Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd
Awduron: Tim Dadansoddi
Cyhoeddwyd ar: 22ain Medi 2026
Rhyddhad cyfredol: 22 Medi 2026
Rhyddhad nesaf: 15 Rhagfyr 2026
Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth
Cyflwyniad
Cyhoeddwyd gyntaf ym Mawrth 2016, a diben Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd yw ein helpu ni i ddeall yr effaith y mae ein hymddygiad unigol, gwasanaethau cyhoeddus, rhaglenni a’n polisiau yn ei gael ar iechyd a lles yng Nghymru. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid o dimau iechyd y cyhoedd lleol a Llywodraeth Cymru i greu’r offeryn adrodd hwn. Wedi ei ddatblygu mewn ffordd ystwyth, rydym yn cyfarfod â’n rhanddeiliaid yn rheolaidd i gytuno ar y ffordd y mae’r offeryn adrodd yn edrych, yn cael ei lywio a’r ffordd y caiff dangosyddion eu rhannu.
Prif bwyntiau
Yn y fersiwn diweddaraf, mae’r dangosyddion canlynol wedi’u diweddaru i gynnwys dadansoddiadau yn ôl amddifadedd, oedran, rhyw, gwledigrwydd ac anabledd (lle bo ar gael):
DC: Dangosydd cenedlaethol
| Dangosydd | Amddifadedd | Rhyw | Oedran | Natur Wledig | Anabledd |
| (DC) Syniad o gymuned | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 |
| (DC) Pobl sy’n teimlo’n unig | Dim ar gael | 2021/22 – 2022/23 | 2021/22 – 2022/23 | Dim ar gael | 2021/22 – 2022/23 |
| Oedolion sy’n smygu | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 |
| Oedolion sy’n bodloni canllawiau gweithgaredd corfforol | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 |
| Oedolion sy’n yfed mwy na’r canllawiau | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 |
| Oedolion sy’n bwyta pum darn o ffrwythau a llysiau’r dydd | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 |
| Oedolion o oed gweithio sy’n rhydd rhag salwch sy’n cyfyngu bywyd | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 |
| Oedolion o oed gweithio â phwysau iach | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 |
| Oedolion o oed gweithio sydd mewn iechyd da | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 |
| Bodlonrwydd â bywyd ymysg oedolion o oed gweithio | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 |
| Pobl hŷn sy’n rhydd rhag salwch hirdymor sy’n cyfyngu bywyd | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 |
| Pobl hŷn â phwysau iach | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 |
| Pobl hŷn sydd mewn iechyd da | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 |
| Bodlonrwydd â bywyd ymysg pobl hŷn | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 |
| (DC) Pobl sy’n gallu fforddio nwyddau a gweithgareddau o ddydd i ddydd | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 |
| (DC) Pobl sy’n gwirfoddoli | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 |
| (DC) Lles meddwl ymysg oedolion | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 | 2024/25 |
Rhyddhad nesaf:
Rydym yn bwriadu diweddaru’r dangosyddion canlynol, yn amodol ar argaeledd data, yng nghyhoeddiad mis Rhagfyr:
- Bwlch yn y gyfradd cyflogaeth ar gyfer y rheiny â chyflwr iechyd hirdymor
- Cyfraddau brechu yn 4 oed
- (DC) Pwysau isel ar enedigaeth
- Bwydo ar y fron ar ddiwrnod deg
- Ansawdd tai
- Smygu yn ystod beichiogrwydd
- Beichiogi yn yr arddegau
- Ansawdd yr aer yr ydym yn ei anadlu