Cyflwyniad i ddull Tegwch Iechyd Cymru o fynd i’r afael ag annhegwch iechyd
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
- Amser
- -
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Bydd y weminar hon yn rhoi cyflwyniad i raglen Tegwch Iechyd Cymru, sy’n adeiladu ar yr argymhellion a wnaed gan yr Athro Syr Michael Marmot ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Gymru ddod yn Genedl Marmot.
Byddwch yn clywed gan gydweithwyr Llywodraeth Cymru am amcanion y rhaglen i gefnogi gwaith presennol sy’n mynd i’r afael ag annhegwch iechyd ledled Cymru drwy wreiddio egwyddorion a dulliau Marmot. Bydd arweinwyr o’r Sefydliad Tegwch Iechyd yn rhannu mewnwelediadau a gafwyd trwy weithio ar fentrau tebyg yn Lloegr a’r Alban ac yn amlinellu cwmpas y gweithgarwch o fewn Tegwch Iechyd Cymru. Byddwch hefyd yn clywed gan y lle Marmot cyntaf yng Nghymru am ei heriau a’i llwyddiannau. Bydd cyfleoedd i ofyn cwestiynau a rhannu eich barn.
Canlyniadau Dysgu
- Cyflwyniad i raglen Tegwch Iechyd Cymru
- Rhoi cyflwyniad i Degwch Iechyd Cymru a’r Sefydliad Tegwch Iechyd (IHE)
- Mewnwelediadau o adroddiad diweddaraf yr IHE
- Cyfle i glywed gan le Marmot sefydledig