Addysg ac iechyd
Ein Rhaglenni
Mae ein rhaglen Lleoliadau Addysgol yn dwyn ynghyd amrywiaeth o raglenni cenedlaethol a gynlluniwyd i gefnogi iechyd a llesiant ar draws y blynyddoedd cynnar a’r system addysg. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
- Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles (WNHWPS) – cefnogi ysgolion i ddatblygu dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd a llesiant.
- Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy (HSPSS) – Sy’n hyrwyddo iechyd, datblygiad a chynaliadwyedd mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.
- Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol (WSAEMWB) – Darparu canllawiau a chymorth i helpu ysgolion i ymgorffori llesiant meddyliol ar draws eu diwylliant, eu cwricwlwm a’u hamgylchedd.
- Y Rhaglen Cwricwlwm – sy’n darparu adnoddau cwricwlwm sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ysgolion ar ystod o feysydd pwnc iechyd a lles i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r maes dysgu a phrofiad iechyd a lles.
- Byw Bywyd – Rhaglen atal ysmygu sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer ysgolion.
‘Caiff iechyd ei greu yn y mannau lle mae pobl yn byw, caru, dysgu a chwarae’
(Siarter Ottawa ar gyfer hyrwyddo iechyd)
Dulliau sy’n seiliedig ar leoliadau yw dulliau cyffredinol sy’n ceisio dylanwadu ar yr amgylchedd, y polisi a’r arferion o fewn y lleoliad er mwyn galluogi gwell iechyd a llesiant i’r rhai yn y lleoliad hwnnw.
Fel tîm y Rhaglen Lleoliadau Addysgol, rydym yn gweithio ar y cyd ag ysgolion, awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd lleol, darparwyr blynyddoedd cynnar, colegau a phrifysgolion, a phartneriaid cenedlaethol i wreiddio iechyd a llesiant wrth wraidd lleoliadau addysgol yng Nghymru.
Beth rydym ni’n ei wneud?
Rydym yn darparu arweinyddiaeth genedlaethol, canllawiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a chymorth ymarferol i helpu lleoliadau addysgol i greu amgylcheddau sy’n hyrwyddo llesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol. Mae ein gwaith yn cynnwys:
- Cefnogi lleoliadau i fabwysiadu dulliau ysgol gyfan a lleoliad cyfan ar gyfer iechyd a llesiant
- Darparu canllawiau, offer, adnoddau a hyfforddiant i staff
- Cryfhau partneriaethau rhwng y sectorau iechyd ac addysg
- Defnyddio data, ymchwil a gwerthuso i lywio arferion gorau
Cefnogi lleoliadau i fodloni gofynion polisi cenedlaethol, gan gynnwys y Cwricwlwm i Gymru, y Fframwaith Statudol ar gyfer ymgorffori Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol (WSAEMWB) a safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer lleoliadau gofal plant.
Ein nod yw grymuso lleoliadau addysgol i ddod yn gymunedau sy’n hybu iechyd lle gall pob baban, plentyn a pherson ifanc ffynnu.
Pam rydyn ni’n gweithio gyda lleoliadau addysgol?
Mae lleoliadau addysgol yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio iechyd a llesiant babanod, plant a phobl ifanc. Ysgolion, lleoliadau blynyddoedd cynnar, ac amgylcheddau addysg bellach yw lle mae pobl ifanc yn treulio cyfran sylweddol o’u bywydau, sy’n golygu eu bod yn lleoedd pwerus i ddylanwadu ar ymddygiadau iechyd cadarnhaol gydol oes. Trwy gefnogi amgylcheddau iach, diogel a meithringar, rydym yn helpu babanod, plant a phobl ifanc i ddysgu, ffynnu a chyrraedd eu potensial llawn. Mae gwella iechyd mewn lleoliadau addysgol hefyd yn cryfhau cymunedau, yn lleihau anghydraddoldebau, ac yn cyfrannu at Gymru iachach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Adnoddau
Data
-
Data dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion uwchradd
Mae’r dudalen hon yn cynnwys y tablau data sy’n gysylltiedig â’r dangosfwrdd iechyd a llesiant…