Neidio i'r cynnwys

Gwybodaeth Technegol Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd

Daearyddiaeth

Mae rhai dangosyddion wedi eu rhannu’n ddosbarthiad trefol a gwledig 2011. Mae aneddiadau sydd y tu allan i fwy na 10,000 o boblogaeth breswyl yn cael eu rhoi mewn categori gwledig.

Nod datblygiadau pellach i’r offeryn ar ddiwedd 2023 yw rhannu dangosyddion ymhellach i ddaearyddiaethau is-awdurdod lleol yn cynnwys ardaloedd cynnyrch ehangach uwch, canol, ac is.

Ffynonellau data a dangosyddion


Arolwg Cenedlaethol Cymru

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn cynnwys tua 12,000 o bobl bob blwyddyn ac yn cynnwys amrywiaeth eang o destunau. Y prif ddiben yw darparu gwybodaeth am safbwyntiau ac ymddygiad oedolion yng Nghymru.

Mae’r data a gyflwynir yn yr offeryn yn ôl blwyddyn ariannol, ac er ei fod yn cael ei gyflwyno yn y tab tueddiadau, nid yw cymariaethau uniongyrchol dros amser yn bosibl oherwydd y newid sylweddol mewn methodoleg bob blwyddyn. Yn ogystal, ni chafodd pob cwestiwn ei ofyn yn ystod pob cyfnod arolwg. 

Dolenni defnyddiol:

Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru

Mae Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru (PEDW) yn cynnwys cofnodion pob cyfnod o weithgaredd gofal cleifion mewnol a dydd yn ysbytai GIG Cymru. Mae gweithgaredd ysbyty ar gyfer preswylwyr Cymru gafodd eu trin yng ngwledydd eraill y DU (Lloegr yn bennaf) wedi ei gynnwys hefyd. Caiff y data ei gasglu a’i godio ym mhob ysbyty. Caiff y cofnodion wedyn eu trosglwyddo’n electronig i Gofal Iechyd Digidol yng Nghymru, sy’n eu dilysu a’u hychwanegu at y brif gronfa ddata.

O 2019/20 ymlaen, cafwyd gostyngiad yng nghyfanswm y derbyniadau brys oherwydd pandemig Covid-19. Dylid rhoi ystyriaeth ddyledus i hyn wrth ddadansoddi tueddiadau mewn derbyniadau torri cluniau ymysg pobl hŷn.

Sylwch fod yna broblem gyda chodio diagnostig mewn sawl bwrdd iechyd. Mae Tabl 1 yn dangos sut mae’r codau coll yn cael eu dosbarthu fesul blwyddyn ariannol a bwrdd iechyd. Bydd cyfrif diagnosis penodol yn cael ei danamcangyfrif, ond i raddau anhysbys, felly dylid bod yn ofalus wrth ddehongli tueddiadau ar gyfer y byrddau iechyd hyn. Yn ogystal â hyn, pan fo canran y diagnosisau coll dros 10%, mae’r gwerth wedi’i atal.

Tabl 1 Codau diagnostig coll ym maes trawma ac orthopedeg, derbyniadau brys (ac eithrio trosglwyddiadau), pobl 65+ oed, fesul ardal a blwyddyn ariannol

Ardal Cyfnod Cofnodion Col
Cymru 2019/20 10.1%
Cymru 2023/24 14.0%
Cymru 2024/25 18.7%
BIP Aneurin Bevan  2017/18 20.0%
BIP Aneurin Bevan  2018/19 15.2%
BIP Aneurin Bevan  2019/20 17.1%
BIP Aneurin Bevan  2021/22 11.8%
BIP Aneurin Bevan  2022/23 15.8%
BIP Aneurin Bevan  2023/24 21.9%
BIP Aneurin Bevan  2024/25 20.6%
BIP Betsi Cadwaladr  2023/24 14.1%
BIP Betsi Cadwaladr  2024/25 35.4%
BIP Caerdydd a’r Fro 2011/12 24.6%
BIP Caerdydd a’r Fro 2022/23 21.0%
BIP Caerdydd a’r Fro 2023/24 18.3%
BIP Caerdydd a’r Fro 2024/25 15.3%
BIP Cwm Taf Morgannwg 2019/20 15.4%
BIP Cwm Taf Morgannwg 2022/23 10.3%
BIP Hywel Dda  2017/18 21.4%
BIP Hywel Dda  2019/20 21.0%
BIP Hywel Dda  2020/21 16.0%
BIP Bae Abertawe 2022/23 13.9%
BIP Bae Abertawe 2023/24 15.9%
BIP Bae Abertawe 2024/25 22.6%
Blaenau Gwent 2017/18 11.3%
Blaenau Gwent 2018/19 17.1%
Blaenau Gwent 2019/20 15.0%
Blaenau Gwent 2021/22 11.0%
Blaenau Gwent 2022/23 12.6%
Blaenau Gwent 2023/24 27.7%
Blaenau Gwent 2024/25 26.1%
Caerffili 2017/18 17.1%
Caerffili 2018/19 10.1%
Caerffili 2019/20 16.3%
Caerffili 2022/23 12.3%
Caerffili 2023/24 15.1%
Caerffili 2024/25 16.3%
Caerdydd 2011/12 25.8%
Caerdydd 2022/23 23.0%
Caerdydd 2023/24 20.0%
Caerdydd 2024/25 16.6%
Sir Gaerfyrddin 2017/18 38.0%
Sir Gaerfyrddin 2018/19 18.8%
Sir Gaerfyrddin 2019/20 37.1%
Sir Gaerfyrddin 2020/21 20.4%
Sir Gaerfyrddin 2023/24 15.5%
Sir Gaerfyrddin 2024/25 10.0%
Ceredigion 2017/18 13.1%
Ceredigion 2019/20 18.5%
Ceredigion 2020/21 26.9%
Conwy 2023/24 19.1%
Conwy 2024/25 43.8%
Sir Ddinbych 2023/24 12.5%
Sir Ddinbych 2024/25 36.8%
Sir y Fflint 2023/24 10.5%
Sir y Fflint 2024/25 26.4%
Gwynedd 2023/24 16.7%
Gwynedd 2024/25 36.1%
Ynys Môn 2009/10 10.9%
Ynys Môn 2023/24 18.3%
Ynys Môn 2024/25 42.0%
Merthyr Tudful 2011/12 11.1%
Merthyr Tudful 2019/20 20.3%
Sir Fynwy 2016/17 10.1%
Sir Fynwy 2017/18 17.5%
Sir Fynwy 2018/19 15.2%
Sir Fynwy 2019/20 17.8%
Sir Fynwy 2021/22 16.3%
Sir Fynwy 2022/23 17.9%
Sir Fynwy 2023/24 27.8%
Sir Fynwy 2024/25 24.2%
Castell-nedd Port Talbot 2022/23 15.1%
Castell-nedd Port Talbot 2023/24 15.8%
Castell-nedd Port Talbot 2024/25 26.8%
Casnewydd 2016/17 12.5%
Casnewydd 2017/18 32.9%
Casnewydd 2018/19 17.7%
Casnewydd 2019/20 18.5%
Casnewydd 2021/22 11.5%
Casnewydd 2022/23 17.9%
Casnewydd 2023/24 20.3%
Casnewydd 2024/25 16.3%
Rhondda Cynon Taf 2019/20 23.7%
Rhondda Cynon Taf 2022/23 13.7%
Abertawe 2022/23 13.1%
Abertawe 2023/24 15.9%
Abertawe 2024/25 20.0%
Torfaen 2016/17 10.6%
Torfaen 2017/18 16.9%
Torfaen 2018/19 18.6%
Torfaen 2019/20 17.5%
Torfaen 2021/22 12.7%
 Torfaen 2022/23 18.6%
 Torfaen 2023/24 25.5%
 Torfaen 2024/25 25.5%
Bro Morgannwg 2011/12 21.6%
Bro Morgannwg 2022/23 17.1%
Bro Morgannwg 2023/24 14.8%
Bro Morgannwg 2024/25 12.8%
Wrecsam 2024/25 26.1%

