Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad blynyddol: Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig 2023-24

 
 

 

Prif Bwyntiau

1.  Rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024, bu farw 350 o breswylwyr Cymru yn sgil hunanladdiad tybiedig naill ai yng Nghymru neu du hwnt, gan roi cyfradd o 12.4 fesul 100,000 o bobl. Y gyfradd yn 2022/23 oedd 12.7 fesul 100,000.   

2.  Dynion oedd 76% o farwolaethau oherwydd hunanladdiad tybiedig. Roedd y gyfradd oed-benodol ar ei huchaf ymhlith dynion rhwng 35 a 44 oed (35.6 fesul 100,000). 

3.  O safbwynt ardaloedd preswyl penodol, Gogledd Cymru oedd â'r gyfradd uchaf o farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig (14.1 fesul 100,000), ond nid oedd yn ystadegol wahanol mewn ffordd arwyddocaol i'r gyfradd Cymru gyfan.  

4.  Roedd cyfraddau marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig ymhlith preswylwyr yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig (15.8 fesul 100,000) yn arwyddocaol uwch yn ystadegol na chyfradd Cymru gyfan, ac roedd cyfradd y marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig ymhlith preswylwyr yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig (8.6 fesul 100,000) yn arwyddocaol is yn ystadegol na chyfradd Cymru gyfan.

5.  Y gyfradd marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig ymhlith pobl yr adroddwyd eu bod yn ddi-waith oedd 126.7 fesul 100,000, sydd o leiaf 12 gwaith yn uwch nag mewn unrhyw grŵp statws cyflogaeth arall. 

6.  Adroddwyd bod gan 63% o bobl gyflwr iechyd meddwl, roedd 29% yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl, ac roedd gan 53% hanes o hunan-niweidio blaenorol. 

7.  Roedd 65% o'r marwolaethau yn sgil hunanladdiad ymhlith pobl a oedd yn hysbys i'r heddlu yn flaenorol. 

8.  Mae casglu a rhannu data trwy Oruchwyliaeth Hunanladdiad Amser Real yn caniatáu cymryd camau i atal marwolaethau yn y dyfodol drwy hunanladdiad a amheuir mewn modd prydlon, trwy ddarparu gwybodaeth gyfredol i ddefnyddwyr ar batrymau cenedlaethol a rhanbarthol. 

9.  Dyma'r ail flwyddyn o gasglu data. Gwnaed rhai diwygiadau yn ymwneud â dadansoddi ers y flwyddyn gyntaf (gweler Gwybodaeth Dechnegol) a bydd y broses ddadansoddi’n datblygu wrth i ddata pellach gael eu casglu. Oherwydd niferoedd bach a phrinder data cyfres amser, mae cyfyngiadau i set ddata'r RTSSS. Mae'r rhain wedi'u hamlinellu drwy gydol yr adroddiad hwn.  

10. Mae marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig yn cael eu hadrodd i Iechyd Cyhoeddus Cymru cyn cwêst crwner. Rhagwelir y gallai nifer y marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig fod yn uwch na nifer yr hunanladdiadau a bennir gan Grwner, oherwydd gall ymchwiliad a chwest crwner ddod i'r casgliad mai rheswm gwahanol a achosodd y farwolaeth mewn rhai achosion o farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig.  

 

Cefndir

Sefydlwyd proses Arolygu Hunanladdiad Tybiedig Amser Real (RTSSS) Cymru ar 1 Ebrill 2022. Mae'r RTSSS yn casglu gwybodaeth am farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig sy'n digwydd yng Nghymru, yn ogystal â marwolaethau preswylwyr Cymru sy'n digwydd y tu allan i Gymru.   

Nod RTSSS yw creu storfa genedlaethol ganolog o farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig yng Nghymru ac ymhlith preswylwyr Cymru a chynhyrchu'r wybodaeth angenrheidiol i lywio gweithgarwch atal hunanladdiad ledled Cymru.   

Mae marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig yn cael eu hadrodd i'r RTSSS cyn cwest crwner. Rhagwelir y gallai'r rhain fod yn uwch na nifer yr hunanladdiadau a bennir gan Grwner, oherwydd gall ymchwiliad a chwest crwner ddod i'r casgliad mai rheswm gwahanol a achosodd y farwolaeth mewn rhai achosion o farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig.  

Mae'r data a gesglir ar hunanladdiadau tybiedig yn wahanol i ddata hunanladdiad fel yr adroddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Ymhlith yr achosion o hunanladdiadau a adroddir gan yr ONS mae marwolaethau sydd wedi eu cofrestru yn dilyn cwest lle mae crwner wedi penderfynu:  

  • casgliad o hunanladdiad  

  • casgliad naratif (lle gellir cofnodi'r farwolaeth fel hunan-niweidio bwriadol neu anaf neu wenwyno o fwriad amhendant, yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarperir gan y Crwner)  

  • casgliad agored (lle gellir codio'r farwolaeth fel anaf neu wenwyno bwriadol amhenodol yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarperir gan y Crwner).  

 (Cyfraddau hunanladdiad UK QMI  2019, ONS) 

Ystadegau hunanladdiad a gyhoeddir gan yr ONS yw'r ystadegau swyddogol ar hunanladdiad a dylid eu defnyddio at ddibenion cynllunio strategol a chymharu. Cyhoeddwyd ystadegau hunanladdiad yr ONS ar farwolaethau a gofrestrwyd yn 2023 ar 29 Awst 2024.  

 

Defnyddio data RTSSS

Gall cwêst crwner fod yn broses hir gan bara misoedd neu flynyddoedd mewn rhai achosion. Unwaith y deuir i gasgliad, yna mae'r farwolaeth yn cael ei chofrestru a'i chodio gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Gan fod ystadegau hunanladdiad swyddogol ar gyfer marwolaethau a gofrestrwyd yn ystod blwyddyn galendr, mae'n bosibl na fyddant yn adlewyrchu unrhyw newidiadau gwirioneddol yng nghyfradd y marwolaethau oherwydd hunanladdiad tybiedig a ddigwyddodd y flwyddyn honno. Bwriedir i ddata RTSSS ar farwolaethau sy'n digwydd y flwyddyn honno fod ar gael yn gynharach fel bod swyddogion arweiniol atal hunanladdiad ar draws sawl asiantaeth yn gallu ymateb yn gyflym i unrhyw batrymau sy'n codi. Defnyddir data RTSSS yn rheolaidd hefyd i fonitro marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig bob mis. Mae'r amseroldeb a gynigir gan RTSSS yn gyfaddawd ar gyfer cywirdeb data ac mae'n ystyriaeth bwysig wrth ystyried yr angen am weithredu. Mewn adroddiadau yn y dyfodol, bydd tueddiadau cyfres amser ar gael a dylai hyn ein galluogi i ddeall patrymau.  

