Neidio i'r cynnwys

Penderfynyddion ehangach iechyd

Penderfynyddion ehangach iechyd yw’r amodau bob dydd sy’n llunio ein cyfleoedd i fyw bywyd iach. Weithiau fe’u gelwir yn flociau adeiladu iechyd oherwydd eu bod yn creu’r sylfeini mae pob un ohonom yn dibynnu arnynt i gadw’n iach. Mae’r blociau adeiladu hyn yn cynnwys mynediad at addysg a sgiliau da, incwm ac adnoddau digonol, argaeledd gwaith da, trafnidiaeth ddibynadwy a chynaliadwy, a thai diogel o ansawdd, a’n hamgylchedd adeiledig a naturiol.

Pam mae blociau adeiladu iechyd yn bwysig ar gyfer iechyd, llesiant a thegwch?

Mae’r ffactorau hyn yn bwysig oherwydd eu bod yn cael llawer mwy o ddylanwad ar ein hiechyd na gofal iechyd yn unig. Pan fydd y blociau adeiladu yn gryf, mae gan bobl gyfleoedd gwell, llai o straen a mwy o reolaeth dros eu bywydau gan arwain at lesiant corfforol a meddyliol gwell. Pan fydd y blociau adeiladu yn wan—megis tai gwael, cyflogaeth ansicr neu strydoedd anniogel—maent yn cyfyngu ar gyfleoedd, yn gwanhau cymunedau, ac yn trosglwyddo anfantais o un genhedlaeth i’r llall. Mae byw mewn tlodi yn arwydd bod y blociau adeiladu sylfaenol hyn ar goll.

Trwy fuddsoddi mewn blociau adeiladu cryf mae gan gymunedau’r amodau i ffynnu. Mae cymunedau iachach yn fwy gwydn, yn fwy cynhyrchiol, ac yn gallu addasu’n well i heriau’r dyfodol fel newid hinsawdd a newid demograffig.

Mae cryfhau blociau adeiladu iechyd yn cyfrannu at gyflawni saith Nod Llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ac yn creu Cymru decach, iachach a mwy cynaliadwy.

Beth mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud i gryfhau blociau adeiladu iechyd?

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru i wella’r amodau sy’n caniatáu i bobl fyw bywydau iach a boddhaus drwy wneud y canlynol:

  • Darparu tystiolaeth glir a dibynadwy am y cyflyrau sy’n llunio iechyd a’r hyn sy’n gweithio i gryfhau blociau adeiladu iechyd
  • Dod â phartneriaid ynghyd i rannu dysgu a chymryd camau ar y cyd i wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd
  • Eirioli a chynghori ar gamau gweithredu drwy helpu’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau i ddeall manteision hirdymor cryfhau blociau adeiladu iechyd

Trwy weithio fel hyn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn helpu i adeiladu amgylcheddau iachach heddiw tra’n diogelu llesiant cenedlaethau’r dyfodol.

Pa gamau y dylid eu cymryd i gryfhau blociau adeiladu iechyd ar gyfer Cymru iachach, tecach a mwy cynaliadwy?  

Lefel genedlaethol

Mae’r camau polisi allweddol y gall Llywodraeth Cymru a chyrff cenedlaethol eraill eu cymryd yn cynnwys:

  • Codi safonau tai, gan gynnwys gwella effeithlonrwydd ynni, lleihau lleithder ac oerfel, a chynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy
  • Cefnogi gwaith teg, gan gynnwys mynd i’r afael â chyflogaeth ansicr, gwella cyflogau, a sicrhau amodau gwaith da mewn economi sy’n tyfu gyda digon o gyfleoedd i bawb
  • Buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar, fel gofal plant o ansawdd, cefnogaeth i rieni ac addysg gynnar.
  • Gwella seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus, gan wneud gwasanaethau’n fwy dibynadwy, hygyrch a fforddiadwy i gysylltu pobl â swyddi, addysg a gwasanaethau.
  • Gwreiddio iechyd ym mhob polisi, gan ddefnyddio adnoddau fel Asesiad o’r Effaith ar Iechyd i sicrhau bod penderfyniadau cenedlaethol yn cefnogi llesiant hirdymor‑.
  • Gweithredu ar yr hinsawdd ac ansawdd amgylcheddol, gan gynnwys aer glân, mannau gwyrdd, a dulliau teithio llesol
Lefel ranbarthol

Camau allweddol y gall cyrff rhanbarthol fel Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, Byrddau Iechyd Lleol, Byrddau Cynllunio Rhanbarthol eu cymryd:

  • Cysylltu strategaethau rhanbarthol, fel datblygu economaidd, trafnidiaeth, a chynlluniau iechyd a llesiant, fel eu bod yn atgyfnerthu amodau byw iachach.
  • Buddsoddi mewn rhaglenni sgiliau a chyflogaeth ar gyfer pobl leol, yn enwedig mewn cymunedau sy’n wynebu anfantais.
  • Cefnogi rhwydweithiau trafnidiaeth cynaliadwy, gan gynnwys gwasanaethau bysiau integredig, llwybrau beicio a cherdded diogel, a chysylltiadau rhwng trefi ac ardaloedd gwledig.
  • Cydlynu gwasanaethau tai, iechyd a gofal cymdeithasol i atal digartrefedd, cefnogi byw’n annibynnol a lleihau pwysau ar wasanaethau iechyd.
  • Defnyddio data a thystiolaeth a rennir i nodi’r cymunedau sydd fwyaf mewn angen a thargedu buddsoddiad yn unol â hynny
Lefel leol

Mae camau allweddol y gall sefydliadau lleol fel awdurdodau lleol eu cymryd yn cynnwys:

  • Creu cymdogaethau diogel, hawdd eu cerdded, gyda phalmentydd, goleuadau, parciau a mannau chwarae da.
  • Gwella amodau tai lleol, gan gynnwys mynd i’r afael â llwydni, cartrefi oer a gorlenwi.
  • Cefnogi datblygiad economaidd lleol, fel adfywio canol trefi, hybiau cymunedol a chefnogaeth i fusnesau lleol.
  • Cryfhau rhwydweithiau cymunedol, fel cyfleoedd gwirfoddoli, gweithgareddau cymdeithasol a lleoedd lle gall pobl greu cysylltiadau â’i gilydd.
  • Sicrhau mynediad at hanfodion fforddiadwy, gan gynnwys trafnidiaeth, bwyd a chysylltedd digidol.
  • Defnyddio pwerau cynllunio lleol i lunio lleoedd iachach fel gwella mynediad at fannau gwyrdd neu gyfyngu ar siopau bwyd cyflym.

Data