Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru

Sefydlwyd Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2015 ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ar wella iechyd a lles poblogaeth Cymru a chyfunodd bedwar rhwydwaith pwnc-benodol blaenorol a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Bellach mae gan y Rhwydwaith dros 3,000 o aelodau o ystod o sectorau a sefydliadau gan gynnwys y GIG, Awdurdodau Lleol, Llywodraeth Cymru, y byd academaidd, y trydydd sector a’r sector preifat. Mae’r Rhwydwaith yn ymdrin â sbectrwm eang o bynciau gan gynnwys atal mewn gofal iechyd, ymddygiadau sy’n gysylltiedig ag iechyd, lles meddyliol ac mae’n canolbwyntio ar benderfynyddion ehangach iechyd – tai, addysg, cyflogaeth, incwm ac adnoddau a’r amgylchedd.

Ymuno â Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru

Digwyddiadau Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru

Digwyddiad diweddaraf

22 Hydref 2026: Cyflwyniad i Ddull Tegwch Iechyd Cymru o Fynd i’r Afael ag Annhegwch Iechyd

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ar y digwyddiad hwn gan gynnwys y pecyn cyflwyno a dadansoddiad digwyddiad.

Digwyddiadau sydd ar ddod

Digwyddiadau’r gorffennol

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth o’n hen ddigwyddiadau yn ogystal â’u gwylio eto.

E-fwletinau Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru

Rhifyn cyfredol – Tachwedd 2026

Rhifyn Safbwyntiau Arbennig: Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru

Llyfrgell E-fwletin

Gweld holl e-fwletinau Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Offer a mewnwelediadau ar gyfer gwella iechyd

Rydym yn darparu offer ymarferol a mewnwelediadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i aelodau i gefnogi camau gweithredu ar wella iechyd y boblogaeth. Drwy roi amrywiaeth o ddulliau i aelodau mewn ymarfer iechyd y cyhoedd, rydym yn cefnogi gwaith mwy effeithiol i wella iechyd a llesiant ac yn lleihau anghydraddoldebau. Gallwch weld yr holl wybodaeth yma a dod o hyd i offer ychwanegol isod.

Amdanom ni

Cysylltu â’r rhwydwaith

Os hoffech chi wybod mwy am y rhwydwaith, os oes syniadau gennych ar ddatblygiad y rhwydwaith neu bwnc penodol o waith yr hoffech chi rannu gydag aelodau, cysylltwch â thîm y Rhwydwaith.

Pynciau a all fod o ddiddordeb i chi