Mae DJS Research Ltd yn cynnal arolwg ‘Costau byw cynyddol, iechyd a llesiant oedolion a phrofiadau yn ystod plentyndod yng Nghymru’ ar ran Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor.
Gallwch gymryd rhan yn Gymraeg neu yn Saesneg. Mae cymryd rhan yn wirfoddol.
Cynlluniwyd yr arolwg hwn i ddarparu gwybodaeth ar effaith y costau byw cynyddol yng Nghymru. Mae’r arolwg yn cynnwys cwestiynau ynglŷn ag iechyd, profiadau cymdeithasol a theuluol unigolion, gan gynnwys cwestiynau ar brofiadau yn ystod plentyndod, gan gynnwys camdriniaeth. Mae rhai o’r cwestiynau yn eithaf sensitif eu natur, ond mae pob cwestiwn yn wirfoddol.
Bydd yr atebion a dderbyniwn yn ein helpu i ddeall: y ffactorau sy’n dylanwadu ar iechyd, llesiant ac ymddygiad pobl yn ystod y costau byw cynyddol, sut mae pobl yn cael cymorth, gan gynnwys cymorth ariannol a chymorth llesiant, a’r ffordd y mae’r rhain yn cael eu heffeithio gan brofiadau bywyd niweidiol, gan gynnwys profiadau yn ystod plentyndod, er enghraifft camdriniaeth. Mae’r arolwg yn bwysig oherwydd bydd yn rhoi gwybodaeth i’n helpu ni i lywio gwasanaethau ac ymyriadau yn ystod y costau byw cynyddol.
Darllenwch y ddalen wybodaeth i gyfranogwyr i gael gwybodaeth am yr astudiaeth a beth fydd yn digwydd os byddwch yn penderfynu cymryd rhan.
Darllenwch y daflen ddiolch i gael gwybodaeth am wasanaethau cymorth y gallech fod eisiau eu defnyddio.
Gweler Hysbysiad Preifatrwydd Iechyd Cyhoeddus Cymru ar:
Mae DJS Research Ltd yn gwmni ymchwil ac mae’n aelod llawn o’r Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad (MRS) sydd yn gaeth i God Ymddygiad y Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad, sydd i'w weld yma: https://www.mrs.org.uk/standards/code_of_conduct.
Cyfeiriad: 3 Pavilion Lane, Strines, Stockport, SK6 7GH
Ffôn: 01663 767857
E-bost: costoflivingsurvey@djsresearch.com
Gallwch gysylltu â thîm Iechyd Cyhoeddus Cymru yn:
Cyfeiriad: Arolwg Costau Byw, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, Llawr 5, Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ
Ffôn: 02920 227744
E-bost: arolwgcostaubyw@wales.nhs.uk
Gwefan: www.phw.nhs.wales