Mae'r data yn yr adroddiad hwn yn cynnwys marwolaethau a ddigwyddodd rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024. Mae data o adroddiad arolygu blynyddol cyntaf RTSSS ar farwolaethau a ddigwyddodd rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023 wedi'u diwygio oherwydd gwybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd ar ôl i ddata gael ei echdynnu i'w ddadansoddi ac fe'i dangosir mewn tablau data ochr yn ochr â data 2023/24.  

Mae rhagor o wybodaeth am RTSSS ar gael yn Iechyd Cyhoeddus Cymru – Arolygu Hunanladdiad Tybiedig Amser Real.

 

Ystadegau Swyddogol sy’n Cael eu Datblygu 

Cyhoeddir yr ystadegau hyn fel Ystadegau Swyddogol sy’n Cael eu Datblygu. Mae'r rhain yn ystadegau nad ydynt wedi'u datblygu'n llawn eto ac sy'n dal i gael eu profi, ond rydym yn hyderus eu bod yn dal i fod o werth. Dyma'r ail flwyddyn o gyhoeddi ac mae'r RTSSS yn dal i gael ei ddatblygu. Mae ffynonellau data ychwanegol wedi'u cynnwys ers y flwyddyn gyntaf ac mae ffynonellau pellach yn cael eu harchwilio. Bu nifer o welliannau ers adroddiad 2022/23 mewn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr. Bydd datblygiadau pellach angen cyfnod o brofi gyda defnyddwyr. Ymhen amser, rhagwelir y gellir cyhoeddi'r ystadegau hyn i safon Y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau a gellir eu cyhoeddi fel Ystadegau Swyddogol

Mae'r adran Gwybodaeth Dechnegol yn Atodiad 2 yn cynnwys gwybodaeth am:  

  • Ffynonellau data cyfredol 
  • Ansawdd data 
  • Dadansoddiad data 
  • Cryfderau a chyfyngiadau 
  • Gwelliannau ers Adroddiad Arolygu Blynyddol 2022/23 

 

Ymgysylltu â defnyddwyr  

Rydym yn croesawu adborth ar yr adroddiad hwn. Gwnaethom gael eglurad ar anghenion defnyddwyr gyda nifer o randdeiliaid cyn cyhoeddi'r adroddiad blynyddol cyntaf, a dosbarthwyd arolwg adborth yn eang yn dilyn ei gyhoeddi ac rydym wedi ystyried yr adborth a'r sylwadau wrth gynllunio'r adroddiad hwn. A fyddech cystal â llenwi'r arolwg adborth yn yr adroddiad hwn neu gyfeirio unrhyw adborth, sylwadau neu ymholiadau i PHW.RTSSS@wales.nhs.uk.   

Rydym yn bwriadu cynnwys defnyddwyr ymhellach drwy'r ffyrdd canlynol:  

  • presenoldeb tîm RTSSS mewn fforymau cenedlaethol a rhanbarthol ar atal hunanladdiad a hunan-niweidio er mwyn cyflwyno'r data, casglu adborth, a rhannu gwybodaeth am ddatblygiadau diweddaraf RTSSS
  • lledaenu'r arolwg adborth i amrywiaeth eang o ddefnyddwyr a gweithredu ar adborth 
  • cynnal sesiwn ddilynol gyda rhanddeiliaid allweddol i bennu gwerth y data. 

Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr am ddatblygiad y gwaith hwn drwy roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwefan.

 

Rhestr cyn-rhyddhau 

 

Iechyd Cyhoeddus Cymru 

  • Iain Bell, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gweithredol Ymchwil, Data a Materion Digidol, Iechyd Cyhoeddus Cymru 
  • Dr. Louisa Nolan, Pennaeth Gwyddor Data a Dadansoddeg, Iechyd Cyhoeddus Cymru 

 Grŵp Gweithredu RTSSS

  • Jon Lane, Tîm atal hunanladdiad a hunan-niweidio, Llywodraeth Cymru 
  • Claire Cotter, Arweinydd cenedlaethol ar gyfer atal hunanladdiad a hunan-niweidio, Gweithrediaeth y GIG 
  • Yr Athro Ann John, Athro Iechyd Cyhoeddus a Seiciatreg, Prifysgol Abertawe a Chadeirydd y Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar Atal hunanladdiad a hunan-niweidio  
  • Philip Daniels, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg 
  • Y Prif Arolygydd Paul Biggs, Uned Gyswllt yr Heddlu, Llywodraeth Cymru 
  • Dave Semmens, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, Gweithrediaeth y GIG 

 Llywodraeth Cymru (yn ogystal â'r uchod) 

  • Kim Swain, Uwch-swyddog Ystadegol Iechyd Meddwl, Llywodraeth Cymru 
  • Annie Campbell, Prif Ystadegydd - Prif Ystadegydd Iechyd Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru 
  • Holly Howe-Davies, Uwch-swyddog Ymchwil, Llywodraeth Cymru 

 

Canfyddiadau

 

Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig yng Nghymru

Rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024, bu farw 350 o breswylwyr Cymru yn sgil hunanladdiad tybiedig - naill ai yng Nghymru neu y tu allan i Gymru, gan roi cyfradd o 12.4 fesul 100,000. Bu farw 16 o bobl o wledydd eraill yn sgil hunanladdiad tybiedig a ddigwyddodd yng Nghymru.   

Rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023, mae ffigurau diwygiedig (oherwydd gwybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd ar ôl i ddata gael ei echdynnu ar gyfer dadansoddi cychwynnol) yn dangos y bu farw 359 o breswylwyr Cymru yn sgil hunanladdiad tybiedig - naill ai yng Nghymru neu y tu allan i Gymru, gan roi cyfradd o 12.7 fesul 100,000, a bu farw 19 o bobl o wledydd eraill mewn achosion o hunanladdiad tybiedig a ddigwyddodd yng Nghymru (gweler data diwygiedig 2022/23).  

