Canllawiau athrawon: Fframwaith ar gyfer Lles Meddwl
Mae’r pecyn cymorth hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu a chynnal cydberthnasau iach fel thema allweddol o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles.
Dylai addysgu a dysgu am fanteision cydberthnasau iach gysylltu, lle bo modd, â phob un o’r Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig yn y Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles. Yn benodol:
- Mae cydberthnasau iach yn hanfodol ar gyfer ein lles.
- Mae’r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni a bywydau eraill.
Bydd y pecyn cymorth yn cefnogi dysgwyr i ddeall y byddant yn profi nifer o wahanol fathau o gydberthnasau drwy gydol eu bywydau. Byddant yn dysgu sut i feithrin cydberthnasau cryf a pharchus, a sut i ofalu amdanynt dros amser.
Bydd hyn yn eu helpu i ddeall bod cael cydberthnasau caredig ac iach yn bwysig ar gyfer hapusrwydd, lles ac iechyd cyffredinol.