Ffigur 1 Codau diagnostig coll ym maes trawma ac orthopaedeg, derbyniadau brys (ac eithrio trosglwyddiadau), canran, Cymru, 2009/10 i 2024/25

Dolenni defnyddiol:

Disgwyliad oes (LE)/ Disgwyliad oes iach (HLE) ar enedigaeth

Defnyddir set ddata Marwolaethau Iechyd y Cyhoedd i gyfrifo Disgwyliad Oes (DO) ar enedigaeth.  Mae disgwyliad oes (LE) ar enedigaeth yn amcangyfrif o nifer y blynyddoedd ar gyfartaledd y gellid disgwyl i fabanod newydd-anedig fyw, gan gymryd bod cyfraddau marwolaethau presennol ar gyfer yr ardal lle cawsant eu geni yn gymwys trwy gydol eu bywydau.  Caiff ei gyfrifo gan ddefnyddio’r dull tabl bywyd cryno sef dull dewisol yr ONS.  Gan fod holl gyfrifiadau LE yn seiliedig ar gyfraddau marwolaethau presennol, bydd disgwyliad oes cyfartalog yn newid yn ystod oes waeth beth yw’r ffactorau eraill. Dylid ystyried y rhain felly fel mesurau marwolaethau poblogaeth cymharol yn ystod cyfnod o amser yn hytrach na rhagfynegiadau o ddisgwyliad oes unigol gwirioneddol.

Amcangyfrifiad yw disgwyliad oes iach (HLE) o nifer y blynyddoedd ar gyfartaledd y gellid disgwyl i fabanod newydd-anedig fyw mewn iechyd da, gan gymryd bod cyfraddau marwolaethau presennol a lefelau iechyd da ar gyfer yr ardal lle cawsant eu geni yn gymwys trwy gydol eu bywydau. Cyfrifir HLE gan ddefnyddio dull Sullivan sef dull dewisol yr ONS ar gyfer cyfrifo disgwyliad oes iach ar enedigaeth. Mae ei gyfrifiad yn cynnwys cyfuno statws iechyd o’r Arowg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS) a’r Cyfrifiad gyda data marwolaethau a’r boblogaeth a ddefnyddir ar gyfer LE.  Barnwyd ‘Iach’ i fod yn ymateb o dda iawn neu dda i’r cwestiwn APS yn gofyn i’r rheiny rhwng 16 a 85 oed “Pa mor dda yw eich iechyd yn gyffredinol; a fyddech chi’n dweud ei fod yn… Dda Iawn, Da, Gweddol, Gwael, Gwael Iawn”.

Cyflwynir y gwaith canlynol o fewn fersiwn gyfredol offeryn adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd:

Mae rhagor o wybodaeth ar gael o’r canlynol:

Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS), ONS

Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS) yn arolwg parhaus o gartrefi sy’n cwmpasu’r DU. Mae’r pynciau dan sylw yn cynnwys cyflogaeth a diweithdra, yn ogystal â thai, ethnigrwydd, crefydd, iechyd ac addysg. Diben yr arolwg yw darparu gwybodaeth am farchnad lafur y DU. Defnyddir yr APS i amcangyfrif y cyfrannau canlynol:

  • Statws y rhai mewn addysg llawn amser o ran y farchnad lafur; 
  • Statws y rhai mewn addysg rhan amser o ran y farchnad lafur; 
  • Cyflogaeth llawn amser a rhan amser y rhai ar raglenni dysgu seiliedig ar waith, sy’n gyflogedig; 
  • Hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith a noddir gan y cyflogwr i’r rhai mewn cyflogaeth.  

