ffracsiynau priodoladwy yw cyfrannau pob achos (e.e. marwolaethau neu dderbyniadau i ysbytai) yr ystyrir eu bod yn cael eu hachosi oherwydd cysylltiad â rhywbeth penodol, er enghraifft alcohol neu ysmygu. Mae ffracsiynau yn cael eu cyfrifo ar gyfer cyflyrau lle yr ystyrir bod tystiolaeth ddigonol o berthynas achosol rhwng y clefyd neu’r anaf a’r hyn y daethpwyd i gysylltiad ag ef
Ffibriliad atrïaidd (AF)
Cyflwr y galon sy’n achosi cyfradd curiad calon afreolaidd sy’n aml yn abnormal o gyflym (1). Mae AF yn fwy tebygol o ymddangos mewn pobl â chyflyrau eraill fel pwysedd gwaed uchel neu atherosglerosis. Er y gall effeithio ar oedolion o unrhyw oed mae’n effeithio ar fwy o ddynion na menywod a daw’n fwy cyffredin wrth i bobl heneiddio. Mae gan oddeutu 1 o bob 200 o bobl rhwng 50-60 oed AF. Mae hyn yn codi i oddeutu 1 o bob 10 mewn pobl dros 80 oed (2)
Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau
System wirfoddol o gymhellion ariannol i bractisis meddygon teulu yw’r Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau. Mae’n ymwneud â gwobrwyo practisis am arfer da (a’r llwyth gwaith cysylltiedig) trwy gymryd rhan mewn cylch gwella ansawdd blynyddol.
Graddfa Lles Meddwl Byr Warwick-Edinburgh (SWEMWBS)
Yn debyg i Raddfa Lles Meddwl Warwick-Edinburgh (WEMWBS), mae Graddfa Lles Meddwl Byr Warwick-Edinburgh (SWEMWBS) yn raddfa sydd yn mesur hapusrwydd ac i ba raddau y mae’r person yn gwbl weithredol. Ar gyfer y fersiwn byr, mae’r sgôr rhwng saith a 35. Mae sgorau is yn nodi lles meddwl is a sgorau uwch yn awgrymu lles meddwl uwch. Mae’r SWEMWBS yn cynnwys saith o’r 14 eitem yn y WEMWBS gwreiddiol.
Graddfa Lles Meddwl Warwick-Edinburgh (WEMWBS)
Mae Graddfa Lles Meddwl Warwick-Edinburgh (WEMWBS) yn gasgliad o 14 o gwestiynau yn cynnwys agweddau teimlad a gweithrediad lles meddwl. Mae’n cynnwys 14 o ddatganiadau ac yn gofyn i’r ymatebwyr pa mor aml yr oeddent yn teimlo fel hyn ar raddfa pum pwynt, gydag 1 yn "ddim o’r amser" a 5 "drwy’r amser". Yna caiff sgôr rhwng 14 a 70 ei gyfrifo. Mae sgorau is yn nodi lles meddwl is a sgorau uwch yn awgrymu lles meddwl uwch.
Gwallau math I a math II
Wrth wneud penderfyniadau yngl?n ag a ddylid gwrthod rhagdybiaeth, mae dau fath o wall yn bosibl: gellir gwrthod rhagdybiaeth nwl pan fydd yn wir, neu mae’n bosibl methu ei wrthod pan fydd yn anwir. Gelwir y rhain yn wallau math I a math II yn eu trefn. Ni all prawf arwyddocâd fyth brofi bod rhagdybiaeth nwl yn wir nac yn anwir.
Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru
Gweler Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Maint y rhestr
Nifer y cleifion sydd wedi eu cofrestru gyda’r practis meddygol cyffredinol
Mesurau amddifadedd
Dangosyddion sy’n amcangyfrif lefel yr amddifadedd mewn ardal benodol (gweler hefyd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru).
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD)
Mae WIMD yn fesur o amddifadedd lluosog ar lefel ardal gynnyrch ehangach haen is. Cyfrifir sgôr amddifadedd WIMD trwy ddefnyddio wyth maes h.y. incwm, cyflogaeth, iechyd, addysg, mynediad at wasanaethau, tai, yr amgylchedd ffisegol a diogelwch cymunedol.
Mynegai Màs y Corff (BMI)
Mae BMI yn fesur o bwysau unigolyn wedi’i gymharu â’i daldra. Caiff BMI ei gyfrifo fel pwysau (mewn cilogramau) wedi’i rannu â’r taldra sgwâr (mewn metrau). Mae oedolion â BMI o 25 neu fwy yn cael eu categoreiddio fel oedolion sydd dros bwysau ac mae oedolion â BMI o 30 neu fwy yn cael eu categoreiddio fel oedolion gordew.
Pobl hun sy’n byw ar eu pennau eu hunain
Cyfran y preswylwyr mewn ardal ddaearyddol benodol sy’n 75 mlwydd oed neu'n hun ac sy’n byw ar eu pen eu hunain. Mae’r dangosydd hwn yn deillio o ddata Cyfrifiad 2001.
