Hoffem gyflwyno, am y tro cyntaf erioed, Ddatganiad Ansawdd Blynyddol i blant, a gafodd ei lunio ar gais Llysgenhadon Ifanc Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Croeso i’n Datganiad Ansawdd Blynyddol ar gyfer 2018-2019, sy’n rhoi enghreifftiau o’r gwaith anhygoel sy’n cael ei gyflawni ar draws ein sefydliad, nid yn unig gan ein staff ond gan ein partneriaid hefyd, sy’n gweithio yma yng Nghymru a ledled y byd.