Mae'r dadansoddiadau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn cynnwys marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig preswylwyr Cymru ar gyfer 2023/23 yn unig, gyda ffigurau diwygiedig ar gyfer 2022/23 yn y tablau data.   

 

Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig, preswylwyr Cymru, fesul mis

Roedd nifer y marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig yn amrywio o 21 marwolaeth ym mis Chwefror 2024 i 41 marwolaeth ym mis Awst 2023. Nifer cymedrig (cyfartalog) y marwolaethau oedd 29 y mis a'r gwyriad safonol oedd 6. Disgwylir y byddai cyfrifiadau o fewn un gwyriad safonol o'r cymedr tua dwy ran o dair o'r amser, ac roedd hyn yn wir am 10 allan o 12 mis, felly yr amrywiad a welir yw'r hyn a fyddai i’w ddisgwyl. 

Yn 2022/23, gwelwyd ystod debyg yn y flwyddyn flaenorol: 20 ym mis Tachwedd 2022 a 37 ym mis Medi 2022 (gweler data diwygiedig 2022/23).

 

Ffigur 1. Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig, fesul mis, pob person, pob oedran, cyfrifiadau, preswylwyr Cymru, 2023/24

Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio data RTSSS

Siart far yn dangos achosion misol o hunanladdiadau tybiedig yng Nghymru rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024. Awst sydd â'r cyfrif uchaf, sef 41, a Chwefror sydd â’r isaf, sef 19.

Lawrlwytho siart

Lawrlwytho data

 

Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig, yn ôl rhanbarth preswyl

Cymariaethau rhwng amcangyfrifon rhanbarthol a chyfradd Cymru gyfan 

Roedd cyfradd y marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig ar ei huchaf yn y Gogledd (14.1 fesul 100,000, 95% CI 11.4-17.4 fesul 100,000) ond nid oedd y gwahaniaeth hwn yn arwyddocaol yn ystadegol i gyfradd Cymru gyfan, gan fod y cyfyngau hyder yn cynnwys cyfradd Cymru gyfan (12.4 fesul 100,000). Roedd y cyfraddau yn y Canolbarth a'r Gorllewin (11.9 fesul 100,000, 95% CI 9.7-14.5 fesul 100,000) a'r De-ddwyrain (11.8 fesul 100,000, 95% CI 10.1-13.8 fesul 100,000) yn is na chyfradd Cymru gyfan ond unwaith eto nid oedd y gwahaniaethau hyn yn arwyddocaol yn ystadegol, gan fod y cyfyngau hyder yn cynnwys cyfradd Cymru gyfan. 

Mewn cymhariaeth, roedd y gyfradd uchaf yn 2022/23 yn y Canolbarth a'r Gorllewin (15.9 fesul 100,000) a'r isaf yn y Gogledd (11.0 fesul 100,000) (gweler data diwygiedig 2022/23). Mae cyfraddau blynyddol yn dueddol o amrywio felly cynghorir gofal wrth ddehongli'r ffigurau hyn. 

Cymariaethau rhwng amcangyfrifon rhanbarthol     

Mae cyfyngau hyder 95% yr amcangyfrifon cyfradd rhanbarthol yn gorgyffwrdd ond gan fod dau amcangyfrif gyda chyfyngau hyder sy'n gorgyffwrdd yn dal i allu bod yn arwyddocaol wahanol yn ystadegol, gwnaed profion pellach gan ddefnyddio cymhariaeth rhanbarthau fesul pâr. Roedd yn dangos nad oedd gwahaniaeth arwyddocaol yn ystadegol rhwng amcangyfrifon cyfraddau rhanbarthol (gweler y canlyniadau yn Atodiad 1).  

O'r data hyn, gallwch ddod i'r casgliad nad oedd cyfradd y marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig yn y Gogledd, y Canolbarth a'r Gorllewin a'r De-ddwyrain yn 2023/24 yn arwyddocaol wahanol yn ystadegol i gyfradd Cymru gyfan.  

 

Ffigur 2. Marwolaethau yn ôl hunanladdiad tybiedig, yn ôl rhanbarth preswyl, cyfradd fras fesul 100,000, preswylwyr Cymru, 2023/24

Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio data RTSSS ac MYE (ONS)

Siart far yn dangos cyfraddau bras o hunanladdiadau tybiedig yn ôl rhanbarth preswylio rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024. Gogledd Cymru sydd â'r gyfradd uchaf, sef 14.1, a De-ddwyrain Cymru sydd â'r gyfradd isaf, sef 11.8.

Lawrlwytho siart

Lawrlwytho data

 

Marwolaethau yn ôl hunanladdiad tybiedig, yn ôl ardal breswyl y bwrdd iechyd

Cymariaethau rhwng amcangyfrifon byrddau iechyd a chyfradd Cymru gyfan  

Roedd cyfraddau preswylwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (15.7 fesul 100,000, 95% CI 11.8-20.4 fesul 100,000), Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (14.1 fesul 100,000, 95% CI 11.4-17.4 fesul 100,000), a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (12.8 fesul 100,000, 95% CI 9.5-16.8 fesul 100,000) yn uwch na chyfradd Cymru gyfan, ond roedd y cyfyngau hyder yn gorgyffwrdd â chyfradd Cymru gyfan felly nid oeddent yn arwyddocaol uwch yn ystadegol. Roedd y gyfradd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yr un fath â chyfradd Cymru gyfan. Roedd gan weddill yr ardaloedd byrddau iechyd gyfraddau is (ond nid yn arwyddocaol is yn ystadegol) na chyfradd Cymru gyfan. 

Roedd cyfraddau preswylwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cynyddu ers 2022/23 (gweler data diwygiedig 2022/23) ond nid oedd yr un o'r codiadau hyn arwyddocaol yn ystadegol, wrth i gyfyngau hyder rhwng cyfraddau 2022/23 a 2023/24 orgyffwrdd.  

Cymariaethau rhwng amcangyfrifon byrddau iechyd   

Mae cyfyngau hyder 95% amcangyfrifon cyfradd y bwrdd iechyd yn gorgyffwrdd ond gan fod dau amcangyfrif gyda chyfyngau hyder sy'n gorgyffwrdd yn dal i allu bod yn arwyddocaol yn ystadegol wahanol, gwnaed profion pellach gan ddefnyddio cymhariaeth byrddau iechyd fesul pâr.  

