Neidio i'r prif gynnwy

Gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru Iachach

Cyhoeddwyd Mai 2023
 

 

Ein gweledigaeth

Rydym yn gweithio tuag at Gymru lle mae pobl yn byw bywydau hirach, iachach a lle mae gan bawb yng Nghymru fynediad teg a chyfartal at y pethau sy'n arwain at iechyd a llesiant da.

I gyflawni hyn, mae gennym Strategaeth Hirdymor (2023-35) sy'n nodi ein gweledigaeth ar gyfer cyflawni dyfodol iachach i bobl yng Nghymru erbyn 2035.  Cafodd ei chymeradwyo gan ein Bwrdd ym mis Mawrth 2023 ar ôl adolygiad o'n Strategaeth Hirdymor flaenorol (2018-30).

Mae ein Strategaeth yn nodi ein diben a'n rôl yn glir ac mae'n cael ei hategu gan nifer bach o ganlyniadau sy'n ein helpu i asesu ein cynnydd.
Byddwn yn cyflawni ein gweledigaeth drwy gyflawni ein chwe blaenoriaeth:

  • Dylanwadu ar benderfynyddion ehangach iechyd
  • Hybu llesiant meddyliol a chymdeithasol
  • Hybu ymddygiad iach
  • Cefnogi'r gwaith o  ddatblygu system iechyd a gofal gynaliadwy sy'n canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar
  • Darparu gwasanaethau iechyd cyhoeddus rhagorol i ddiogelu'r cyhoedd a sicrhau'r canlyniadau iechyd gorau posibl i'r boblogaeth
  • Mynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd ar iechyd cyhoeddus

Cafodd ein strategaeth ei datblygu drwy edrych ar y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd cyhoeddus i ddeall iechyd pobl Cymru. Mae hyn wedi dylanwadu ar ein strategaeth a sut y gwnaethom benderfynu ar ein blaenoriaethau. Ein blaenoriaethau a'r camau gweithredu a gymerwn o dan bob un ohonynt yw ein hymateb i'r heriau hyn.

Byddwn yn canolbwyntio ar ansawdd a gwelliant i'n cefnogi i ddod yn sefydliad dysgu er mwyn cyflawni ein strategaeth. Y dull a ddewiswyd gennym i wneud hyn yw Ansawdd fel Strategaeth Sefydliadol (QOS). Mae QOS yn canolbwyntio ar welliant parhaus i ddiwallu anghenion y bobl rydym yn eu gwasanaethu. Mae QOS yn cynnwys pum gweithgaredd arweinyddiaeth sy'n cefnogi gweithgareddau ymgysylltu â staff ehangach fel ‘Y Gorau y Gallwn Fod’ a ‘Gweithio Sut Mae'n Gweithio Orau’. Mae hyn yn ei dro yn creu diwylliant ac amgylchedd sy'n cefnogi ein staff ac yn darparu lle gwych i staff weithio a ffynnu ynddo.  Mae’r dull hwn at ansawdd a gwelliant hefyd yn cefnogi Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020, yn enwedig ei dyletswyddau o ran ansawdd a gonestrwydd.

Mae ein Strategaeth Hirdymor wedi'i rhannu'n 6 adran fel y nodir isod, sy'n cynnwys y cefndir i'n strategaeth, ein datganiad diben, ein blaenoriaethau, a nifer o strategaethau a methodolegau a fydd yn ein helpu i roi ein strategaeth ar waith. Mae'r testun wedi cyflawni achrediad Crystal Mark gan yr Ymgyrch Saesneg Clir.

 

Gallwch hefyd weld ein blaenoriaethau strategol ar dudalen a'n strategaeth hirdymor fanwl. Mae'r ddogfen hon yn esbonio'r strategaeth yn llawn gan gynnwys ein canlyniadau a'n strategaethau a'n methodolegau galluogi a fydd yn helpu i roi ein strategaeth ar waith.

Gwnaeth ein Strategaeth Hirdymor gael achrediad Crystal Mark Saesneg Clir. Mae'r cyfieithiad ar gael i'w lawrlwytho fel pdf

 

Mae gennym nifer o ddogfennau ar gael hefyd sydd wedi cefnogi'r gwaith o ddatblygu ein strategaeth:

Ein Cynllun Strategol 2024-27

Fe'i gelwir yn Gynllun Tymor Canolig Integredig (CTCI) hefyd, mae'r cynllun hwn yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd dros y tair blynedd nesaf i gyflawni ein strategaeth, Gweithio Gyda'n Gilydd ar gyfer Cymru Iachach. 

Ein datganiad Llesiant

Mae’r Datganiad Llesiant yn nodi ein hamcanion llesiant yn unol â’n dyletswydd statudol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015). Gan ein bod wedi diwygio ein Strategaeth Hirdymor yn ddiweddar, rydym wedi diwygio Ein Datganiad Llesiant.

Ein Cynllun Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd 2024-2026

Mae ein Cynllun Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd ar gyfer 2024-2026 yn dilyn cynllun cyntaf y sefydliad ar gyfer 2022-2024. Mae’n amlinellu’r gwaith y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud dros y ddwy flynedd nesaf i gyrraedd targed GIG Cymru o sero net erbyn 2030 a’n hamcan carbon negyddol erbyn 2035, fel y nodir yn ein Strategaeth Hirdymor.