Lansiwyd Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Cyfathrebu a Gwybodaeth Hygyrch i Bobl â Nam ar y Synhwyrau ym mis Rhagfyr 2013 gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford AC. Mae’r Safonau yn amlinellu’r lefel darpariaeth gwasanaethau y dylai pobl â nam ar y synhwyrau ddisgwyl iddynt gael eu bodloni pan fydd angen gofal iechyd arnynt.
Mae Safonau Cymru Gyfan hefyd yn mynnu bod pob Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth y GIG yng Nghymru yn datblygu cynllun gweithredu sy’n cael ei arwain gan uwch swyddog dynodedig, ac yn amlinellu graddfeydd amser a chamau gweithredu clir ar gyfer cyflawni. Dylai cynnydd o ran cyflawni’r cynllun gael eu monitro’n rheolaidd a’u hadrodd yn ffurfiol i’r Bwrdd.
Datblygwyd Safonau Cymru Gyfan o ganlyniad i’r adroddiad Gofal Iechyd Hygyrch i Bobl sydd wedi Colli eu Synhwyrau yng Nghymru a fynnodd fod gan bob sefydliad gofal iechyd ‘...Bolisi Gwybodaeth Hygyrch yn amlinellu sut y bydd anghenion cyfathrebu pob claf yn cael eu bodloni, gan gynnwys anghenion pobl sydd wedi colli eu synhwyrau...’.
Roedd Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru hefyd yn amlinellu ymrwymiad i sicrhau bod pob sefydliad gofal iechyd yn datblygu polisi gwybodaeth hygyrch i fynd i’r afael ag anghenion cyfathrebu pobl sydd â nam ar y synhwyrau.
Gweithiodd Canolfan y GIG ar gyfer Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn agos â’r Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Action on Hearing Loss Cymru ac RNIB Cymru, yn ogystal â sefydliadau eraill sy’n ymwneud â nam ar y synhwyrau, a phobl â nam ar eu synhwyrau, i ddatblygu Safonau Cymru Gyfan.
Cynhyrchwyd Safonau Cymru Gyfan mewn ystod o fformatau hygyrch dwyieithog, yn cynnwys Iaith Arwyddion Prydain, print bras, fformat sain, Braille a Hawdd ei Ddeall.
I gael copïau o Safonau Cymru Gyfan ewch i http://wales.gov.uk/topics/health/publications/health/guidance/standards/?skip=1&lang=cy (dolen allanol)
Mae’n ofynnol i Ganolfan y GIG ar gyfer Cydraddoldeb a Hawliau Dynol adrodd yn flynyddol ar gyflawni pob un o’r Argymhellion a amlinellir yn yr adroddiad ‘Gofal Iechyd Hygyrch i Bobl sydd wedi Colli eu Synhwyrau yng Nghymru’. Cyhoeddwyd yr adroddiad cyntaf ym mis Ebrill 2014.
Gallwch lawrlwytho copi yma.