Roedd yn dangos bod cyfraddau preswylwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn arwyddocaol uwch yn ystadegol na'r gyfradd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Roedd y gyfradd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn arwyddocaol uwch yn ystadegol hefyd na'r gyfradd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Nid oedd unrhyw wahaniaethau ystadegol arwyddocaol eraill rhwng y byrddau iechyd oedd yn weddill. 

O'r data hyn, gallwch ddod i'r casgliad nad oedd yr un o gyfraddau'r byrddau iechyd yn arwyddocaol wahanol yn ystadegol na chyfradd Cymru gyfan, er bod rhai gwahaniaethau arwyddocaol yn ystadegol rhwng amcangyfrifon byrddau iechyd.   

 

Ffigur 3. Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig, yn ôl ardal breswyl y bwrdd iechyd, cyfradd fras fesul 100,000, preswylwyr Cymru, 2023/24

Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio data RTSSS ac MYE (ONS)

Siart far yn dangos cyfraddau bras o hunanladdiadau tybiedig fesul bwrdd iechyd rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024. BIP Hywel Dda sydd â’r gyfradd uchaf, sef 15.7, a BIP Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys sydd â’r gyfradd isaf, sef 9.1.

Lawrlwytho siart

Lawrlwytho data

 

Marwolaethau ar sail hunanladdiad tybiedig, yn ôl amddifadedd ardal

Cymariaethau rhwng amcangyfrifon amddifadedd ardal a chyfradd Cymru gyfan   

Roedd cyfradd marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig yn arwyddocaol uwch yn ystadegol ymhlith preswylwyr a oedd yn byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, sef 15.8 fesul 100,000 (95% CI 12.6-19.5 fesul 100,000) ac yn arwyddocaol is yn ystadegol ymhlith preswylwyr a oedd yn byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig, sef 8.6 fesul 100,000 (95% CI 6.4-11.4 fesul 100,000) o gymharu â chyfradd Cymru gyfan (12.4 fesul 100,000). Roedd y cyfraddau yn is na'r gyfradd Cymru gyfan o safbwynt preswylwyr yr ardaloedd mwyaf difreintiedig nesaf, a'r ardaloedd yn y man canol o amddifadedd, ond roedd y cyfyngau hyder ynglŷn â'r cyfraddau yn gorgyffwrdd â chyfradd Cymru gyfan felly nid oeddynt o arwyddocâd ystadegol. Ar gyfer yr ardal leiaf ddifreintiedig nesaf, roedd y gyfradd yr un fath â chyfradd Cymru gyfan.  

Yn 2022/23, roedd y gyfradd yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yn ystadegol sylweddol is na chyfradd Cymru gyfan. Nid oedd yr un o'r amcangyfrifon eraill o amddifadedd ardal yn ystadegol sylweddol wahanol i'r gyfradd Cymru gyfan (gweler data diwygiedig 2022/23).

Cymariaethau rhwng amcangyfrifon amddifadedd ardal           

Nid oedd y cyfyngau hyder 95% o ran amcangyfrifon o'r cyfraddau amddifadedd rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a'r lleiaf difreintiedig yn gorgyffwrdd â'i gilydd, felly roedd gwahaniaeth arwyddocaol yn ystadegol rhwng y ddau grŵp hwn. Gwnaed profion pellach rhwng yr amcangyfrifon eraill o amddifadedd ardal gan ddefnyddio'r gymhariaeth rhanbarthau fesul pâr. Roedd yn dangos bod gwahaniaeth arwyddocaol yn ystadegol hefyd rhwng y gyfradd yn y mwyaf difreintiedig o gymharu â'r mwyaf difreintiedig nesaf. Nid oedd gwahaniaeth arwyddocaol yn ystadegol rhwng grwpiau eraill (gweler y canlyniadau yn Atodiad 1).  

O'r data hyn, gallwch ddod i'r casgliad bod cyfradd y marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig yn 2023/24 yn arwyddocaol uwch yn ystadegol ymhlith preswylwyr yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â chyfradd Cymru gyfan a'r gyfradd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig nesaf a'r lleiaf difreintiedig.   

 

Ffigur 4. Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig, yn ôl pumed amddifadedd*, cyfradd fras fesul 100,000, preswylwyr Cymru, 2023/24

Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio data RTSSS ac MYE (ONS) a WIMD 2019 (LlC)

Siart far yn dangos cyfraddau bras o hunanladdiadau tybiedig yn ôl pumedau amddifadedd rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024. Y pumed mwyaf difreintiedig sydd â'r gyfradd uchaf, sef 15.8, a'r pumed sydd â'r amddifadedd lleiaf sydd â'r gyfradd isaf, sef 8.6.

*Roedd data preswylio ar goll mewn 13 achos felly nid yw’r achosion hyn wedi'u cynnwys

Lawrlwytho siart

Lawrlwytho data

 

Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig, yn ôl rhyw ac oedran 

Dynion oedd 76% (265 allan 350) o farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig. Roedd y gyfradd ymhlith dynion (19.1 fesul 100,000, 95% CI 16.9-21.5 fesul 100,000) yn arwyddocaol uwch yn ystadegol o gymharu â chyfradd Cymru gyfan (12.4 fesul 100,000) a chyfradd marwolaethau mewn menywod (5.9 fesul 100,000, 95% CI 4.7-7.3 fesul 100,000). Roedd cyfradd marwolaethau ymhlith menywod yn arwyddocaol is yn ystadegol na chyfradd Cymru gyfan. Roedd y cyfraddau ymhlith dynion a menywod yn debyg i'r cyfraddau yn 2022/23 gyda chyfraddau o 20.0 fesul 100,000 (95% CI 17.7-22.5 fesul 100,000) ar gyfer dynion a 5.6 fesul 100,000 (95% CI 4.5-7.0 fesul 100,000) ar gyfer menywod (gweler data diwygiedig 2022/23).

 

Ffigur 5. Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig, yn ôl rhyw*, cyfradd fras fesul 100,000, preswylwyr Cymru, 2023/24

Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio data RTSSS ac MYE (ONS)

Lawrlwytho siart

Lawrlwytho data

 

Dynion 35-44 oed (35.6 fesul 100,000, 95% CI 27.3-45.5 fesul 100,000) oedd â'r gyfradd uchaf o farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig, ac yna dynion 45-54 oed (24.6 fesul 100,000, 95% CI 18.2-32.5 fesul 100,000). Yn 2022/23, dynion 35-44 oed hefyd oedd â'r gyfradd uchaf (29.9 fesul 100,000, 95% CI 22.4-39.2 fesul 100,000) (gweler data diwygiedig 2022/23) ac er ei fod wedi cynyddu yn 2023/24, nid yw'r cynnydd hwn yn arwyddocaol yn ystadegol gan fod y cyfyngau hyder o amgylch y cyfraddau yn gorgyffwrdd. 

