Gwyddor ymddygiad
Gall defnyddio gwyddor ymddygiad mewn gweithgareddau gwella iechyd a llesiant eu gwneud yn fwy effeithlon ac effeithiol, gan helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach ac iachach, nawr ac yn y dyfodol.
Os ydych chi’n weithiwr proffesiynol iechyd a gofal sy’n arwain, yn cynllunio, yn datblygu, neu’n gwneud gwaith er mwyn gwella iechyd a llesiant pobl Cymru, gall y tudalennau hyn eich helpu i ddefnyddio gwyddor ymddygiad i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd eich gweithgareddau.
Mae gweithgareddau i wella neu ddiogelu iechyd a llesiant ac i leihau annhegwch iechyd bron bob tro yn ddibynnol ar unigolion yn gwneud rhywbeth yn wahanol. Mae bron i bob ymyriad iechyd, boed yn ddeddfwriaethol neu’n newid i ddarpariaeth gwasanaeth, yn gofyn am newidiadau amlwg a mesuradwy yng ngweithgareddau (ymddygiad) pobl er mwyn iddo fod yn effeithiol, boed yn staff, y cyhoedd, neu’r ddau.
Mae gwyddor ymddygiad yn faes trawsddisgyblaethol cyfoethog sydd yn cynnwys elfennau o seicoleg, cymdeithaseg, anthropoleg, niwrowyddoniaeth, economeg ymddygiad a mwy, ac mae’n ddull pwerus o ddeall ac o ddylanwadu ar ymddygiad dynol.
Waeth beth yw’r ‘ymyriad’ – gall fod yn wasanaeth, polisi, gwaith gwella ansawdd, cyfathrebu, gwaith partneriaeth neu waith systemau – mae’n debygol bydd y canlyniad a’r effaith yn dibynnu ar ymddygiad pobl. Gallai defnyddio egwyddorion, dulliau, damcaniaethau a modelau gwyddor ymddygiad sy’n seiliedig ar dystiolaeth wrth eich gwaith eich helpu i gael y canlyniadau gorau i’r cyhoedd am eich buddsoddiad.
Beth yw gwyddor ymddygiad?
Gwyddor ymddygiad yw’r defnydd o ddulliau gwyddonol cadarn i gasglu tystiolaeth a data ar gyfer modelau a damcaniaethau sy’n rhagweld ac yn astudio ymddygiad dynol – yr hyn sy’n ei alluogi, yr hyn sy’n ei atal, a’r ffyrdd gorau i’w sbarduno neu ei newid.
Mae gwyddoniaeth ymddygiad yn faes eang a rhyngddisgyblaethol sy’n ceisio deall ymddygiad pobl yng nghyd-destunau’r byd go iawn. Mae’n cynnwys elfennau o seicoleg, cymdeithaseg, anthropoleg, economeg ymddygiad, a gwyddorau cymdeithasol eraill i edrych ar y ffactorau sylfaenol sy’n gyrru ymddygiad dynol.
Un agwedd hollbwysig yw bod gwyddor ymddygiad yn cydnabod nad yw ymddygiad pobl yn rhesymegol bob tro, ac nad yw pobl yn ymwybodol o’u hymddygiad bob tro. Mae ystod o ffactorau’n dylanwadu ar ein hymddygiad, gan gynnwys gyrwyr gwybyddol, seicolegol, cymdeithasol ac amgylcheddol – dyma gyd-destunau ein hymddygiad. Mae hyn yn bwysig gan ei fod yn symud y tu hwnt i ragdybiaethau am yr hyn y dylai pobl ei wneud, ac yn hytrach yn canolbwyntio ar yr hyn y maen nhw’n ei wneud mewn gwirionedd. O wneud hyn, cawn ddealltwriaeth sylfaenol o sut caiff penderfyniadau eu gwneud ac o’r camau gweithredu sy’n cael eu cymryd mewn bywydau bob dydd. Mae defnyddio gwyddor ymddygiad yn wahanol iawn i ragdybio y bydd pobl, staff neu’r cyhoedd yn gweithredu mewn ffyrdd sydd o fudd iddyn nhw’u hunain neu effeithiolrwydd gwasanaeth pan fyddan nhw’n cael gwybodaeth, cyngor, codi ymwybyddiaeth neu hyfforddiant, er enghraifft.
