Neidio i'r cynnwys

Tai

Tai yw un o’r blociau adeiladu sylfaenol ar gyfer bywyd iach. Gall y man lle rydym yn byw, a phob rhan o’n cartref, ddylanwadu ar ein hiechyd a’n llesiant corfforol a meddyliol.

Pam mae hyn yn bwysig i iechyd, llesiant a lleihau anghydraddoldebau?

Gall pob agwedd ar ein cartrefi effeithio ar ein hiechyd corfforol a meddyliol. Er enghraifft, mae angen i gartref iach fod yn gynnes ac yn rhydd rhag lleithder a llwydni i’n hamddiffyn rhag y perygl o afiechyd, fel problemau anadlu a’r ysgyfaint.

Mae hefyd yn angenrheidiol cael digon o le a golau, a chartref sy’n addas i’n hanghenion. Pan fyddwn yn byw mewn cartref sy’n orlawn, er enghraifft, gall ein hatal rhag cael preifatrwydd, effeithio’n negyddol ar ein cwsg neu ei gwneud hi’n haws i glefydau heintus ledaenu.  

Mae angen i’n cartrefi fod yn fforddiadwy hefyd. Gall pryderon ariannol a achosir gan gostau tai, fel biliau ynni a thaliadau rhent, achosi straen a gorbryder. Yn ogystal â bod yn ddrwg i’n hiechyd meddwl, gall hyn gael canlyniadau negyddol i’n hiechyd corfforol.

Dylai cartrefi iach hefyd gynnig teimlad o gartref – ymdeimlad o berthyn, diogelwch a phreifatrwydd. Mae’r cymunedau a’r cymdogaethau o’n cwmpas yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi iechyd a llesiant da drwy gyfrannu at yr ymdeimlad hwnnw o berthyn. Maent hefyd yn pennu pa mor hawdd y gallwn ni gael mynediad at bethau sy’n ein helpu i gadw’n iach, fel gwasanaethau iechyd a mannau gwyrdd. Mae cartrefi sydd wedi’u cynnal a’u cadw’n dda, ac sy’n effeithlon o ran ynni, yn dod â manteision i’n hiechyd gan eu bod yn gynnes, yn rhydd rhag lleithder, ac yn rhatach i’w gwresogi. Gall hyn hefyd fod o fudd i argyfyngau hinsawdd a natur drwy leihau faint o ynni a ddefnyddiwn.

Beth mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud i wella tai ac iechyd i’r boblogaeth yng Nghymru?

Credwn y dylai pawb yng Nghymru allu byw mewn cartref sy’n amddiffyn ac yn hyrwyddo eu hiechyd a’u llesiant. Mae angen rhoi blaenoriaeth i wneud ein cartrefi’n iachach os ydym am gadw pobl yn iach yn hytrach na chael pobl yn dioddef o afiechyd y gellid bod wedi’i osgoi. I gyflawni hyn, rydym yn:  

1. Tynnu sylw at effeithiau tai afiach ar iechyd

Rydym yn cynnal ymchwil i ddeall yn well sut mae amodau tai, fel effeithlonrwydd ynni a fforddiadwyedd, yn effeithio ar iechyd a llesiant. Mae ein hastudiaethau’n tynnu sylw at y cysylltiadau rhwng cartrefi oer, o ansawdd gwael ac afiechydon fel clefydau anadlol a chardiofasgwlaidd, heriau iechyd meddwl, a chynnydd mewn marwolaethau yn ystod y gaeaf. Mae ein hymchwil hefyd yn edrych ar effeithiau ariannol afiechyd a achosir gan gartrefi afiach ar y  GIG a chymdeithas yn ehangach.

2. Nodi datrysiadau a siarad o blaid cartrefi iach ledled Cymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda sefydliadau eraill i nodi beth mae angen ei newid i wneud y cartrefi sydd gennym yng Nghymru yn iachach, gan dynnu ar dystiolaeth a phrofiad bywyd pobl, a rhannu enghreifftiau o ble mae tai eisoes yn helpu i gadw pobl yn iach fel y gallwn gyflwyno’r achos dros wneud mwy o’r hyn sy’n gweithio. Rydym yn rhannu’r dystiolaeth a’r wybodaeth hon gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi penderfyniadau ym maes polisi tai yng Nghymru sy’n cydnabod ac yn adlewyrchu’r cysylltiad pwysig rhwng ein cartrefi a’n hiechyd corfforol a meddyliol ac yn rhoi enghreifftiau ymarferol o’r hyn y gellir ei wneud.

3. Arwain y broses o gynllunio a dylunio lleoedd iachach

Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid iechyd ledled Cymru i integreiddio ystyriaethau iechyd a llesiant ym mholisïau a phenderfyniadau cynllunio a chefnogi’r defnydd o Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd yn y broses gynllunio. Rydym wedi cyhoeddi adnoddau fel y canllaw “Cynllunio Mannau Iach” i gefnogi awdurdodau lleol i integreiddio iechyd mewn penderfyniadau cynllunio. Mae hyn yn cynnwys lleoliad a dyluniad tai, mynediad at fannau gwyrdd, trafnidiaeth, ac amwynderau cymunedol, sydd i gyd yn ceisio creu amgylcheddau byw sy’n galluogi bywydau iachach.

Gwybodaeth bellach

Data