Mae nifer yr ymatebwyr i’r arolwg wedi gostwng yn gyffredinol ledled y DU er 2014. Ymatebodd tua 15,200 o bobl ledled Cymru i’r arolwg yn 2024, o’u cymharu â thua 36,000 o bobl yn 2014.

Ffigur 2 Ymatebwyr i arolwg APS dros amser, cyfrif, Cymru, 2014 i 2024

Figure 2 APS survey respondents over time, count, Wales, 2014 to 2024

Ers y diweddariad diwethaf i’r dangosydd hwn, mae problemau ansawdd data wedi dod i’r amlwg gyda’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS). O ganlyniad, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dileu’r statws ystadegau swyddogol achrededig o allbynnau yn seiliedig ar yr arolwg hwn. Mae hyn yn effeithio’n bennaf ar ddata ar lefelau daearyddol is, fel awdurdodau lleol a byrddau iechyd. Dylid bod yn ofalus wrth ddehongli canlyniadau ar y lefelau hynny. Mae rhagor o wybodaeth am y newid statws ar gael drwy’r ohebiaeth ynghylch atal statws achrededig amcangyfrifon yr APS [Saesneg yn unig].

Er ei fod wedi’i gyflwyno yn y tab tueddiadau, nid yw’n bosibl gwneud cymariaethau uniongyrchol dros amser oherwydd y bu newid i’r fethodoleg a ddefnyddiwyd rhwng 2020 a 2023. Dangosir hyn yn rhaniad cyfnodau’r siart tueddiadau yn ôl methodoleg yr arolwg. 

Dolenni defnyddiol:

Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) Llywodraeth Cymru

Defnyddir y LLWR i amcangyfrif y gyfran ganlynol:

• Statws marchnad lafur y rheiny sydd yn ymgysylltu â Dysgu Seiliedig ar Waith.

Caiff y cyfrannau hyn wedyn eu cymhwyso i’r niferoedd y mae’n hysbys eu bod mewn addysg, dysgu seiliedig ar waith a chyfanswm y boblogaeth i ddeillio amcangyfrifon cyfranogiad yn ôl addysg a chyflogaeth. Ar gyfer Dysgwyr Seiliedig ar Waith, defnyddir statws marchnad lafur ar ddechrau’r rhaglen ddysgu a gasglwyd trwy’r LLWR gydag ychwanegiad rhywfaint o ddata APS i amcangyfrif y cyfrannau mewn cyflogaeth amser llawn a rhan-amser.

Gan fod y data’n dod o arolwg, mae’r canlyniadau yn amcangyfrifon yn seiliedig ar sampl ac felly’n destun graddfeydd gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae gwerth gwirioneddol unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth a amcangyfrifir.

Cyhoeddir data yn flynyddol. Gellir cael mynediad i’r set ddata trwy StatsCymru.

Ystadegau beichiogi (ONS)

Mae ystadegau beichiogi yn amcangyfrifon o holl feichiogrwydd menywod sydd yn preswylio fel arfer yng Nghymru a Lloegr. Mae’r ffigurau’n deillio o hysbysiadau mamolaeth, genedigaeth ac erthyliad. Am fod gofyniad cyfreithiol i gofnodi’r data hwn, dyma un o’r ffynonellau data mwyaf dibynadwy sydd ar gael. Defnyddir y set ddata hon ynghyd ag amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn ONS i amcangyfrif cyfraddau cenhedlu fesul 1,000 o fenywod (15-17 oed) yng Nghymru.

Dolenni defnyddiol:

Marwolaethau Iechyd y Cyhoedd

Mae Marwolaethau Iechyd y Cyhoedd (PHM) yn set ddata sydd yn cynnwys pob marwolaeth unigol preswylwyr sydd wedi cofrestru yn y flwyddyn benodol honno. Anfonir cofnodion unigol ar gyfer cofrestriadau marwolaeth yn wythnosol o swyddfeydd Cofrestryddion ar draws Cymru a Lloegr i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Mae’r ONS yn cydgrynhoi ac yn dilysu’r data. Mae’r data’n seiliedig ar achos sylfaenol marwolaeth e.e. os bydd unigolyn yn marw o niwmonia ond wedi cael ei wneud yn agored i’r clefyd hwnnw gan ganser cyfnod terfynol, yna canser (yn hytrach na niwmonia) sydd yn cael ei gofnodi fel achos sylfaenol marwolaeth.

Cafwyd diwygiadau i’r ffordd y mae’r tystysgrifau marwolaeth yn cael eu trosi gan yr ONS yn godau Dosbarthiad Rhyngwladol Clefydau (10fed diwygiad). Mae’r newidiadau hyn yn golygu nad yw data heb ei ddiwygio yn gallu cael ei gymharu ar draws blynyddoedd. Mae’r prif newid yn ymwneud â’r rheolau sydd yn llywodraethu pa achos marwolaeth a nodir ar y dystysgrif farwolaeth sydd yn cael ei ddewis fel yr achos sylfaenol. Nid yw cymarebau cymhareb wedi cael eu defnyddio yn y dadansoddiadau hyn ac felly dylid bod yn ofalus wrth ddehongli tueddiadau.

Mae achos marwolaeth yn seiliedig ar dystysgrif feddygol achos y farwolaeth. Caiff hon ei llenwi gan y meddyg ardystio ar gyfer tua thri chwarter marwolaethau a chan grwner ar gyfer y gweddill. Nid yw’r rhan fwyaf o farwolaethau sydd yn cael eu hardystio gan grwner yn cynnwys cwest nag unrhyw amheuaeth o drais, ond cânt eu cyfeirio at y crwner am eu bod yn sydyn ac yn annisgwyl, neu am nad oedd meddyg yn bresennol yn ystod salwch olaf yr ymadawedig. Bydd oedi hir yn cofrestru nifer fach o farwolaethau lle mae angen dyfarniad crwner e.e. hunanladdiad, dynladdiad, bwriad amhenodol.

