Incwm sylfaenol
Mae Incwm Sylfaenol (mae eraill yn cyfeirio at ‘Incwm Sylfaenol Cyffredinol’) yn gysyniad a fyddai’n gweld unigolion yn cael taliadau diamod, o swm rheolaidd ac ar adegau rheolaidd, i’w galluogi i gael lefel sylfaenol o incwm. Yn rhyngwladol, mae dros 80 o gynlluniau peilot, treialon a chynlluniau incwm sylfaenol wedi cael eu rhoi ar waith yn llawn, ac yma yng Nghymru mae’r cysyniad wedi’i dreialu ar gyfer y rhai sy’n gadael gofal.
Pam y gallai incwm sylfaenol fod yn bwysig i iechyd a llesiant?
Gwyddom fod incwm a llesiant ariannol yn benderfynydd iechyd allweddol, a gallai darparu lefel sylfaenol o incwm i boblogaethau helpu i leddfu tlodi a lleihau’r effeithiau negyddol sy’n gysylltiedig ag incwm isel. Gallai natur ddiamod incwm sylfaenol alluogi a grymuso unigolion i wneud dewisiadau cadarnhaol sy’n gwella iechyd. Mae’r gwersi a ddysgwyd o’r enghreifftiau rhyngwladol ar sut y gall cynlluniau incwm sylfaenol wella iechyd yn ychwanegu at y sail dystiolaeth hon.
Sut mae incwm sylfaenol wedi cael ei archwilio yng Nghymru?
Yng Nghymru, yn 2021, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru adroddiad dylanwadol ar incwm sylfaenol ac iechyd, gan dynnu sylw at yr hyn yr oedd angen ei ystyried pe bai polisi incwm sylfaenol yn cael ei ddatblygu yng Nghymru. Roedd yr adroddiad hwn yn sail i ddatblygiad y Cynllun Peilot
Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru, gan Lywodraeth Cymru, a rhoddodd fanylion allweddol i lunwyr polisi am incwm sylfaenol, y gwersi a ddysgwyd o gynlluniau incwm sylfaenol ar gyfer iechyd a phenderfynyddion ehangach iechyd, a’r ystyriaethau polisi pwysig sy’n angenrheidiol ar gyfer darparu incwm sylfaenol yng Nghymru. I ategu’r adroddiad hwn rhyddhawyd adolygiad tystiolaeth gan Wasanaeth Tystiolaeth Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru, ‘Mapio canlyniadau posibl polisïau incwm sylfaenol a sut y gellid gwerthuso’r rhain’, sy’n edrych ar sut y gellir gwerthuso cynlluniau incwm sylfaenol i fesur canlyniadau iechyd. Mae gwerthusiad y cynllun peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru yn parhau a bydd yn cymryd peth amser i sefydlu unrhyw ganlyniadau sy’n gysylltiedig ag iechyd a llesiant yn sgil y cynllun peilot hwn. Fodd bynnag, mae canfyddiadau interim o adroddiadau gwerthuso a gyhoeddwyd hyd yma (Mawrth 2026) yn dangos bod pobl ifanc yn aml yn dweud bod derbyn incwm sylfaenol wedi lleddfu eu pryderon neu wedi eu helpu i reoli eu pryderon yn well. Roeddent hefyd yn teimlo mwy o ymreolaeth a rheolaeth dros eu harian a’r dewisiadau cynyddol sydd ar gael iddynt nawr. Cyfeiriwyd at welliannau cyffredinol o ran iechyd meddwl a llesiant hefyd, ac roedd teimlad y gallai’r rhai sy’n derbyn y taliadau fyw yn y presennol heb boeni am anghenion sylfaenol. Er bod y canlyniadau hyn yn dod o gynllun beilot penodol, gyda therfyn amser cyfyngedig, mae’n bosibl y gallai poblogaeth ehangach hefyd gael canlyniadau iechyd a llesiant cadarnhaol tebyg.