Neidio i'r cynnwys

 Yr argyfwng costau byw

Mae argyfwng costau byw yn digwydd pan nad yw cyflogau a chymorth lles pobl yn codi cymaint â chostau cynyddol hanfodion fel bwyd, ynni, tanwydd a thai. O ganlyniad i hyn, mae mwy o aelwydydd yn gweld nad yw eu harian yn mynd mor bell ag o’r blaen. Pan fydd gan bobl a theuluoedd bryderon ariannol, gall effeithio’n negyddol ar eu hiechyd meddwl a chorfforol. Gall busnesau a gwasanaethau cyhoeddus hefyd weld nad yw eu cyllidebau’n mynd mor bell ag yr oeddent, a gall hyn effeithio ar eu gallu i weithredu yn ôl yr arfer. 

Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn cael trafferth gyda chostau byw, mae cymorth a chyngor ar gael gan Lywodraeth Cymru.

Pam mae hyn yn bwysig i iechyd, llesiant a lleihau anghydraddoldebau?

Mae methu â fforddio hanfodion yn niweidio iechyd a llesiant yn uniongyrchol. Mae diffyg diogeledd bwyd cynyddol, anawsterau wrth dalu biliau, amodau tai gwael a mynediad cyfyngedig at drafnidiaeth i gyd yn cyfrannu at straen cynyddol, yn gwaethygu iechyd meddwl, ac yn cynyddu’r risgiau iechyd corfforol. Yn bwysig, mae’r argyfwng yn ehangu anghydraddoldebau iechyd presennol. Mae pobl sy’n byw yn y cymunedau mwyaf difreintiedig eisoes yn byw bywydau byrrach ac yn treulio mwy o flynyddoedd mewn iechyd gwael, ac mae costau byw cynyddol yn ehangu’r bwlch hwn ymhellach.

Mae’n cael effaith fawr iawn ar blant yn benodol. Pan nad yw teuluoedd yn gallu cadw eu cartrefi’n gynnes na fforddio digon o fwyd iach, mae’n cynyddu risgiau plant o gyflyrau anadlol, maeth gwael, anhawster canolbwyntio yn yr ysgol, a mwy o gywilydd a stigma sy’n gysylltiedig â thlodi hylendid. Gall yr effeithiau ar iechyd plant yn eu blynyddoedd cynnar siapio eu hiechyd, llesiant, addysg, a’u cyfleoedd bywyd gydol oes, ac o bosibl atgyfnerthu anghydraddoldebau ar draws cenedlaethau’r dyfodol.

Beth mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw i’r boblogaeth yng Nghymru?

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn arwain gwaith i ddeall, monitro ac ymateb i effeithiau’r argyfwng costau byw ar iechyd. Mae ei weithgareddau’n cynnwys:

  • Cyhoeddi tystiolaeth a dadansoddiadau i helpu Llywodraeth Cymru a phartneriaid i ddeall sut mae costau cynyddol yn effeithio ar iechyd, llesiant ac anghydraddoldebau ar draws gwahanol grwpiau poblogaeth, gan gynnwys plant.
  • Tynnu sylw at yr angen am weithredu ar draws y system, gan alw ar gyrff cyhoeddus, y trydydd sector a phartneriaid lleol i gydweithio i leihau niwed nawr a mynd i’r afael â ffactorau hirdymor sy’n achosi anghydraddoldebau.
  • Datblygu fframweithiau ar gyfer gweithredu sy’n amlinellu beth y dylai ymateb iechyd y cyhoedd ei gynnwys: lliniaru niwed uniongyrchol wrth fynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi.
  • Hwyluso cydweithio cenedlaethol i rannu arferion gorau, cryfhau ymatebion lleol, a gwella mynediad at wasanaethau cymorth.
  • Darparu gwybodaeth wedi’i diweddaru i nodi pryderon iechyd parhaus ac atgyfnerthu’r angen am ymyriadau parhaus.

Gyda’i gilydd, mae’r gwaith hwn yn cefnogi’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau ledled Cymru i ddiogelu iechyd, atal anghydraddoldebau rhag gwaethygu, a gwella canlyniadau hirdymor.

Pa gamau y dylid eu cymryd ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw i’r boblogaeth yng Nghymru?

Dylai’r rhain fod yn gamau gweithredu lefel uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth (e.e. yn fras ar lefel genedlaethol, ranbarthol, leol dylem fod yn gwneud a,b,c). Gellid mynegi camau gweithredu mwy penodol (e.e. dylai awdurdodau lleol wneud a,b,c) a manwl mewn adnoddau wedi’u teilwra neu dudalennau gwybodaeth. Bydd cwmpas yr adnoddau neu’r tudalennau gwybodaeth mwy penodol hyn yn cael eu trafod gydag aelodau gweithgor y prosiect ar ôl ystyried mewnwelediadau defnyddwyr.

Mae ymateb yn effeithiol i’r argyfwng costau byw yng Nghymru yn gofyn am gamau gweithredu sy’n cael eu rhoi ar waith ar unwaith, yn adeiladu dros amser, ac yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau dyfnach. Yn y tymor byr, byddai angen i lywodraeth genedlaethol a gwasanaethau lleol ganolbwyntio ar helpu pobl i fforddio’r hanfodion, yn enwedig bwyd, ynni a thai diogel, a sicrhau bod teuluoedd yn gwybod pa gymorth sydd ar gael. Mae mesurau cyflym sy’n amddiffyn plant rhag cartrefi oer, diffyg diogeledd bwyd a thlodi hylendid yn arbennig o bwysig, gan mai’r pwysau hyn sy’n cael rhai o’r effeithiau mwyaf difrifol a pharhaol ar eu hiechyd.

Mae angen camau gweithredu tymor canolig cryf ar Gymru hefyd i sefydlogi cyllid aelwydydd a chryfhau’r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt. Mae hyn yn cynnwys ehangu rhaglenni cynyddu incwm a chyngor ar ddyledion, gwella cydlynu cymorth ar draws awdurdodau lleol, byrddau iechyd a sefydliadau cymunedol, a llunio polisïau ar draws y lywodraeth sy’n mynd i’r afael â’r costau bob dydd sy’n wynebu teuluoedd, o drafnidiaeth a gofal plant i fwyd a hylendid. Mae monitro’r argyfwng yn rheolaidd yn hanfodol fel bod modd addasu cymorth wrth i anghenion newid.

Dros y tymor hwy, dim ond drwy fynd i’r afael ag achosion sylfaenol argyfyngau costau byw y bydd Cymru’n gallu lleihau’r niwed maent yn ei achosi i iechyd; yr achosion hyn yw: incwm isel, tai o ansawdd gwael, a’r anghydraddoldebau strwythurol sy’n gadael rhai cymunedau’n fwy agored i niwed nag eraill. Bydd buddsoddi mewn cartrefi cynnes, effeithlon o ran ynni, gwaith teg, gwasanaethau lleol da ac amgylcheddau iachach yn helpu i greu Cymru sy’n fwy cydnerth a chyfartal. Mae’r weledigaeth hirdymor hon yn adeiladu ar ddull iechyd y cyhoedd sy’n amddiffyn pobl nawr tra’n atal y ffactorau sy’n achosi anghydraddoldeb rhag parhau i’r genhedlaeth nesaf.