Mae’r ‘Safon’ yn ei gwneud hi’n angenrheidiol i feddygfeydd teulu nodi, cofnodi, amlygu a rhannu anghenion cyfathrebu cleifion sydd â nam ar eu synhwyrau. Ar hyn o bryd, nid oes llawer o wybodaeth o’r fath yn cael ei nodi a’i chofnodi gan feddygfeydd teulu ac adrannau ysbytai. Mae hynny’n golygu ei bod yn gallu bod yn anodd rhannu gwybodaeth am anghenion cyfathrebu cleifion yn ddiogel ac yn effeithiol rhwng meddygfeydd teulu, adrannau ysbytai a gwasanaethau gofal iechyd eraill.
O fis Tachwedd 2017, bu’n bosibl i feddygfeydd teulu yng Nghymru nodi a chofnodi gwybodaeth ac anghenion cyfathrebu cleifion sydd â nam ar eu synhwyrau. Yn ogystal, mae’r system yn darparu offer i staff meddygfeydd teulu er mwyn diwallu anghenion y cleifion ar ôl iddynt gael eu nodi, er enghraifft sut i greu llythyrau print bras a sut i ychwanegu prociau i gofnodion meddygol cleifion.
Bydd rhagor o waith yn digwydd dros yr ychydig fisoedd nesaf i ychwanegu ymarferoldeb pellach. Bydd hwn yn sicrhau, pan fydd meddygfa deulu yn gwneud atgyfeiriad i wasanaethau ysbyty, bod gwybodaeth ac anghenion cyfathrebu’r claf yn cael eu hanfon fel mater o drefn gyda’r atgyfeiriad, gan gynyddu’r tebygolrwydd y byddant yn cael eu diwallu.
Cyflwynwyd gorchymyn ar ffurf Cylchlythyr Iechyd Cymru, ynghyd â chynllun gweithredu, gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod Y Safon yn cael ei gweithredu’n llawn.
Bydd llwyddiant y Safon Gwybodaeth Hygyrch yn dibynnu’n fawr ar ymwybyddiaeth meddygfeydd o’u cyfrifoldeb i nodi a chofnodi’r wybodaeth hon, a pharodrwydd cleifion i rannu eu hanghenion cyfathrebu gyda’r meddygfeydd. Yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu gydag unigolion sydd â nam ar eu synhwyrau a gweithwyr iechyd proffesiynol, mae detholiad o adnodau ar gael i helpu i godi ymwybyddiaeth o’r Safon.
Siaradom ni gyda 600 o unigolion sydd â nam ar eu synhwyrau a gweithwyr iechyd proffesiynol er mwyn cael eu cymorth ac i glywed eu syniadau o ran datblygu’r adnoddau.