Poblogaeth gofrestredig
Nifer y bobl sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu o fewn ardal ddaearyddol benodol. Gall poblogaeth gofrestredig ardal felly gynnwys pobl sy’n preswylio mewn ardal wahanol.
Pumedau amddifadedd
Mae ardaloedd daearyddol yn cael eu graddio o’r uchaf i’r isaf yn ôl sgôr amddifadedd ac yna’n cael eu rhannu’n bum band cyfartal, yn amrywio o’r pumed â'r amddifadedd lleiaf i'r pumed â'r amddifadedd mwyaf.
Pwysedd gwaed uchel
Mae pwysedd gwaed uchel yn ffactor risg mawr ar gyfer clefyd cardiofasgwlaidd. Mae’n un o’r achosion pwysicaf o forbidrwydd a marwolaethau cynamserol mewn gwledydd datblygedig a’r rhai sy’n datblygu, ac yn un o’r achosion mwyaf hawdd ei atal. Anaml y bydd pwysedd gwaed uchel yn dangos symptomau amlwg. Mae astudiaethau’n dangos nad yw’n cael ei adnabod yn ddigon aml. Mae’r posibilrwydd o gael pwysedd gwaed uchel yn cynyddu ag oedran.
Rhagdybiaeth
Mae rhagdybiaethau fel arfer yn dod mewn parau fel rhagdybiaeth nwl a rhagdybiaeth amgen. Mae’r ddwy yn gysylltiedig ag esboniad posibl o ffenomen. Mae rhagdybiaeth amgen yn cynnig esboniad am y ffenomen, tra bod rhagdybiaeth nwl yn gwrthbrofi’r esboniad hwnnw. Er enghraifft, gall rhagdybiaeth amgen nodi bod canser yr ysgyfaint yn cael ei achosi gan ysmygu tybaco, tra bod y rhagdybiaeth nwl yn nodi nad yw canser yr ysgyfaint yn cael ei achosi gan ysmygu. Byddai astudiaeth yn cael ei chynnal i werthuso’r rhagdybiaethau gwrthgyferbyniol hyn.
Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion
Mae Iechyd a Lles Myfyrwyr Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion yn ymgorffori’r arolwg blaenorol Ymddygiad Iechyd Plant oed Ysgol (HBSC). Mae ffrâm samplu’r arolwg yn helaeth ac yn fwy diweddar mae’n cynnwys yr holl ysgolion uwchradd prif ffrwd yng Nghymru. O hyn, ceir sampl gynrychioliadol genedlaethol. Gofynnir ystod o gwestiynau i’r plant ar iechyd a lles, bywyd ysgol, bywyd teuluol, cydberthynas ac ymddygiad. Mae mwy o wybodaeth am yr arolwg ar gael yn: http://www.shrn.org.uk
Safoni oedran
Mae safoni oedran yn caniatáu i chi gymharu cyfraddau ar draws poblogaethau gwahanol gan ystyried strwythurau oedran gwahanol y poblogaethau hynny. Gall methu ag ystyried strwythurau oedran gwahanol fod yn gamarweiniol iawn wrth gymharu cyfraddau mewn poblogaethau gwahanol. Mae safoni oedran yn caniatáu i chi greu cyfradd (safoni uniongyrchol) neu gymhareb (safoni anuniongyrchol).
Siart gwe
Mae siartiau gwe (a elwir hefyd yn siartiau radar) yn dangos nifer o ddangosyddion gyda’u hechelin eu hunain wedi eu trefnu’n rheiddiol o amgylch pwynt canolog. Dangosir y gwerthoedd gan y pwynt ar yr echelin a thynnir llinell yn cysylltu’r gwerthoedd data ar gyfer bob pwynt gan ffurfio strwythur tebyg i we.
System sgorio haeniad risg CHADS2
Mae sgôr CHADS2 yn rheol ragfynegi glinigol ar gyfer amcangyfrif y risg o strôc mewn cleifion â ffibriliad atrïaidd an-riwmatig (AF). Gellir ei defnyddio i bennu a fydd angen triniaeth ai peidio gyda therapi gwrthgeulad neu therapi wrthblatennau. Mae sgôr CHADS2 uchel yn cyfateb i risg uwch o strôc, gyda sgôr CHADS2 isel yn cyfateb i risg is o strôc.
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Sefydlwyd Iechyd Cyhoeddus Cymru fel Ymddiriedolaeth y GIG ar 1 Hydref 2009. Mae’r Ymddiriedolaeth yn ymgorffori’r swyddogaethau a’r gwasanaethau a ddarparwyd yn flaenorol gan Wasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru, Canolfan Iechyd Cymru, Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru, a Gwasanaeth Cofrestr a Gwybodaeth Anomaleddau Cynhenid Cymru. Mae ei swyddogaethau statudol yn cwmpasu ystod eang o wasanaethau iechyd cyhoeddus, diogelu iechyd, sgrinio, gwybodaeth iechyd ac ymchwil.