Noder bod hunanladdiadau yn cael eu cyfrif yn ôl y dyddiad cofrestru. Mae oedi hysbys rhwng dyddiad y digwyddiad a’r dyddiad cofrestru. Byddwch yn ymwybodol bod data’n debygol o fod yn anghyflawn, yn arbennig ar gyfer y cyfnodau mwyaf diweddar.  Gweler ONS am fwy o wybodaeth: Effaith oedi gyda chofrestru ystadegau marwolaethau yng Nghymru a Lloegr – Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk)

Casglu data peryglon a thrwyddedau, Llywodraeth Cymru (LlC)

Mae’r set ddata hon yn darparu gwybodaeth am gyflwr eiddo preswyl a asesir gan awdurdodau lleol o dan y System Graddio Iechyd a Diogelwch Tai (HHSRS) yn cynnwys nifer y peryglon yn ôl math o berygl, annedd a chategori. Ystyrir bod peryglon Categori 1 yn risg uchel a phan gaiff cyflwr ei ddosbarthu fel Categori 1 mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i gymryd y camau gorfodi priodol. Mae peryglon Categori 2 yn risg is a gall awdurdodau lleol gymryd camau gorfodi. Gellir cynnal asesiadau am nifer o resymau. Er enghraifft, cynhelir asesiad HHSRS wrth drwyddedu tŷ amlfeddiannaeth neu pan dderbynnir cwyn am eiddo gan y meddiannydd neu gymydog. Er ei fod yn gallu cynnwys pob eiddo preswyl, fe’i defnyddir yn fwy cyffredin i asesu safonau tai rhentu preifat. Gellir asesu aneddiadau fwy nag unwaith yn ystod pob cyfnod adrodd. 

Diffinnir ansawdd y dangosydd tai fel canran yr asesiadau sydd yn rhydd rhag peryglon categori 1 yn unol â pheryglon y system raddio Iechyd a Diogelwch Tai. Nid yw’n cwmpasu pob annedd, dim ond y rhai sy’n cael eu hasesu gan awdurdodau lleol.

Noder, oherwydd pandemig Coronafeirws (COVID-19) yn 2020, ni chafodd data ar beryglon a thrwyddedau tai yng Nghymru ar gyfer 2019-20 eu casglu.

Weithiau nid yw awdurdod lleol yn gallu darparu data am amrywiaeth o resymau. Mae’r tabl isod yn rhestru enghreifftiau o hyn:

Cyfnod casglu data Ardal Rheswm dros y data coll Canlyniad
2023 – 2024 Castell-Nedd Port Talbot   2021 – 2022 defnyddiwyd data fel amcangyfrif
2022 – 2023 Castell-Nedd Port Talbot   2021 – 2022 defnyddiwyd data fel amcangyfrif
2022 – 2023 Gwynedd ac Ynys Môn   Wedi ailgyflwyno data oherwydd cywiriadau
2021 – 2022 Sir Benfro   2020 – 2021 defnyddiwyd data fel amcangyfrif
2020 – 2021 Cymru Pandemig COVID-19 Llai o arolygiadau wedi’u cynnal; blaenoriaethwyd safleoedd risg uwch
2019 – 2020 Cymru Pandemig COVID-19 Dim data wedi’u casglu
2018 – 2019 Castell-Nedd Port Talbot   Ffigur amcangyfrifedig wedi’i gyfrifo yn seiliedig ar y 3 blynedd flaenorol
2017 – 2018 Caerdydd   2016 – 2017 defnyddiwyd data fel amcangyfrif
2016 – 2017 Wrecsam and Sir Ddinbych newidiadau i systemau cofnodi data 2015 – 2016 defnyddiwyd data fel amcangyfrif
2014 – 2015 Sir y Fflint   2013 – 2014 defnyddiwyd data fel amcangyfrif

Dolenni defnyddiol:

Adran yr Amgylchedd Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) ac Adnodd Gwybodaeth am Aer y DU (AIR)

Dangosyddion Cysylltiad Ansawdd Aer – crynodiadau cyfartalog NO2, PM2.5 a PM10 ar draws ardaloedd awdurdod lleol ac ardaloedd bwrdd iechyd, yn deillio o ddata wedi ei fodelu ar gyfer pob cilomedr sgwâr yng Nghymru, wedi ei fesur mewn µg/m3 (data DEFRA).

Bob blwyddyn mae model Mapio Hinsawdd Llygredd (PCM) Llywodraeth y DU yn cyfrifo crynodiadau llygrwyr cyfartalog ar gyfer pob cilomedr sgwâr o’r DU. Bob blwyddyn, caiff y Model Hinsawdd Llygredd (PCM) sydd yn tanategu’r mapiau cefndir ei fireinio a’i wella (i roi cyfrif am y wyddoniaeth a’r ddealltwriaeth ddiweddaraf sydd ar gael e.e. newidiadau mewn ffactorau allyriadau, data gweithgaredd gwell ac ati).  Fel arfer, gwneir y newidiadau dull hyn i ffigurau y flwyddyn ddiweddaraf yn unig.

Caiff y model ei raddnodi yn erbyn mesuriadau a gymerir o rwydwaith monitro ansawdd aer cenedlaethol y DU. Mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio’r data hwn sydd wedi ei gyhoeddi i neilltuo crynodiad NO2, PM2.5 a PM10 i bob anheddiad preswyl yng Nghymru yn seiliedig ar ba gilomedr sgwâr o Gymru y mae ynddo. 