Roedd cyfyngau hyder nad oeddent yn gorgyffwrdd yn dangos bod y gyfradd ymhlith dynion 35-44 oed yn arwyddocaol uwch yn ystadegol nag ym mhob grŵp oedran benywaidd, ymhlith dynion o dan 25 oed, dynion 55-64 oed, dynion 65-74 oed a dynion 75 oed a hŷn. Roedd y gyfradd ymhlith dynion 45-54 oed yn arwyddocaol uwch yn ystadegol nag ym mhob grŵp oedran benywaidd (ar wahân i fenywod 35-44 oed), dynion o dan 25 oed a dynion rhwng 65-74 oed.   

Ni ddefnyddiwyd y system gymharu fesul pâr ar gyfer grŵp rhyw ac oedran oherwydd er mwyn i amcangyfrifon y system gymharu fesul pâr fod yn gadarn mae angen isafswm cyfrif o 10 ac roedd gan rai grwpiau gyfrif o lai na 10.   

Roedd y cyfraddau yn uwch ymhlith dynion o gymharu â menywod ym mhob grŵp oedran. Roedd y gwahaniaeth yn y gyfradd ar gyfer dynion a menywod yn arwyddocaol yn ystadegol ym mhob grŵp oedran (fel y dangosir gan gyfyngau hyder nad ydynt yn gorgyffwrdd) ar wahân i'r grŵp oedran 65-74 oed, er na wnaed profion pellach gan ddefnyddio'r system gymharu fesul pâr i asesu a allai'r gwahaniaeth hwn fod wedi bod yn arwyddocaol yn ystadegol.   

Roedd y gyfradd uchaf ymhlith menywod yn y grŵp oedran 35-44 oed (12.1 fesul 100,000, 95% CI 7.6-18.3 fesul 100,000), ac yna'r grŵp oedran 25-34 oed (9.5 fesul 100,000, 5.7-14.9 fesul 100,000).   Roedd y gyfradd mewn menywod 35-44 oed yn uwch na'r gyfradd yn 2022/23 (8.8 fesul 100,000, 95% CI 5.0-14.3 fesul 100,000) (gweler data diwygiedig 2022/23) ond roedd y cyfyngau hyder sy'n gorgyffwrdd yn dangos nad oedd yn arwyddocaol uwch yn ystadegol. 

 

Ffigur 6. Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig, yn ôl grŵp oedran* a rhyw, pob person, cyfradd fras fesul 100,000, preswylwyr Cymru, 2023/24

Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio data RTSSS ac MYE (ONS)

Siart far yn dangos cyfraddau bras o hunanladdiadau tybiedig yn ôl rhyw a grŵp oedran rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024. Gwrywod 35 i 44 oed sydd â'r gyfradd uchaf, sef 35.6.

* Mae grŵp oedran <25 wedi'i ddefnyddio yn lle 10-24 oed i sicrhau fod pob marwolaeth oherwydd achosion tybiedig o hunanladdiad yn cael ei adrodd

Lawrlwytho siart

Lawrlwytho data

 

Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig yn ôl statws cyflogaeth

Roedd y gyfradd uchaf o farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig ymhlith pobl lle'r oedd statws cyflogaeth wedi'i gofnodi fel di-waith (126.7 fesul 100,000, 95% CI 103.1-154.2 fesul 100,000). Roedd hyn yn arwyddocaol uwch yn ystadegol nag unrhyw grŵp statws cyflogaeth arall a dros 12 gwaith yn uwch na'r grŵp uchaf nesaf sef myfyrwyr/prentisiaid (10.3 fesul 100,000, 95% CI 5.8-17.0 fesul 100,000). Mae'r gyfradd ymhlith pobl a oedd yn ddi-waith wedi codi ers 2022/23, pan oedd yn 114.1 fesul 100,000 (95% CI 91.7-140.2 fesul 100,000) (gweler data diwygiedig 2022/23) ond mae'r cyfyngau hyder sy'n gorgyffwrdd yn dangos nad yw'r cynnydd yn arwyddocaol yn ystadegol. Dylid nodi bod y statws cyflogaeth mewn 84 o bobl (24%) yn anhysbys. Gallai hyn effeithio ar y canfyddiadau (drwy gynyddu neu ostwng y gyfradd) os oedd y rhai a oedd â statws cyflogaeth anhysbys yn fwy tebygol neu'n llai tebygol o fod yn ddi-waith.   

O'r data hyn, gallwch ddod i'r casgliad bod cyfradd y marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig yn arwyddocaol uwch yn ystadegol ymhlith pobl yr adroddwyd eu bod yn ddi-waith o gymharu ag unrhyw grŵp statws cyflogaeth arall.

 

Ffigur 7. Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig, yn ôl statws cyflogaeth*, cyfradd fras fesul 100,000, 16+ oed, preswylwyr Cymru, 2023/24

Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio data RTSSS a data statws gweithgarwch economaidd (ONS)

*Roedd y statws cyflogaeth yn anhysbys mewn 84 o achosion felly nid ydynt wedi'u cynnwys

Lawrlwytho siart

Lawrlwytho data

 

Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig a ffactorau cysylltiedig

Y ffactor cysylltiedig mwyaf cyffredin oedd cyflwr iechyd meddwl, a adroddwyd mewn 219 o'r 350 o bobl (63%) a fu farw yn sgil hunanladdiad tybiedig. Mae hyn yn gynnydd ers 2022/23 lle adroddwyd bod gan 170 o'r 359 o bobl (47%) (gweler data diwygiedig 2022/23) gyflwr iechyd meddwl. Gall fod sawl rheswm am y cynnydd hwn. Gallai fod oherwydd cynnydd gwirioneddol yn nifer y bobl yr adroddwyd bod ganddynt gyflwr iechyd meddwl, gallai fod oherwydd bod yna well adrodd, neu gallai fod oherwydd bod gwell proses ar gyfer croeswirio data gyda ffynonellau eraill.   

Adroddwyd hanes o hunan-niweidio blaenorol mewn 186 o'r 350 o bobl (53%), yn 2022/23 roedd wedi'i gofnodi mewn 175 o'r 359 o bobl (49%) (gweler data diwygiedig 2022/23).   

