Natur er budd Tegwch Iechyd: Creu Cymunedau Tecach, Gwyrddach ac Iachach
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Mae natur yn hanfodol i’n hiechyd. Yn ogystal â chefnogi systemau hanfodol sy’n darparu ein bwyd, dŵr ac aer glân, mae’r byd naturiol yn chwarae rhan hanfodol yn ein hiechyd corfforol a meddyliol.
Ond a oes gan bawb yr un cyfleoedd i gysylltu â natur ac elwa ohoni?
Beth mae’r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym am y berthynas rhwng natur ac anghydraddoldebau iechyd? A allai mynediad gwell at fannau gwyrdd a glas helpu i wella iechyd a llesiant y rhai a fyddai’n elwa fwyaf ohonynt? Beth sydd angen digwydd er mwyn i ddatrysiadau sy’n seiliedig ar natur gael eu cyflwyno’n effeithiol ar gyfer pobl a’r blaned?
Yr amcanion dysgu
· Deall y cysylltiadau rhwng natur, iechyd a llesiant
· Gwerthfawrogi bod mynediad at fannau naturiol yn amrywio a bod hyn yn gallu effeithio ar iechyd pobl
· Archwilio’r hyn sydd ei angen i wella mynediad pobl at natur a’u cysylltiad â hi
· Nodi gwersi o brosiectau a dulliau sy’n anelu at gefnogi pobl i gael mynediad at natur a chysylltu mwy â hi