Ar gyfer pob ardal cynnyrch y cyfrifiad (unedau daearyddol ystadegol yn cynnwys tua 150 eiddo), cyfrifwyd cyfartaledd crynodiad llygrwyr sydd yn gysylltiedig â phob anheddiad o’i mewn i roi crynodiadau cyfartalog NO2, PM2.5 a PM10 ar draws ardal cynnyrch y cyfrifiad.

Caiff dangosydd ansawdd yr aer yr ydym yn ei anadlu yn yr offeryn hwn ei ddiffinio fel lefelau cyfartalog blynyddol crynodiad nitrogen deuocsid (NO₂) mewn lleoliadau aneddiadau preswyl (µg/m³).

Dolenni defnyddiol:

Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD)

Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD) yn cynnwys manylion yn ymwneud ag iechyd mamau a phlant fel genedigaethau, imiwneiddio, sgrinio, diogelu plant a bwydo ar y fron.    

Mae gan bob un o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru gronfa ddata System Iechyd Plant y maent yn ei rheoli’n lleol. Caiff cofnodion dienw ar gyfer yr holl blant sydd wedi eu geni, yn preswylio neu’n cael eu trin yng Nghymru ac wedi eu geni ar ôl 1987 eu cydgrynhoi o bob un o’r cronfeydd data lleol bob chwarter i greu’r NCCHD.

Mae’r ystadegau yn ymwneud â genedigaethau byw a anwyd i breswylwyr Cymru yn ystod y flwyddyn galendr berthnasol. Mae’r dadansoddiadau ar gyfer genedigaethau byw yn unig ac nid ydynt yn cynnwys marw-enedigaethau. Gall Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD) hefyd gyfrif genedigaethau sy’n digwydd yng Nghymru (boed i breswylwyr o Gymru neu breswylwyr nad ydynt o Gymru) ond dim ond preswylwyr o Gymru sydd wedi’u cynnwys yn yr ystadegau hyn. 

Caiff y dangosyddion ‘pwysau isel ar enedigaeth’ a ‘bwydo ar y fron ar ddiwrnod 10’ eu creu gan ddefnyddio’r set ddata hon.

Mae data bwydo ar y fron wedi cael ei atal os yw’n llai na 80% yn gyflawn. 

Noder: mae bwydo ar y fron hefyd yn cynnwys bwydo ar y frest.

Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN)

Mae Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN) yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Phrifysgol Caerdydd, wedi ei sefydlu yn 2013. Eu nod yw gwella iechyd a lles pobl ifanc yng Nghymru trwy weithio gydag ysgolion mewn addysg gynradd ac uwchradd i greu a defnyddio tystiolaeth o ansawdd da ar gyfer gwella iechyd. Mae hyn yn cynnwys arolygon, cipio mesuriadau allweddol iechyd a lles. Cyfeirir at y mesuriadau hyn mewn llawer o bolisïau a strategaethau cenedlaethol, yn cynnwys Dull Ysgol Gyfan o ymdrin ag Iechyd a Lles (2021) ac Adroddiad Iach a Hapus Estyn (2019).

Ers 2017, mae pob ysgol uwchradd prif ffrwd yng Nghymru wedi dod yn aelodau SHRN cofrestredig gyda thros 90% o ysgolion yn cwblhau Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr SHRN yn 2021/22.

Mae diffiniad y dangosydd hwn wedi newid i ganran y plant sy’n adrodd categori BMI ‘ystod iach’. Roedd y diffiniad blaenorol yn cynnwys plant yn adrodd categorïau BMI ‘dan bwysau’ neu ‘ystod iach’. Felly ni ellir cymharu’r dangosydd â data a gyhoeddwyd yn adroddiad cenedlaethol Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) 2021.. Cyfrifiad o ddangosydd pwysau iach:

Nodwedd Ystod BMI “iach”
11 oed, gwrywaidd >=15.15 & <20.85
11 oed, benywaidd >=15.30 & <21.12
12 oed, gwrywaidd >=15.59 & <21.54
12 oed, benywaidd >=15.91 & <22.05
13 oed, gwrywaidd >=16.11 & <22.24
13 oed, benywaidd >=16.55 & <22.90
14 oed, gwrywaidd >=16.68 & <22.95
14 oed, benywaidd >=17.16 & <23.60
15 oed, gwrywaidd >=17.26 & <23.59
15 oed, benywaidd >=17.68 & <24.13
16 oed, gwrywaidd >=17.79 & <24.18
16 oed, benywaidd >=18.08 & <24.53

Set Ddata Dangosydd Mamolaeth (MIds)

Mae ystadegau smygu ar enedigaeth yn gyfyngedig yn ôl y ffordd y caiff data ei gasglu. Os nad yw monitro carbon monicsid (CO) ar gael, mae dibynadwyedd data yn dibynnu ar y fam yn hunanadrodd gwybodaeth gywir. Mae monitro CO wedi cael ei atal dros dro i raddau helaeth ers i bandemig COVID-19 ddechrau, fell mae data ar gyfer 2020 a 2021 yn cael ei hunanadrodd yn bennaf.

Ni ddylai E-Sigaréts gael eu cofnodi yn yr eitem ddata hon ac ni fyddent yn cael eu canfod gan fonitor CO; ond, yn ymarferol gall rhai mamau hunanadrodd eu bod yn smygwr os ydynt yn defnyddio e-sigaréts a chael eu cofnodi yn anghywir fel smygwr. Yn yr un modd, gall rhai mamau sydd yn smygu hunanadrodd nad ydynt yn smygu a chael eu cofnodi yn anghywir fel dim smygwr. 