Adroddwyd am broblemau teuluol a/neu broblemau mewn perthynas mewn 91 o'r 350 o bobl (26%), yn 2022/23 cawsant eu hadrodd mewn 70 o'r 359 o bobl (19%) (gweler data diwygiedig 2022/23).   

O'r data hyn, ni allwch ddod i'r casgliad beth oedd y risg o hunanladdiad mewn rhywun a oedd â chyflwr iechyd meddwl neu hanes o hunan-niweidio blaenorol, neu unrhyw ffactor cysylltiedig arall, gan nad oedd data enwadurol ar gael (h.y. nifer y bobl yn y boblogaeth gyfan sydd â phob ffactor cysylltiedig). 

 
Ffigur 8. Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig, fesul ffactorau cysylltiedig*, pob person, pob oedran, cyfrif**, preswylwyr Cymru, 2023/24

Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio data RTSSS

Siart far yn dangos cyfrif yr hunanladdiadau tybiedig yn ôl ffactorau cysylltiedig rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024. Cyflwr iechyd meddwl sydd â’r cyfrif uchaf, sef 219, wedi’i ddilyn gan hunan-niwed blaenorol, sef 186.

*Mae ffactorau cysylltiedig lluosog wedi'u rhestru, felly efallai bod rhai yn cael eu cyfrif mewn mwy nag un categori

**Mae cyfrifiadau o dan 5 wedi'u dileu

Lawrlwytho siart

Lawrlwytho data

 

Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig, ar sail a oedd pobl yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl

O'r 350 o bobl a fu farw yn sgil hunanladdiad tybiedig, roedd 103 (29%) yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl yn y 6 mis cyn marwolaeth. Nid oedd 156 (45%) yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl. Ni wyddom a oedd 91 o bobl (26%) yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl (ffigur 9), felly mae'n bosibl bod canran y bobl a oedd yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl wedi’i danamcangyfrif neu ei oramcangyfrif. Adroddwyd ffigur tebyg yn 2022/23, pan oedd 104 o'r 359 o bobl (29%) yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl (gweler data diwygiedig 2022/23).  

Nid oedd gan bob person a oedd yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl gyflwr iechyd meddwl hysbys. O'r 219 o bobl yr adroddwyd eu bod â chyflwr iechyd meddwl, roedd 88 (40%) yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl yn y 6 mis cyn marwolaeth, nid oedd 81 (37%) yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl ac ni wyddom a oedd 50 (23%) yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl (heb eu dangos ar y siart). Yn 2022/23, o'r 170 o bobl yr adroddwyd eu bod â chyflwr iechyd meddwl, roedd 77 (45%) yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl, nid oedd 47 (28%) yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl ac ni wyddom a oedd 46 (27%) yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl (gweler data diwygiedig 2022/23). 

O'r data hyn, ni allwch ddod i'r casgliad ynghylch yr hyn a olygir wrth 'yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl’. Does dim digon o wybodaeth eto i benderfynu sut oedd pobl yn hysbys i wasanaethau.   

 

Ffigur 9. Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig, ar sail a oedd person yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl, pob person, o bob oedran, cyfrif, preswylwyr Cymru, 2023/24

Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio data RTSSS

Siart far yn dangos cyfrif yr hunanladdiadau tybiedig yn ôl a oedd unigolion yn hysbys i’r gwasanaethau iechyd meddwl rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024. Roedd 103 o unigolion yn hysbys i’r gwasanaethau, a 156 heb fod yn hysbys iddynt.

Lawrlwytho siart

Lawrlwytho data

 

Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig, ar sail a oedd pobl yn hysbys i'r heddlu yn flaenorol

O blith 350 o farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig, roedd 227 o bobl (65%) wedi bod yn hysbys i'r heddlu yn flaenorol ar ryw adeg yn eu bywydau cyn eu marwolaeth. Nid oes unrhyw arwydd o'r amser rhwng bod yn hysbys i'r heddlu a'r farwolaeth yn sgil hunanladdiad tybiedig. Y rheswm mwyaf cyffredin dros fod yn hysbys i'r heddlu oedd bod rhywun wedi'i amau/wedi cael euogfarn am drosedd (129 o 350, 37%).     

Adroddwyd ffigur uwch yn 2022/23, pan oedd 264 o 359 o bobl (74%) yn hysbys i'r heddlu (gweler data diwygiedig 2022/23). Mae'r ffigurau hyn yn debygol o amrywio dros amser.    

O'r data hyn ni allwch ddod i'r casgliad beth oedd y risg hunanladdiad ar gyfer rhywun a oedd dan amheuaeth/wedi cael euogfarn am drosedd, a oedd yn ddioddefwr neu'n dyst i drosedd, neu a oedd yn berson bregus, gan nad oedd data enwadurol ar gael.   

 

Ffigur 10. Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig, ar sail bod yn hysbys i'r heddlu yn flaenorol*, pob person, pob oedran, cyfrif, preswylwyr Cymru, 2023/24

Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio data RTSSS

Siart far yn dangos cyfrif yr hunanladdiadau tybiedig am resymau ar sail a oeddent eisoes yn hysbys i'r heddlu rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024. Roedd 129 o dan amheuaeth/wedi'u dyfarnu'n euog o drosedd.

*Efallai bod rhai wedi'u cyfrif mewn mwy nag un categori

Lawrlwytho siart

Lawrlwytho data

 

Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig, yn ôl y dull marwolaeth

Crogi/tagu/mygu oedd y dull mwyaf cyffredin o farwolaeth, sef 197 o 350 (56%) o farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig. Yr ail ddull mwyaf cyffredin o farwolaeth oedd gwenwyn, sef 69 o 350 (20%) o farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig.   

O gymharu â ffigurau diwygiedig 2022/23, bu mwy o farwolaethau drwy foddi yn 2023/24 (25 marwolaeth, o gymharu â 13 yn 2022/23). Roedd mwy o farwolaethau hefyd drwy neidio neu orwedd o flaen gwrthrych symudol yn 2023/24 (12 marwolaeth, o gymharu â 7 yn 2022/23) (gweler data diwygiedig 2022/23). Disgwylir pan fydd niferoedd bach, y bydd rhain yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, felly cynghorir gofal wrth ddehongli'r gwahaniaethau hyn. 