Pam mae gwyddoniaeth ymddygiad yn bwysig?
Mae tystiolaeth dda i ddangos sut y gallai defnyddio gwyddor ymddygiad wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd eich gweithgareddau gwella iechyd a llesiant, gan wella sut mae nhw’n cael eu gweithredu a chael y canlyniadau gorau posibl.
Y rheswm am hyn yw bod bron i bob ymyriad a wneir i wella iechyd a llesiant yn ymwneud ag ymddygiad rhywun yn rhywle. Er mwyn gweithredu eich gwaith yn effeithiol, neu i barhau ar y llwybr tuag at ganlyniad gwell, bydd rhaid i rai grwpiau o bobl wneud rhywbeth newydd neu wahanol.
Bydd defnyddio offer, modelau, damcaniaethau a dulliau gwyddor ymddygiad yn helpu i wneud diagnosis o broblemau ymddygiad ac i ganfod datrysiadau trwy rannu nodau cymhleth yn ymddygiadau penodol, y gellir eu gweld. Bydd defnyddio gwyddor ymddygiad yn eich helpu i adnabod yr ysgogwyr ymddygiad pwysig a’u defnyddio i ddatblygu ymyriadau sydd yn seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n canolbwyntio ar bobl – gan olygu y byddan nhw’n debygol o fod yn fwy effeithiol ac effeithlon. Mae tystiolaeth wedi dangos y gall newidiadau bychain – fel newid geiriau mewn llythyr i fod yn fwy ystyriol o wyddor ymddygiad – arwain at newidiadau mawr o ran canlyniadau iechyd. Am ganllawiau ar sut i ddefnyddio gwyddor ymddygiad , darllenwch yr egwyddorion ar gyfer defnyddio gwyddor ymddygiad wrth eich gwaith.
Mae tystiolaeth i ddangos y gall gwyddor ymddygiad wella canlyniadau mewn ystod eang o bynciau iechyd, gan fynd ymhell y tu hwnt i’r defnydd traddodiadol ohono ar gyfer delio ag ymddygiadau sy’n niweidio iechyd, a llawer pellach nag ymyriadau cyfathrebu sy’n anelu at newid gwybodaeth neu wella ymwybyddiaeth y cyhoedd. Mae tystiolaeth dda i ddangos ei fod yn arwain ar well canlyniadau mewn pynciau fel: ymwrthedd gwrthficrobaidd, imiwneiddio, argyfyngau iechyd, iechyd meddwl, gwasanaethau sgrinio, apwyntiadau ysbyty, anghydraddoldebau iechyd, yn ogystal ag ymddygiadau risg clefydau anhrosglwyddadwy, a HIV/AIDS. Mewn gwirionedd, mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn awgrymu bod gwyddor ymddygiad yn berthnasol i BOB maes sy’n ymwneud ag iechyd, gwasanaethau iechyd ac ansawdd gofal iechyd, pob lleoliad sy’n pennu ymddygiadau iechyd, a phawb sy’n dylanwadu ar ganlyniadau iechyd trwy eu hymddygiad.
Yr Uned Gwyddor Ymddygiad
Mae’r Uned Gwyddor Ymddygiad yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig cymorth i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ac i weithwyr proffesiynol sy’n cynllunio, yn datblygu ac yn darparu gweithgareddau sy’n anelu at wella iechyd a llesiant pobl Cymru. Gall yr Uned eu helpu i ddefnyddio gwyddor ymddygiad i wella’r effaith y maen nhw’n ei gael ac i sicrhau’r canlyniadau gorau. Mae’r cymorth hwn ar gael i unrhyw un sy’n gweithio i wella iechyd a lles a thegwch iechyd yng Nghymru, boed y ‘gwaith’ hwnnw’n ymwneud â gwasanaethau, polisi, gwella ansawdd, cyfathrebu, gweithio mewn bartneriaethau neu weithio systemau.
