Neidio i'r prif gynnwy

Ymgyrch Mae'n Gwneud Synnwyr

Bob blwyddyn, mae’r GIG yng Nghymru yn cynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o anghenion cyfathrebu a gwybodaeth gwahanol y  600,000 o bobl yng Nghymru sy’n byw â rhyw fath o nam ar eu  synhwyrau (byddar neu drwm eu clyw, a/neu golli eu golwg). Enw’r Ymgyrch yw Mae’n Gwneud Synnwyr.

Mae gan yr ymgyrch negeseuon allweddol ar gyfer cleifion â nam ar eu synhwyrau, a’u hatgoffa nhw am eu hawl, o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, i gael cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch pa bryd bynnag y mae angen gofal iechyd arnynt. Anogir cleifion a’r cyhoedd i:

·          DDWEUD wrth feddygon, nyrsys, parafeddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill am y ffordd y maen nhw eisiau i staff gyfathrebu â nhw;

·          GOFYN i gael gwybodaeth mewn fformat hygyrch, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain (BSL), print bras, sain, yn electronig neu Braille;

·          RHANNU eu pryderon gyda’u meddygfa neu ysbyty os nad yw’r wybodaeth y maen nhw’n ei derbyn yn hygyrch iddyn nhw.

Lansio Ymgyrch Genedlaethol

Cynhelir gweithgareddau ar draws GIG Cymru trwy gydol mis Tachwedd. Er enghraifft, gall Ymddiriedolaeth neu Fwrdd Iechyd gynnal sesiynau blasu Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ac Ymwybyddiaeth o Golli Golwg neu ddangos ffilmiau byrion fel ‘The Silent Child’, â sesiwn holi ac ateb i ddilyn gyda sefydliadau fel Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain. Fel arfer, cynhelir digwyddiad mwy o faint ar y cyd hefyd, sy’n arddangos y cynnydd diweddar ac yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr gwasanaethau rannu eu profiadau.

Negeseuon Allweddol yr Ymgyrch ar gyfer holl staff GIG Cymru 

·        DARGANFOD, o’r modiwl e-ddysgu, nam ar y synhwyrau, y ffyrdd mwyaf effeithiol i gyfathrebu â chleifion sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw, sy’n ddall neu sydd wedi colli eu golwg, neu sydd ag anghenion cyfathrebu eraill.

·        GOFYN i gleifion sut maen nhw eisiau cyfathrebu â chi.

 

·        CYNNIG i roi’r wybodaeth iddynt yn y fformat sydd ei angen arnynt, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain, print bras, yn electronig, neu Braille.

Hoffem annog holl staff GIG Cymru i gefnogi’r Ymgyrch. Gallwch weld y modiwl e-ddysgu, GIG Cymru - Nam ar y Synhwyrau (NHS Wales - Sensory Loss), trwy gyfrifon ESR.