Yn 2021, roedd gan 82% o’r cofnodion ddata dilys wedi ei gofnodi ar lefel Cymru. Roedd hyn yn bennaf am nad oedd bwrdd iechyd Hywel Dda wedi darparu unrhyw ddata smygu ar enedigaeth, a dim ond 68% o ddata cyflawn oedd ar gyfer Cwm Taf Morgannwg. Roedd lefelau cyflawnder isel yn 2020 hefyd ar gyfer (30%), Cwm Taf Morgannwg (70%) a Powys (76%).  Fodd bynnag, yn yr holl flynyddoedd cyn 2020, roedd gan dros 90% o gofnodion ddata dilys ar gyfer statws smygu ar enedigaeth, ar draws bron bob un o’r byrddau iechyd.

Mae manylion llawn pob eitem ddata sydd ar gael ar y set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol ar gael trwy Eiriadur Data NWIS.

Ceir gwybodaeth fanylach ar y ffynonellau data a’r dadansoddiadau yn y cyhoeddiad ystadegol hwn yn yr adroddiad ansawdd.

Dolenni defnyddiol:

Cronfa Ddata Cofrestru a Rhyngweithio Poblogaeth (RAPID)

Mae’r Gronfa Ddata Cofrestru a Rhyngweithio Poblogaeth (RAPID) yn darparu un darlun cydlynol o ryngweithiadau dinasyddion â’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi  (CThEF) mewn blwyddyn dreth ar gyfer y DU. Mae RAPID yn rhoi sail ar gyfer dadansoddiadau o blant, yr uned deuluol, ac incwm personol gros (budd-daliadau/credydau treth, cyflogaeth, hunangyflogaeth, pensiynau galwedigaethol) y gellir codi amcangyfrifon o blant mewn teuluoedd incwm isel ohonynt a’u graddnodi i amcangyfrifon rhanbarthol HBAI yn ôl diffiniadau Absoliwt a Chymharol.

Mae’r dangosydd plant mewn tlodi a gyflwynir yn Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHOF) yn defnyddio incwm isel cymharol, sy’n mesur nifer a chyfran y plant (0-15 oed) mewn cartrefi islaw 60 y cant o incwm cyfartalog y DU, cyn talu costau tai. Sylwch fod hyn yn wahanol i ddangosydd cenedlaethol Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n mesur cyfran y plant sy’n byw mewn tlodi ar ôl talu costau tai. Cyfrifir canrannau gan ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).

Gall seilio’r dangosydd ar incwm “cyn costau tai” danddatgan lefelau tlodi o’u cymharu ag incwm “ar ôl costau tai”. Fodd bynnag, nid yw’r data olaf ar gael ar lefel is-genedlaethol ar hyn o bryd.

Mae data ar gyfer blynyddoedd ariannol 2020/21, 2021/22 a 2022/23 wedi cael eu heffeithio gan bandemig Covid-19. Yn dilyn pryderon am ansawdd amcangyfrifon 2020/21, mae’r rhain wedi’u hatal yn nangosfwrdd PHOF.

O gyhoeddiad Mehefin 2025 ymlaen, mae’r ffigurau’n cael eu graddnodi i amcangyfrifon blwyddyn sengl o Gartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog (HBAI) yn y DU, gan ddisodli’r dull blaenorol o ddefnyddio’r cyfartaledd dros ddwy neu dair blynedd. Mae’r newid hwn yn arwain at ôl-gyfres ddiwygiedig ac yn golygu nad oes modd cymharu’r data’n uniongyrchol â chyhoeddiadau cynharach. 

Ceir rhagor o wybodaeth am effaith pandemig Covid-19 ar yr ystadegau hyn yn adroddiad technegol plant ar incwm isel.

COVER – data cenedlaethol ymgymeriad imiwneiddio mewn plentyndod

Derbynnir data o’r rhaglen clefydau ataliadwy a’r ganolfan wyliadwriaeth ar gyfer clefydau heintus. Mae nifer y plant a gafodd y brechiadau wedi’u hamserlennu yn cael ei rannu â nifer y plant 4 oed wedi’i luosi â 100. Cyfrifir y mesur hwn gan ddefnyddio’r dos o’r pigiad atgyfnerthu neu’r dos o’r cwrs terfynol. Cyfrifir ffigurau ar gyfer plant sy’n byw a phreswylio yng Nghymru ddiwedd Mawrth bob blwyddyn.

Dolenni defnyddiol:

  • Adroddiad data chwarterol diweddaraf
  • Tudalen adnodd imiwneiddio a brechlynnau

Rhaglen Epidemiolegol Deintyddol GIG Cymru

Mae Rhaglen Epidemioleg Ddeintyddol i Gymru yn mesur maint, difrifoldeb ac effaith clefyd deintyddol ar blant Blwyddyn 1 (plant 5 oed), plant Blwyddyn 7 (12 oed) a grwpiau oedolion sy’n byw ledled Cymru.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am gydlynu Rhaglen Epidemioleg Ddeintyddol Cymru. Rydym yn gyfrifol am ddylunio, cynnal a chyflwyno’r rhaglen, gan weithio ochr yn ochr ag Uned Gwybodaeth Iechyd y Geg Cymru. Mae’r Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol ym mhob bwrdd iechyd ledled Cymru yn cymryd rhan yn y rhaglen. 

Diffiniwyd profiad pydredd dannedd (d3mft) fel un neu fwy o ddannedd â phydredd dannedd sy’n amlwg yn weledol (d3t); dant y barnwyd ei fod wedi’i dynnu oherwydd pydredd (mt); neu ddant ag adferiad (ft). Arolygiad 2022/23 oedd y cyntaf ers y pandemig Coronafeirws (COVID-19). Ganed y plant a archwiliwyd fel rhan o’r arolygiad hwn ym mlwyddyn academaidd 2016/17 ac felly byddent wedi bod yn ddwy i dair oed ym mis Mawrth 2020. Er mwyn asesu’n llawn effaith y pandemig COVID-19 ar fynychder a difrifoldeb pydredd dannedd yng Nghymru, argymhellir arolygiad arall o blant blwyddyn ysgol un ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25. 