Mae’r Uned Gwyddor Ymddygiad yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid – gan gynnwys Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, awdurdodau lleol, y byd academaidd, unedau gwyddor ymddygiad eraill, a chyrff rhyngwladol fel Sefydliad Iechyd y Byd – er mwyn defnyddio gwyddor ymddygiad ar draws amrywiaeth o bynciau iechyd cyhoeddus, gan gynnwys: brechu, sgrinio, rhoi’r gorau i ysmygu, pwysau iach, gweithredu ar yr hinsawdd, a chyfathrebiadau iechyd. Mae’r uned yn cynnig cymorth arbenigol drwy ddiagnosis ymddygiad , trwy ddylunio ymyraethau a thrwy werthuso, a hynny gan ddefnyddio fframweithiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Maen nhw hefyd yn cynhyrchu canllawiau ac offer, yn darparu hyfforddiant, ac yn cefnogi prosiectau newid ymddygiad er mwyn ymgorffori gwyddor ymddygiad mewn polisi, gwasanaethau, gwelliannau, cyfathrebu a gwaith systemau ledled Cymru.
Beth all yr Uned Gwyddor ymddygiad ei gynnig?
Mae’r Uned yn darparu ystod o ‘wasanaethau’ i bartneriaid er mwyn eu galluogi i ddefnyddio gwyddor ymddygiad i wella’u gweithgareddau ac i optimeiddio eu canlyniadau ar gyfer gwell iechyd a llesiant. Dysgwch fwy am yr Uned Gwyddor Ymddygiad a’r hyn maen ei gynnig.
Gwasanaeth ymatebol
Mae’r Uned yn rhoi cymorth amserol pan fo partneriaid yn gofyn am gymorth i ddefnyddio gwyddor ymddygiad yn eu gwaith. Ar gyfer staff sy’n cynllunio, yn datblygu neu’n darparu gwasanaethau, polisïau, gwaith gwella ansawdd, cyfathrebu a gweithio systemau. O ymgynghori, rhoi cyngor ac arweiniad, i hyfforddiant a datblygiad pwrpasol ynghylch defnyddio gwyddor ymddygiad yn y gwaith, gall yr Uned eich helpu i ddefnyddio gwyddor ymddygiad i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd eich gweithgareddau.
Offer a chanllawiau
Mae amrywiaeth o offer ymarferol, canllawiau, adroddiadau a ffeithluniau ar gael i gefnogi’r defnydd o wyddor ymddygiad ym mhob cam o’ch gwaith. Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys canllawiau sylfaenol a deunyddiau pwnc-benodol sy’n dangos sut y gellir integreiddio gwyddor ymddygiad yn effeithiol i amrywiaeth o gyd-destunau iechyd cyhoeddus. Yr holl gyhoeddiadau a grëwyd gan yr Uned Gwyddor Ymddygiad.
Mae e-fwletin chwarterol Bitesize BeSci yn edrych ar enghreifftiau o wyddor ymddygiad ar waith yng Nghymru. Mae pob rhifyn yn egluro’r defnydd ymarferol o wyddor ymddygiad, sylwebaeth gan arbenigwyr ac arweinwyr systemau gwadd, diweddariadau ar ddigwyddiadau, cyfleoedd ariannu, cynigion newydd gan yr Uned Gwyddor ymddygiad, a datblygiadau perthnasol eraill yn y maes. Tanysgrifiwch i’r e-fwletin chwarterol, Bitesize BeSci.