 

Ffigur 11. Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig, yn ôl dull marwolaeth*, pob person, pob oedran, cyfrif**, preswylwyr Cymru, 2023/24

Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio data RTSSS

Siart far yn dangos cyfrif yr achosion o hunanladdiad tybiedig yn ôl dull marwolaeth rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024. Crogi, mygu a thagu oedd â'r cyfrif uchaf, sef 197.

*Adolygwyd categorïau o'r llynedd i gyd-fynd â Lloegr nRTSSS

**Mae cyfrifiadau dan 5 wedi'u cynnwys yn y categori 'Arall’

Lawrlwytho siart

Lawrlwytho data

 

Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig, yn ôl math o leoliad

Y lleoliad mwyaf cyffredin lle bu marwolaeth yn sgil hunanladdiad tybiedig oedd preswylfeydd preifat, sef y mwyafrif (207) o'r 350 digwyddiad (59%). Coedwigoedd neu fforestydd oedd yr ail leoliad mwyaf cyffredin, sef 22 (6%) allan o 350 o ddigwyddiadau.  

Cafwyd canfyddiadau tebyg ar gyfer data 2022/23. Roedd yn dangos bod 213 o'r 359 digwyddiad (59%) wedi digwydd mewn preswylfeydd preifat a bod 30 o'r 359 o achosion (8%) wedi digwydd mewn coedwigoedd neu fforestydd (gweler data diwygiedig 2022/23).

 

Ffigur 12. Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig, yn ôl math o leoliad, pob person, pob oedran, cyfrif*, preswylwyr Cymru, 2023/24

Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio data RTSSS

Siart far yn dangos cyfrif yr hunanladdiadau tybiedig yn ôl math o leoliad rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024. Preswylfeydd preifat oedd â'r cyfrif uchaf, sef 207.

*Mae cyfrifiadau o dan 5 wedi'u cynnwys yn y categori 'Arall'

Lawrlwytho siart

Lawrlwytho data

Casglaid

Bu farw 350 o breswylwyr Cymru yn sgil hunanladdiad tybiedig, naill ai yng Nghymru neu y tu allan i Gymru, rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024, gan roi cyfradd o 12.4 fesul 100,000 o bobl. Dynion oedd 76% o'r marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig. Roedd y gyfradd oed-benodol ar ei huchaf ymhlith dynion rhwng 35 a 44 oed (35.6 fesul 100,000). Y Gogledd oedd â'r gyfradd uchaf o farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig (14.1 fesul 100,000), ond nid oedd yn arwyddocaol wahanol yn ystadegol i'r gyfradd Cymru gyfan.  

Roedd cyfraddau marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig mewn preswylwyr yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig (15.8 fesul 100,000) yn arwyddocaol uwch yn ystadegol na chyfradd Cymru gyfan, ac roedd cyfradd y marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig mewn preswylwyr yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig (8.6 fesul 100,000) yn arwyddocaol is yn ystadegol na chyfradd Cymru gyfan. Y gyfradd farwolaeth yn sgil hunanladdiad tybiedig ymhlith pobl oedd wedi'u cofnodi’n ddi-waith oedd 126.7 fesul 100,000, sef o leiaf 12 gwaith yn uwch nag mewn unrhyw grŵp statws cyflogaeth arall. Adroddwyd bod gan 63% o bobl gyflwr iechyd meddwl ac roedd 29% yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl yn y 6 mis cyn marwolaeth. Roedd hanes o hunan-niweidio blaenorol wedi'i gofnodi mewn 53% o bobl. Roedd 65% o'r marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig ymhlith pobl a oedd yn hysbys i'r heddlu yn flaenorol.       

Gellir defnyddio'r wybodaeth hon er mwyn llywio gwaith atal hunanladdiad yng Nghymru er mwyn lleihau nifer yr hunanladdiadau ym mhoblogaeth Cymru.     

Rhestr Termau

Cyfwng hyder 

Mae cyfyngau hyder yn arwyddion o'r amrywiad naturiol a ddisgwylir o gwmpas cyfradd a dylid eu hystyried wrth asesu neu ddehongli cyfradd. Mae maint y cyfwng hyder yn dibynnu ar nifer yr achosion a maint y boblogaeth lle bu'r achosion. Yn gyffredinol, mae cyfraddau sy'n seiliedig ar nifer fach o ddigwyddiadau a phoblogaethau bach yn debygol o fod â chyfnodau hyder ehangach. I'r gwrthwyneb, mae cyfraddau sy'n seiliedig ar boblogaethau mawr yn debygol o fod â chyfyngau hyder culach. Mae cyfwng hyder o 95% yn golygu ein bod 95% yn hyderus bod gwir werth yr amcangyfrif o fewn yr ystod.     

Cyfrif 

Y cyfrif yw nifer y marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig a ddigwyddodd dros gyfnod penodol o amser.  

Cyfradd fras 

Cyfradd fras yw nifer y marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig sy'n digwydd mewn poblogaeth dros gyfnod penodol o amser, a fynegir fel nifer y marwolaethau fesul 100,000 o'r boblogaeth.  Defnyddiwyd y cyfraddau hyn gan eu bod fwyaf addas i lywio camau gweithredu, sef un o nodau'r RTSSS.       

Categorïau Yn hysbys i'r Heddlu (fel yr adroddwyd gan yr Heddlu) 
  • Person bregus – mae hyn yn cynnwys sefyllfaoedd lle nad yw person yn gallu gofalu am ei hun neu amddiffyn ei hun ac eraill rhag niwed neu gamfanteisio. 

  • Arall – mae hyn yn cynnwys sefyllfaoedd nad ydynt wedi'u cynnwys mewn categorïau presennol, er enghraifft y person sydd wedi adrodd am ddigwyddiad neu bryder, y person a oedd yn rhan o ddigwyddiad traffig ffyrdd. Nid yw'n cynnwys a oedd y person yn ddeiliad trwydded arfau tanio.  

Cymedr 

Nifer cyfartalog y marwolaethau.  