Ar gyfer 2022-23 ni chynhaliwyd digon o archwiliadau yn ardal Cyngor Sir Ceredigion o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac felly nid oes amcangyfrifon ar gyfer yr ardaloedd hyn ar gael ar gyfer y cyfnod hwn. Nid yw amcangyfrifon Cymru ar gyfer y cyfnod hwn yn cynnwys ardal Cyngor Sir Ceredigion a dylid eu dehongli’n ofalus.

Ffynonellau data allweddol eraill

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2025 (MALlC) (yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo pumedau o amddifadedd). Dyma fesur swyddogol Llywodraeth Cymru o ran amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru.  Mae’n cynnwys wyth parth/math ar wahân o amddifadedd.

Amcangyfrifon canol blwyddyn (MYE) y Swyddfa Ystadegau Gwladol yw’r ffynhonnell swyddogol o feintiau poblogaeth. Maent yn cael eu cynhyrchu’n flynyddol, ac yn cwmpasu poblogaethau awdurdodau lleol, siroedd, rhanbarthau a gwledydd y DU yn ôl oedran a rhyw.  Defnyddir y ffynhonnell ddata hon fel yr enwadur wrth gyfrifo cyfraddau crai a chyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran.

Newidiadau i’r dangosyddion

Tabl 1 Newidiadau i’r dangosydd sy’n ymateb i fewnbwn defnyddwyr

Dyddiad y newid Enw’r dangosydd Disgrifiad blaenorol Disgrifiad newydd Rheswm dros y newid
12 Gorffennaf 2024 Plant sy’n byw mewn tlodi Plant sy’n byw mewn tlodi ar ôl costau tai Plant sy’n byw mewn tlodi cyn costau tai Yn dilyn adborth gan ddefnyddwyr ar ddefnyddioldeb y data. Rydym bellach yn gallu dangos data ar sail dadansoddiadau awdurdodau lleol a byrddau iechyd. 
12 Gorffennaf 2024 Y glasoed â phwysau iach Canran y plant sy’n adrodd naill ai categori BMI ‘tan bwysau’ neu ‘ystod iach’. Canran y plant sy’n adrodd Categori BMI ‘ystod iach’ Yn dilyn adborth gan ddefnyddwyr nad oedd yn briodol cynnwys data categori BMI ‘tan bwysau’.

Canllaw dehongli

Gweler arweiniad ynghylch sut i ddehongli’r telerau canlynol a ddefnyddir yn yr offeryn:

  • Mae cyfyngau hyder yn dangos yr amrywiad naturiol a fyddai i’w ddisgwyl o amgylch cyfradd.  Po ehangach yw’r cyfwng hyder, y mwyaf y byddai disgwyl i’r gyfradd amrywio dros amser trwy siawns yn unig.  Os yw’r cyfyngau hyder yn gymharol eang, mae hyn yn ei gwneud hi’n anoddach tynnu casgliadau am y gwahaniaeth mewn cyfradd rhwng ardal X ac ardal Y, neu’r newid dros amser yn ardal X.    Mae maint y cyfwng hyder yn dibynnu ar nifer y digwyddiadau sy’n digwydd a maint y boblogaeth y daeth y digwyddiadau ohoni. Yn gyffredinol, mae cyfraddau sy’n seiliedig ar niferoedd bach o ddigwyddiadau a phoblogaethau bach yn debygol o fod â chyfyngau hyder mwy eang, sy’n awgrymu mwy o ansicrwydd. Yn y cyfamser, mae’n debygol y bydd gan gyfraddau sy’n seiliedig ar boblogaethau mawr gyfyngau hyder mwy cul, sy’n awgrymu mwy o gywirdeb.  Rydym yn defnyddio cyfyngau hyder o 95 y cant yn offeryn adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd. Mae hyn yn cynrychioli ystod o werthoedd y gallwn fod 95 y cant yn hyderus eu bod yn cynnwys y gyfradd sylfaenol ‘gywir’ o fewn y boblogaeth.   
  • Gwneir cymariaethau yn aml rhwng dau amcangyfrif neu fwy, er enghraifft rhwng ardaloedd neu gyfnodau amser gwahanol (Ffigur 1).  Mewn achosion o’r fath, mae angen inni brofi a yw’r gwahaniaethau’n ‘arwyddocaol yn ystadegol’, h.y. yn annhebygol o fod oherwydd siawns yn unig.  Mae gwahanol ffyrdd o brofi arwyddocâd ystadegol: 1. Cymharu cyfyngau hyder yr amcangyfrifon i weld a ydyn nhw’n gorgyffwrdd. Mae cyfyngau hyder nad ydynt yn gorgyffwrdd yn cael eu hystyried yn arwyddocaol wahanol yn ystadegol (Ffigurau 1b).  Er ei bod yn ddiogel tybio bod cyfyngau hyder nad ydynt yn gorgyffwrdd yn dynodi gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol, nid yw cyfyngau hyder sy’n gorgyffwrdd yn bendant (Ffigur 1c) a byddai angen prawf ystadegol pellach fel y disgrifir ym mhwynt 2 isod.  2. Cyfrifo cymhareb y ddau amcangyfrif, neu’r gwahaniaeth rhyngddynt, a dylunio prawf neu gyfwng hyder o amgylch y ffigur hwnnw. Nid yw dulliau o’r fath yn cael eu cynnwys yn y canllaw technegol hwn, ond gellir dod o hyd iddynt mewn gwerslyfr safonol.3. Arsylwi a yw cyfwng hyder yr amcangyfrif ar gyfer yr ardal leol (e.e. Sir Gaerfyrddin) yn cyffwrdd â’r amcangyfrif ar gyfer Cymru (Ffigur 1a), sy’n cael ei drin fel gwerth ‘Targed’.  Dyma’r dull dewisol ar gyfer sefydlu arwyddocâd ystadegol o fewn adran ‘Tabl cymharu’ offeryn adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd (PHOF), oherwydd ei fod yn gymharol syml i’w gyfrifo a’i ddeall.  
  • Mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yn fesur swyddogol o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru ac yn Ystadegyn Cenedlaethol. Mae’n nodi ardaloedd â’r crynodiadau uchaf o amddifadedd. Mae rhestru’r ardaloedd hyn, a’u rhannu’n bum grŵp cyfwerth o ran maint yn creu pumedau amddifadedd.Ar gyfer pob dadansoddiad ar lefel genedlaethol a’r rhan fwyaf o’r dadansoddiadau mewn byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, cyfrifir pumedau ar lefel Cymru (pumedau cenedlaethol). Ceir rhai dangosyddion lle defnyddir pumedau lleol, yn benodol disgwyliad oes a disgwyliad oes iach. Mae pumedau lleol yn wahanol i bumedau cenedlaethol o ran bod pum band cyfartal amddifadedd yn cael eu hailgyfrifo ar gyfer yr ardaloedd bach mewn pob bwrdd iechyd a ffin awdurdod lleol yn unig, yn hytrach nag etifeddu’r pumedau cenedlaethol. Mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer dull mwy lleol o greu disgwyliadau iechyd.
  • Mae Poblogaeth Safonol Ewropeaidd ddiwygiedig 2013 yn strwythur poblogaeth damcaniaethol a ddefnyddir wrth bwysoli data marwolaethau neu ddigwyddedd i greu cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oed (ASR).
  • Mae Dangosyddion Cenedlaethol (DC) yn cynrychioli’r canlyniadau ar gyfer Cymru, gan arddangos cynnydd tuag at saith nod llesiant. Ceir 50 DC i gyd, nodir deg yn Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd.

