Technoleg ddigidol ac anghydraddoldebau iechyd – Adolygiad cwmpasu
Awduron: Matthew Honeyman, David Maguire, Harry Evans, Alisha Davies
Cyhoeddwyd ar: 1af Ionawr 2020
Ym mis Mehefin 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun strategol i ddarparu dull gweithredu system gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, Cymru Iachach (Llywodraeth Cymru 2018). Mae iechyd a llesiant y boblogaeth drwy well atal a hunanreoli yn un o gonglfeini craidd y trawsnewid a ddisgrifir yn y cynllun hwn, a disgwylir i dechnolegau digidol chwarae rhan bwysig yn y gwaith o’i gyflawni.
Er mwyn cyflawni’r uchelgais hwn, bydd angen ystyried anghydraddoldebau cydnabyddedig o ran mynediad i’r rhyngrwyd, technoleg a’r sgiliau sydd eu hangen i elwa, ynghyd â gwahaniaethau cymdeithasol sylfaenol yn lefelau’r ymgysylltu â thechnoleg ddigidol i gefnogi iechyd. Fel y nodwyd yn ddiweddar mewn arolwg cynrychioladol cenedlaethol a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, nid oedd gan 1 o bob 10 oedolyn (16 oed neu’n hŷn) yng Nghymru fynediad i’r rhyngrwyd, ac er bod 2 o bob 3 o bobl wedi dweud eu bod yn defnyddio technolegau digidol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau’n ymwneud ag iechyd, roedd gwahaniaethau amlwg ar draws grwpiau cymdeithasol. Roedd y rheini oedd yn hŷn, y rhai leiaf cefnog neu’r rhai a adroddodd fod eu hiechyd yn waeth, oll yn llai tebygol o ymgysylltu â thechnolegau digidol at ddibenion iechyd (Davies et al. 2019).
Er mwyn harneisio’r potensial i dechnoleg ddigidol wella iechyd y boblogaeth, bydd angen gweithredu i fynd i’r afael ag allgáu digidol sylfaenol. Fel arall, gall canolbwyntio ar dechnoleg arwain yn anfwriadol at ganlyniadau anfwriadol sef ehangu anghydraddoldebau i’r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.
Er mwyn llywio camau gweithredu o’r fath, comisiynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru The King’s Fund i gwblhau adolygiad cwmpasu gan fapio’r dystiolaeth o wahaniaethau yn y defnydd o dechnolegau digidol ar draws grwpiau poblogaeth, a nodi a oes enghreifftiau lle mae gan ddefnyddio technolegau digidol y potensial i leihau anghydraddoldebau iechyd.
Mae’r adolygiad hwn yn ceisio ein helpu i ddeall a chynnig cyngor ar sut y gellir hyrwyddo cydraddoldeb neu liniaru risgiau wrth ddylunio a defnyddio technolegau digidol. Gobeithiwn y bydd yr adolygiad cwmpasu hwn o werth i’r rhai sy’n ceisio deall yn well sut mae’r anghydraddoldebau digidol ac iechyd yn croestorri, gan gynnwys arweinwyr mewn sefydliadau sector cyhoeddus cenedlaethol a lleol, a’r rhai sy’n ymwneud ag ymchwil a datblygiad technoleg iechyd digidol.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Technoleg ddigidol ac anghydraddoldebau iechyd - Adolygiad cwmpasu
PDF, 5MB
Llawrlwytho PDF - Technoleg ddigidol ac anghydraddoldebau iechyd - Adolygiad cwmpasu (5 MB)
Llawrlwytho PDF