Penderfynyddion ehangach iechyd
Penderfynyddion ehangach iechyd yw’r amodau bob dydd sy’n llunio ein cyfleoedd i fyw bywyd iach. Weithiau fe’u gelwir yn flociau adeiladu iechyd oherwydd eu bod yn creu’r sylfeini mae pob un ohonom yn dibynnu arnynt i gadw’n iach. Mae’r blociau adeiladu hyn yn cynnwys mynediad at addysg a sgiliau da, incwm ac adnoddau digonol, argaeledd gwaith da, trafnidiaeth ddibynadwy a chynaliadwy, a thai diogel o ansawdd, a’n hamgylchedd adeiledig a naturiol.
Tabl cynnwys:
- Pam mae blociau adeiladu iechyd yn bwysig ar gyfer iechyd, llesiant a thegwch?
- Beth mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud i gryfhau blociau adeiladu iechyd?
- Pa gamau y dylid eu cymryd i gryfhau blociau adeiladu iechyd ar gyfer Cymru iachach, tecach a mwy cynaliadwy?
- Gwybodaeth bellach
- Adnoddau
- Adroddiadau
- Data
Pam mae blociau adeiladu iechyd yn bwysig ar gyfer iechyd, llesiant a thegwch?
Mae’r ffactorau hyn yn bwysig oherwydd eu bod yn cael llawer mwy o ddylanwad ar ein hiechyd na gofal iechyd yn unig. Pan fydd y blociau adeiladu yn gryf, mae gan bobl gyfleoedd gwell, llai o straen a mwy o reolaeth dros eu bywydau gan arwain at lesiant corfforol a meddyliol gwell. Pan fydd y blociau adeiladu yn wan—megis tai gwael, cyflogaeth ansicr neu strydoedd anniogel—maent yn cyfyngu ar gyfleoedd, yn gwanhau cymunedau, ac yn trosglwyddo anfantais o un genhedlaeth i’r llall. Mae byw mewn tlodi yn arwydd bod y blociau adeiladu sylfaenol hyn ar goll.
Trwy fuddsoddi mewn blociau adeiladu cryf mae gan gymunedau’r amodau i ffynnu. Mae cymunedau iachach yn fwy gwydn, yn fwy cynhyrchiol, ac yn gallu addasu’n well i heriau’r dyfodol fel newid hinsawdd a newid demograffig.
Mae cryfhau blociau adeiladu iechyd yn cyfrannu at gyflawni saith Nod Llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ac yn creu Cymru decach, iachach a mwy cynaliadwy.
Beth mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud i gryfhau blociau adeiladu iechyd?
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru i wella’r amodau sy’n caniatáu i bobl fyw bywydau iach a boddhaus drwy wneud y canlynol:
- Darparu tystiolaeth glir a dibynadwy am y cyflyrau sy’n llunio iechyd a’r hyn sy’n gweithio i gryfhau blociau adeiladu iechyd
- Dod â phartneriaid ynghyd i rannu dysgu a chymryd camau ar y cyd i wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd
- Eirioli a chynghori ar gamau gweithredu drwy helpu’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau i ddeall manteision hirdymor cryfhau blociau adeiladu iechyd
Trwy weithio fel hyn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn helpu i adeiladu amgylcheddau iachach heddiw tra’n diogelu llesiant cenedlaethau’r dyfodol.
Pa gamau y dylid eu cymryd i gryfhau blociau adeiladu iechyd ar gyfer Cymru iachach, tecach a mwy cynaliadwy?
Adnoddau
Adroddiadau
Data
-
Data Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd
Mae’r dudalen hon yn cynnwys dolen i lawrlwytho taenlen Excel hygyrch sy’n cynnwys y data…
-
Offeryn adrodd asedau iechyd
Mae’r dangosyddion a gyflwynir yn cynnwys ystod o bynciau ar draws tri maes: Pobl (Iechyd,…
-
Iechyd a’i phenderfynyddion yng Nghymru 2018
Dyma ffeil wastad sy’n cynnwys y data a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad Iechyd a’i phenderfynyddion…
-
Amddifadedd incwm cronnus 2017
Cyfrif a chanran yr holl bersonau yn ôl Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA) preswylio Cymru….