Cyflwr iechyd meddwl Mae hwn yn derm eang sy'n cwmpasu cyflyrau sy'n effeithio ar emosiynau, meddwl ac ymddygiad, ac sy'n ymyrryd yn sylweddol â'n bywyd. Mae cyflyrau iechyd meddwl yn gallu effeithio'n sylweddol ar fywyd pob dydd, gan gynnwys ein gallu i weithio, gofalu am ein hunain a'n teulu, a'n gallu i uniaethu a rhyngweithio ag eraill. Mae’n derm sy'n cael ei ddefnyddio i gwmpasu sawl cyflwr (e.e. iselder, anhwylder straen wedi trawma, sgitsoffrenia) gyda gwahanol symptomau ac effeithiau am gyfnodau gwahanol o amser, ar gyfer pob person. Mae cyflyrau iechyd meddwl yn gallu amrywio, o gyflwr ysgafn i salwch difrifol a pharhaus. Mae pobl â chyflyrau iechyd meddwl yn fwy tebygol o brofi lefelau is o les corfforol a meddyliol, ond nid yw hyn yn wir bob amser neu o reidrwydd. Mae rhai cyflyrau iechyd meddwl fel anhwylderau bwyta a sgitsoffrenia yn gysylltiedig â risg uwch o farwolaeth (Ymgynghoriad ar Strategaeth Ddrafft Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio (Llywodraeth Cymru)). 

Cyfradd 

Cyfraddau bras (gweler uchod) yw'r cyfraddau yn yr adroddiad hwn.   

Rhanbarthau 

Mae tri rhanbarth y Gogledd, y Canolbarth a'r Gorllewin a rhanbarth y De-ddwyrain wedi'u diffinio isod ac yn cyd-fynd â'r fforymau atal hunanladdiad rhanbarthol yng Nghymru.  

Y Gogledd – Bwrdd Iechyd: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Awdurdodau lleol: Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam.     

Y Canolbarth a'r Gorllewin – Byrddau Iechyd: Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Awdurdodau lleol: Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Powys.  

Y De-ddwyrain – Byrddau Iechyd: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Awdurdodau lleol: Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerdydd, Bro Morgannwg.    

Hunan niweidio   

Mae hunan-niweidio’n cyfeirio at weithred fwriadol o hunanwenwyno neu hunananafu, waeth beth fo cymhelliant neu ddiben ymddangosiadol y weithred, ac mae'n fynegiant o drallod emosiynol. Mae hunan-niweidio’n cynnwys unrhyw ymgais gan rywun i ladd ei hun yn ogystal â gweithredoedd lle nad oes fawr ddim bwriad neu ddim bwriad o gwbl i ladd ei hun ynghlwm wrthynt (er enghraifft, lle mae pobl yn niweidio eu hunain i leihau tensiwn mewnol, cyfleu trallod, neu i geisio rhyddhad rhag sefyllfa sydd fel arall yn llethol). (Ymgynghoriad ar Strategaeth Ddrafft Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio (Llywodraeth Cymru)). 

Gwyriad safonol 

Mesur o faint o amrywiad sydd mewn o set o werthoedd mewn perthynas â'r cymedr.   

Arwyddocâd ystadegol 

Penderfynwyd arwyddocâd ystadegol wrth gymharu amcangyfrifon ardal leol â gwerth Cymru gyfan gan ddefnyddio cyfyngau hyder o 95%. Mae amcangyfrif yr ardal leol o arwyddocâd ystadegol wahanol os yw ei chyfwng hyder y tu hwnt i werth Cymru. Os yw'r cyfwng hyder yn gorgyffwrdd â gwerth Cymru yna nid yw'r gwahaniaeth yn arwyddocaol yn ystadegol.   

Wrth gymharu amcangyfrifon ardal leol ag amcangyfrif ardal leol arall, grwpiau oedran yn ôl rhyw, a'r pumedau amddifadedd, mae cyfyngau hyder nad ydynt yn gorgyffwrdd rhwng gwerthoedd yn dangos nad yw'r gwahaniaeth yn debygol o fod wedi deillio o hap amrywiad (h.y. yn arwyddocaol yn ystadegol). Fodd bynnag, pan mae'r cyfyngau hyder yn gorgyffwrdd, ni allwn bennu a oes gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol ai peidio trwy gymaru cyfyngau hyder yn unig, felly mae angen prawf mwy manwl gywir. Edrychodd cymharu fesul pâr ar y gwahaniaeth rhwng y cyfraddau a chyfyngau hyder 95% y gwahaniaeth. Pan fydd cyfwng hyder y gwahaniaeth cyfradd yn uwch na sero, ystyrir bod y ddwy gyfradd yn sylweddol wahanol gyda hyder o 95%.   

Camddefnyddio sylweddau 

Mae camddefnyddio sylweddau’n cael ei ddiffinio'n ffurfiol fel y defnydd parhaus o unrhyw sylwedd seicoweithredol sy'n effeithio'n sylweddol ar iechyd meddwl ac iechyd corfforol, sefyllfa gymdeithasol a chyfrifoldebau unigolyn. Mae'r mathau mwyaf difrifol o gamddefnyddio sylweddau’n cael eu trin gan wasanaethau adsefydlu cyffuriau ac alcohol arbenigol fel arfer. Mae camddefnyddio sylweddau’n cynnwys camddefnyddio amrywiaeth o sylweddau seicoweithredol gan gynnwys alcohol, cyffuriau anghyfreithlon a chyfreithlon gan gynnwys defnyddio meddyginiaethau ar bresgripsiwn mewn ffordd nad yw'r meddyg teulu na'r gwneuthurwr yn ei hargymell. (Ymgynghoriad ar Strategaeth Ddrafft Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio (Llywodraeth Cymru)). 

Hunanladdiad tybiedig 

Pan fo amheuaeth fod unigolyn wedi lladd ei hun yn fwriadol (Ymgynghoriad ar Strategaeth Ddrafft Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio (Llywodraeth Cymru)). 

Mae marwolaeth yn sgil hunanladdiad tybiedig fel yr adroddwyd yn y rhan fwyaf o achosion yma wedi'i phennu gan yr Heddlu. Mae'r Coleg Plismona wedi amlinellu sut i ddosbarthu hunanladdiad tybiedig ac mae'n dweud:  

 “..There is often a requirement for an initial judgment to be made on whether a case is potentially suicide. … Officers should use their professional judgment – based on all the known facts – and supported by the national decision model (NDM), to record whether a fatality is a suspected suicide. Witness accounts, CCTV material, the presence of a suicide note and other available evidence will help in this determination. The ‘Ovenstone criteria’ (Ovenstone, 1973) may be used as a tool to support decision making on whether a death was more likely to have been suicide than not. Any judgement made in the first instance must be reviewed as further information becomes available.”  

 

ISBN: 978-1-83766-541-9

 

Yn ôl i'r brig

Atodiadau