Ystadegau eraill y DU / rhyngwladol

Ar draws gwledydd y DU mae offer tebyg i Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd Cymru, dim un sydd yn gwbl gymaradwy.

Yn Lloegr, mae Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd (PHOF) yn cynnwys pedwar maes a chaiff ei greu gan y Swyddfa ar gyfer Gwella Iechyd a Gwahaniaethau. Mae’r meysydd sydd yn creu PHOF Lloegr yn cynnwys penderfynyddion ehangach, gwella iechyd, diogelu iechyd a gofal iechyd a marwolaeth cyn pryd. Mae bron 200 o ddangosyddion yn poblogi’r meysydd, y rhan fwyaf ohonynt, ond nid y cyfan, yn wahanol i’r rheiny a gyflwynir yn y fersiwn Cymraeg.

Nid yw Gogledd Iwerddon yn creu Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd. Fodd bynnag, maent wedi datblygu strategaeth Iechyd y Cyhoedd o’r enw ‘Gwneud Bywyd yn Well fframwaith strategol system gyfan ar gyfer Iechyd y Cyhoedd’. Rhennir y strategaeth yn chwe thema, yn cynnwys ‘rhoi’r dechrau gorau i bob plentyn, arfogi trwy gydol bywyd, grymuso byw’n iach, creu’r amodau, grymuso cymunedau a datblygu cydweithredu.

Nid yw’r Alban yn creu Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd, ond mae Iechyd y Cyhoedd yr Alban a’r cyrff oedd yn ei ragflaenu wedi mabwysiadu dulliau cynllunio canlyniadau ar draws polisi cenedlaethol ac yn hynny o beth maent wedi creu Fframwaith Perfformiad Cenedlaethol a fframwaith iechyd, llesiant a chanlyniadau Cenedlaethol, y ddau yn cynnwys dangosyddion canlyniadau iechyd y cyhoedd.

Geirfa

  • APS (Arolwg Cenedlaethol o’r Boblogaeth – a reolir gan ONS)                         
  • CDSC (Canolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru)        
  • CMP (Rhaglen Mesur Plant – a reolir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru)
  • DEFRA (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig – a reolir gan LlC)
  • DHCW (Iechyd a Gofal Digidol Cymru)      
  • DWP (Adran Gwaith a Phensiynau)              
  • FPF (Fframwaith y Cyfnod Sylfaen – a reolir gan Lywodraeth Cymru)    
  • HBMD (Set Ddata Mamolaeth Bwrdd Iechyd – a reolir gan DCHW)                  
  • HBSC (astudiaeth Ymddygiad Iechyd mewn Plant oedran Ysgol)                      
  • HLCC (Casglu data peryglon a thrwyddedau – a reolir gan Lywodraeth Cymru)
  • HMRC (Cyllid a Thollau EF)
  • LFS (Arolwg o’r Llafurlu – a reolir gan ONS)                      
  • NCCHD (Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol, a reolir gan DHCW)        
  • NSW (Arolwg Cenedlaethol Cymru – a reolir gan Lywodraeth Cymru)             
  • ONS (Swyddfa Ystadegau Gwladol)                         
  • PEDW (Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru – a reolir gan DHCW)         
  • PHM (Marwolaethau Iechyd y Cyhoedd – a reolir gan ONS)                             
  • SHRN (Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion)                             
  • SW (StatsCymru – a reolir gan Llywodraeth Cymru)                   
  • VPDP (Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy – a reolir gan CDSC)
  • WDS (Arolwg Deintyddol Cymru – a reolir gan Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru)
  • WED (Cronfa Ddata Arholiadau Cymru – a reolir gan Lywodraeth Cymru)