Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch. I gywiro cydymffurfiad WCAG 2.2 AA, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n adeiladu gwefan newydd sbon. Bydd y wefan newydd yn fyw o ddiwedd mis Mawrth 2025. O ganlyniad i'r buddsoddiad ym mhrosiect y wefan newydd, ni fydd materion cydymffurfiad ar y wefan bresennol yn cael eu trwsio.
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru: https://icc.gig.cymru/
Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall. Gall AbilityNet gynnig cyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Mae hygyrchedd ar y wefan hon yn cael ei arwain gan safonau llywodraeth a’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG). Derbynnir WCAG yn gyffredinol fel y safon ryngwladol ar gyfer hygyrchedd ar y we.
Er i ni anelu at wneud y wefan hon yn hygyrch i bob defnyddiwr a chyflawni lefel cydymffurfiad 'AA' WCAG; rydym yn gweithio'n barhaus gyda rhanddeiliaid i sicrhau y cedwir at lefel cydymffurfio 'A' fel lleiafswm.
Os cewch unrhyw broblem gyda hygyrchedd ar y wefan hon neu os oes gennych unrhyw sylwadau, cysylltwch â ni.
Fersiwn 3, wedi’i gyhoeddi 08/11/2024
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi comisiynu Rhaglen Trawsnewid y We. Rydym yn gweithio tuag at wefan newydd a fydd yn cydymffurfio’n llawn â safonau WCAG AA 2.2 erbyn diwedd mis Mawrth 2025.
Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â ni yn y lle cyntaf a byddwn yn trosglwyddo'ch cais i'r tîm perthnasol. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu’n ôl â chi ymhen 10 diwrnod gwaith.
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn fodlon ar sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe 2.2, o ganlyniad i’r diffyg cydymffurfiad a'r eithriadau a restrir isod.
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Er i ni ymdrechu i fodloni 'WCAG 2.2 AA' mae gennym y materion diffyg cydymffurfiad a ganlyn ar hyn o bryd:
Mae rhai adrannau o’n gwefan o natur gorfforaethol, nad ydynt yn hygyrch ar hyn o bryd, sydd wedi’u cynhyrchu ers mis Medi 2018.
Ar hyn o bryd, mae'r adrannau hyn wedi'u rhestru fel a ganlyn: (ac yn destun newid).
Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau neu rannu gwybodaeth. Er enghraifft, o bryd i'w gilydd mae gennym daflenni gwybodaeth cleifion ar ffurf PDF a ffurflenni sy’n cael eu cyhoeddi fel dogfennau Word. O fis Hydref 2024 ymlaen, bydd PDFs sydd wedi’u creu ar gyfer ein cynulleidfa gyhoeddus yn cael eu disodli gan dudalennau HTML hygyrch.
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud hi’n ofynnol i ni drwsio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid ydym yn bwriadu trwsio unrhyw PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018, er enghraifft Papurau Bwrdd a Phwyllgorau, dogfennaeth polisïau a gweithdrefnau’r Bwrdd Iechyd neu ddogfennaeth statudol megis Adroddiadau Blynyddol. Fodd bynnag, byddwn yn ymdrechu i wneud unrhyw PDFs neu ddogfennau Word newydd yn hygyrch lle bynnag y bo modd.
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau sain neu fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd. Fodd bynnag, byddwn bob amser yn ceisio darparu fersiynau wedi'u hisdeitlo o fideos a recordiwyd ymlaen llaw.
Paratowyd y datganiad hwn ym mis Mehefin 2022 ac fe’i ddiweddarwyd ym mis Tachwedd 2024. Bydd yn cael ei adolygu ym mis Mawrth 2025 fel rhan o lansio’r wefan newydd.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Mehefin 2022. Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.