Neidio i'r prif gynnwy

Cynhadledd Iechyd y Cyhoedd 2025

Ddydd Mercher 22 Hydref 2025, ymunodd dros 350 o gynrychiolwyr â ni ar gyfer Cynhadledd Iechyd y Cyhoedd Cymru yng Nghlwb Chriced Morgannwg, Gerddi Sophia, Caerdydd.

Edrych yn ôl ar Gynhadledd Iechyd y Cyhoedd Cymru 2025

Ymunodd partneriaid o'r sectorau cyhoeddus, preifat ac academaidd a’r trydydd sector â ni ar gyfer ein digwyddiad blaenllaw, a ddychwelodd am y tro cyntaf ers 2019.

Y thema oedd 'gweithredu heddiw, ar gyfer cenedl iachach yfory', ac roeddem yn falch o gychwyn ein cynhadledd gyda darn creadigol ysbrydoledig gan Duke Al, y bardd a'r artist gair llafar Dom Tsoi, gan ddod â themâu atal a thegwch yn fyw.

Gwyliwch eto: Explosion of Colour

Ymunwyd â ni hefyd gan Monika Kosinska o Sefydliad Iechyd y Byd, a rannodd fewnwelediadau i benderfynyddion masnachol iechyd, Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles, a bwysleisiodd bwysigrwydd atal i Lywodraeth Cymru, a phanel ysbrydoledig o bobl ifanc yn trafod pwysigrwydd cynnwys pobl ifanc mewn penderfyniadau iechyd cyhoeddus.

Roedd gweithdai a sgyrsiau gwib dan arweiniad aelodau staff Iechyd Cyhoeddus Cymru drwy gydol y dydd yn archwilio anghydraddoldebau iechyd, penderfynyddion ehangach iechyd, llesiant meddwl a chymdeithasol a gweithredu hinsawdd.

Diolch i bawb a fynychodd, a ymgysylltodd â'r gweithdai ac a gyfrannodd at y diwrnod. Gobeithiwn y bu’n gyfle i rwydweithio, rhannu dysgu ac arloesedd a datblygu partneriaethau.

Gwyliwch ein fideo crynodeb o’r digwyddiad: