Llesiant ariannol
Mae ein sefyllfa ariannol yn chwarae rhan fawr wrth bennu iechyd a llesiant. Mae’n effeithio ar ble a sut rydym yn byw, gweithio a heneiddio. Mae hyn yn dylanwadu ar ein mynediad at hanfodion, fel bwyd a gwres, ein cyfleoedd i gymryd rhan yn gymdeithasol, a’r rhyddid i wneud dewisiadau iach. Llesiant ariannol yw pan fyddwn yn teimlo’n ddiogel ac mewn rheolaeth o’n harian, nawr ac yn y dyfodol. Nid yw’n ymwneud â lefel yr incwm sydd gan berson ond yn hytrach ei allu i ddiwallu ei anghenion gyda’r incwm hwnnw.
Tabl cynnwys:
- Pam mae llesiant ariannol yn bwysig i iechyd, llesiant a lleihau anghydraddoldebau?
- Beth mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud i gryfhau llesiant ariannol y boblogaeth yng Nghymru?
- Pa gamau y dylid eu cymryd ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol i gryfhau incwm ac adnoddau ar gyfer y boblogaeth yng Nghymru?
- Gwybodaeth bellach
- Adnoddau
- Adroddiadau
- Data
Pam mae llesiant ariannol yn bwysig i iechyd, llesiant a lleihau anghydraddoldebau?
Mae sicrhau bod gan bobl yr adnoddau ariannol sydd eu hangen arnynt yn hanfodol er mwyn helpu pobl i gadw’n iach yn gorfforol ac yn feddyliol, ac i leihau’r bylchau iechyd rhwng cymunedau. Mae hynny oherwydd gall pryderon am ein harian greu straen a theimlad o ansicrwydd ynghylch pob agwedd ar ein bywydau yn ogystal â chreu rhwystrau rhag byw bywyd iach neu iachach. Er enghraifft, gall peidio â chael digon o arian ein hatal rhag cael mynediad at dai diogel, bwyd maethlon, a chyfleoedd ar gyfer dysgu, cyflogaeth a chysylltiadau cymdeithasol, sydd i gyd yn helpu i osod y sylfaen ar gyfer iechyd da. Gall pryderon ariannol hefyd ein harwain i droi at ymddygiadau sy’n niweidiol i iechyd fel mecanwaith ymdopi, fel goryfed alcohol, gamblo yn y gobaith o ennill mwy o arian yn ôl, neu ysmygu.
Yn ogystal â hyn, mae ymchwil yn dangos, os oes gennym incwm uwch, rydym fel arfer yn byw’n hirach, yn cael llai o afiechydon cronig, ac yn mwynhau iechyd meddwl gwell na’r rhai sydd ag incwm is. Ar y llaw arall, mae cysylltiad agos rhwng tlodi hirdymor ag iechyd sy’n gwaethygu a hyd oes byrrach. Mae mynd i’r afael â llesiant ariannol gwael nid yn unig o fudd i iechyd yr unigolyn, mae hefyd yn cryfhau teuluoedd a chymunedau, gan leihau’r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Wrth i ni geisio creu Cymru iachach a thecach, mae cefnogi pobl i wneud y mwyaf o’u hincwm a chael mynediad at gymorth yn gam hanfodol tuag at roi cyfle i bawb gadw’n iach a byw’n hirach ac yn iachach.
Beth mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud i gryfhau llesiant ariannol y boblogaeth yng Nghymru?
Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru hanes cryf o gydweithio â phartneriaid i ddadansoddi, dehongli a helpu i lunio’r sail dystiolaeth ynghylch sut mae incwm a’r economi’n gysylltiedig ag iechyd, ac mae hyn yn parhau. Er enghraifft, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhan o’r Grŵp Llywio ar gyfer Cynllun Cyflawni Llesiant Ariannol Cymru. Rydym yn gweithio i hybu’r angen am lesiant ariannol i bawb, drwy ddadlau o blaid gwaith ac incwm teg, ceisio atal ansicrwydd ariannol, gan gynnwys drwy gefnogi camau gweithredu i fynd i’r afael â chostau byw cynyddol, ac ychwanegu at y sail dystiolaeth drwy ein hymchwil a’n hymgysylltiad. Rydym hefyd yn darparu cyngor ac arweiniad i lunwyr polisi sydd â diddordeb mewn gwneud y cysylltiadau rhwng iechyd, incwm ac adnoddau
Pa gamau y dylid eu cymryd ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol i gryfhau incwm ac adnoddau ar gyfer y boblogaeth yng Nghymru?
Gorau po fwyaf y gallwn ni ei wneud i gefnogi pobl i gael llesiant ariannol. Mae hyn yn cynnwys cymryd camau i sicrhau y gall pawb yng Nghymru gael mynediad at swyddi teg a diogel sy’n talu o leiaf y cyflog byw, gan ei gwneud hi’n haws i bobl hawlio cymorth lles y maent yn gymwys i’w gael, darparu gofal plant a thai fforddiadwy o ansawdd, a mynd i’r afael â chost gynyddol hanfodion, fel bwyd a gwres. Mae angen i bob sefydliad sy’n gysylltiedig gydweithio er mwyn gwella llesiant ariannol pawb yng Nghymru. Dyna pam rydym o blaid sicrhau bod pob polisi a strategaeth ar lefelau cenedlaethol a lleol yn ystyried sut y byddant yn effeithio ar lesiant ariannol eu poblogaethau, ac ar bawb. Er mwyn sicrhau y gall pawb gael mynediad at y cymorth mae ei angen arnynt, mae’n bwysig nodi a chynorthwyo’r rhai sydd fwyaf mewn perygl o iechyd gwael oherwydd eu sefyllfa ariannol a sicrhau bod yr holl wasanaethau a chymorth wedi’u cynllunio i fod yn hygyrch ac yn rhydd rhag stigma.
Gwybodaeth bellach
Data
-
Amddifadedd incwm cronnus 2017
Cyfrif a chanran yr holl bersonau yn ôl Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA) preswylio Cymru….