Hyfforddiant, dysgu a datblygu
Mae’r Uned yn cynnig ystod o gyfleoedd hyfforddiant a datblygiad i alluogi’r defnydd o wyddor ymddygiad fel mater o arfer mewn gweithgareddau gwella iechyd a lles. Mae’r Uned yn cynnig hyfforddiant a datblygiad pwrpasol fel rhan o’n gwasanaeth ymatebol i fodloni anghenion partneriaid. Mae’r Uned hefyd yn datblygu rhaglen meithrin gallu ac iddi sawl lefel, gan gynnwys modiwl e-ddysgu ar gyfer yr holl staff sy’n ymwneud â sylfeini ac egwyddorion gwyddor ymddygiad, rhaglen Asiantau Newid Ymddygiad, a chwrs aml-fformat i gefnogi staff i ddefnyddio gwyddor ymddygiad yn eu hymarfer ac i gefnogi eu timau i wneud hynny. Bydd yr Uned hefyd yn darparu rhaglen gwyddor ymddygiad i arweinwyr, gan gefnogi arweinwyr i feithrin amodau lle gellir ymgorffori gwyddor ymddygiad fel mater o drefn i optimeiddio gwasanaethau yn eu meysydd gwaith.
Menter Cyfathrebu sy’n Seiliedig ar Ymddygiad (BICI)
Mae’r Uned yn cynnig rhaglen reolaidd i gefnogi cydweithwyr sy’n defnyddio ymyriadau cyfathrebu i newid ymddygiad. Os ydych eisiau gwella neu optimeiddio defnydd y cyhoedd o wasanaethau, neu’n awyddus i alluogi staff i gefnogi datblygu neu wella gwasanaethau, gall BICI gynnig cyfuniad o gefnogaeth uniongyrchol gan yr Uned Gwyddor Ymddygiad . Gallant hefyd gynnig gweithdai dan arweiniad a gweithgareddau y byddwch chi’n eu harwain er mwyn helpu timau i gyfathrebu yn fwy effeithiol ac i ddatblygu eu sgiliau gwyddor ymddygiad eu hunain.
Dysgwch fwy am y Fenter Cyfathrebu Ymddygiad (BICI).
Rhannu a dysgu
Dyluniwyd Cymuned Gwyddor Ymddygiad Cymru i wella sgyrsiau, cysylltiadau, cydweithrediad a gallu gweithwyr proffesiynol a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ddefnyddio gwyddor ymddygiad yn eu hymdrechion i wella iechyd yng Nghymru (a thu hwnt), ac mae ganddi gannoedd o aelodau. Ymunwch â Chymuned Gwyddor Ymddygiad Cymru.
Dysgwch fwy am Gymuned Gwyddor Ymddygiad Cymru.
Gwell iechyd drwy wyddor ymddygiad – cynllun galluogi i Gymru
Mae gwella iechyd a lleihau annhegwch yn ddibynnol ar ddeall a dylanwadu ar ymddygiad dynol – y penderfyniadau y mae aelodau’r cyhoedd yn eu gwneud bob dydd, a’r gwaith y mae gweithwyr proffesiynol a llunwyr polisi yn ei wneud. Mae’r cynllun galluogi hwn yn gosod llwybr clir sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ymgorffori gwyddor ymddygiad ar draws sector cyhoeddus Cymru, gan wella effaith polisïau, gwasanaethau ac ymyriadau sy’n gysylltiedig ag iechyd. Mae’r cynllun yn cyd-fynd â Strategaeth Hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru hyd at 2035 ac yn cefnogi’r blaenoriaethau presennol ar draws y sector cyhoeddus. Mae’r cynllun yn amlinellu saith maes gweithredu allweddol i adeiladu gallu, systemau a chymhelliant parhaol ar gyfer gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ymddygiad. Dysgwch sut y gall gwyddor ymddygiad helpu eich sefydliad i gael canlyniadau gwell – a sut y gallwch chi fod yn rhan o’r trawsnewidiad hwn. Edrychwch ar y cynllun galluogi llawn a ddrafftiwyd i helpu i gyflawni hyn.
Defnyddio gwyddor ymddygiad: cymorth a chefnogaeth
Dysgwch sut all yr Uned Gwyddor ymddygiad eich helpu i ddefnyddio gwyddor ymddygiad yn eich gwaith i wella iechyd a llesiant.