Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion cynradd

Manylion:

Awduron: Tîm dadansoddi

Cyhoeddwyd ar: 18fed Mehefin 2026

Cyhoeddiad nesaf: I’w gyhoeddi

Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth

Rhagymadrodd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi dangosfwrdd rhyngweithiol sy’n cyflwyno canlyniadau arolwg wedi’u diweddaru ar iechyd a lles plant oed ysgol cynradd yng Nghymru.

Mae hwn yn ddarn o waith cydweithredol rhwng y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r data hwn yn rhoi cipolwg ar iechyd a llesiant plant ysgol gynradd ledled Cymru, gan helpu defnyddwyr i ddeall y sefyllfa bresennol a gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth sy’n cael effaith gadarnhaol ar bobl ifanc. Mae’r dangosfwrdd yn cynnwys 41 o ddangosyddion o arolwg 2024 ac mae modd gweld cynnwys ar gyfer rhyw, oedran, grŵp blwyddyn, cyfoeth teuluol a gwahanol lefelau daearyddol.

Daw’r dangosfwrdd gyda lawrlwythiad data llawn sy’n cynnwys nifer y myfyrwyr a ymatebodd i’r cwestiwn a chyfanswm y myfyrwyr a holwyd. Mae hefyd yn cynnwys lawrlwythiad ar gyfer cyfraddau gwahardd ac ymateb. Mae’r siartiau a grëwyd o fewn y dangosfwrdd i gyd ar gael i’w lawrlwytho ynghyd â thablau data sy’n cyd-fynd â nhw. Mae’r dangosfwrdd wrthi’n cael ei ddatblygu a bydd yn cynnwys dangosyddion a dadansoddiadau ychwanegol yn y dyfodol. Gweler y ddogfen diweddariadau arfaethedig am ragor o wybodaeth.  Gweler yr adran amserlenni cyhoeddi arfaethedig isod am ragor o wybodaeth.

Daw’r dangosfwrdd gyda lawrlwythiad data llawn sy’n cynnwys nifer y myfyrwyr a ymatebodd i’r cwestiwn a chyfanswm y myfyrwyr a holwyd. Mae hefyd yn cynnwys lawrlwythiad ar gyfer cyfraddau gwahardd ac ymateb. Mae’r dangosfwrdd wrthi’n cael ei ddatblygu a bydd yn cynnwys dangosyddion a dadansoddiadau ychwanegol yn y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth am yr arolwg ewch i wefan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN). 

Logo y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion, sydd hefyd yn cael ei alw’n SHRN

Prif Bwyntiau

  • Yn 2024, roedd merched yn gyson yn nodi lefelau uwch o anawsterau emosiynol na bechgyn ar draws pob grŵp blwyddyn ysgol gynradd yng Nghymru, gyda’r bwlch mwyaf ym Mlwyddyn 4 (38.0% o’i gymharu â 24.8%). Roedd bechgyn ysgol gynradd yn fwy tebygol na merched o gael anawsterau ymddygiad ym mhob grŵp blwyddyn ysgol gynradd yng Nghymru yn 2024, gyda thua 18–20% o fechgyn yn cael eu heffeithio o’i gymharu â 14–15% o ferched.
  • Mae plant o deuluoedd mwy cyfoethog yn fwy tebygol o ymarfer corff o leiaf bum gwaith yr wythnos, gyda graddiant economaidd-gymdeithasol clir ar gyfer bechgyn a merched. Mae bechgyn yn gyson yn nodi lefelau uwch o ymarfer corff rheolaidd na merched ar draws pob grŵp cyfoeth, gyda’r bwlch rhwng y rhywiau yn fwyaf amlwg mewn grwpiau cyfoeth uwch.
  • Yn 2024, roedd y rhan fwyaf o blant ysgolion cynradd yn nodi eu bod yn teimlo bod eu hathrawon yn gofalu amdanynt fel person, ac roedd lefelau uchel cyson ar draws pob grŵp blwyddyn. Mae hyn yn parhau’n sefydlog o Flwyddyn 3 (92.0% i ferched ac 87.7% i fechgyn) hyd at Flwyddyn 6 (90.0% i ferched ac 86.4% i fechgyn), ychydig o amrywiad oedd yn ôl oedran.
  • Yn 2024, roedd perchnogaeth ffôn clyfar ymhlith plant ysgol gynradd yn cynyddu’n sylweddol gydag oedran, gan godi o tua 39% ym Mlwyddyn 3 (39.4% o fechgyn a 39.3% o ferched) i dros dri chwarter ym Mlwyddyn 6 (75.0% o fechgyn a 77.2% o ferched). Roedd dilyniant cyson drwy’r grwpiau blwyddyn, gyda pherchnogaeth tua 47–48% ym Mlwyddyn 4 a 58–60% ym Mlwyddyn 5, sy’n dangos cynnydd cyflym yn nifer y disgyblion sy’n berchen ar ffonau clyfar yn ystod y blynyddoedd cynradd diweddarach.
  • Yn 2024, roedd y defnydd o wefannau neu apiau cyfryngau cymdeithasol ymhlith plant ysgol gynradd yn cynyddu gydag oedran, gan godi o tua 20.4% o fechgyn a 18.6% o ferched ym Mlwyddyn 3 i 49.7% o fechgyn a 53.3% o ferched ym Mlwyddyn 6. Roedd cynnydd cyson ar draws pob grŵp blwyddyn, gyda lefelau o gwmpas 26% ym Mlwyddyn 4 a 35% ym Mlwyddyn 5, sy’n dangos ymgysylltiad cynyddol wrth i blant fynd yn hŷn. Yn y blynyddoedd cynharach, mae bechgyn yn nodi lefelau ychydig yn uwch o ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol na merched, ond mae’r patrwm hwn yn gwrthdroi erbyn Blwyddyn 6, pan fo merched yn nodi defnydd uwch.
  • Yn 2024, roedd y rhan fwyaf o blant ysgol gynradd yng Nghymru yn nodi eu bod yn cael problemau cysgu, gyda thua 2 o bob 3 o blant yn cael eu heffeithio. Mae hyn yn dangos bod anawsterau cysgu yn gyffredin ymhlith disgyblion ysgolion cynradd, gan dynnu sylw at gwsg fel mater arwyddocaol o ran iechyd a llesiant plant yn yr oedran hwn.

Tablau data

Cyrchu’r data sy’n gysylltiedig â’r dangosfwrdd hwn.

Cysylltu data â chamau gweithredu

Mae Dangosfwrdd Iechyd a Lles Plant Ysgolion Uwchradd yn cyflwyno data i helpu i nodi materion allweddol a meysydd ffocws ar gyfer iechyd a lles disgyblion. Er bod y dangosfwrdd yn tynnu sylw at y problemau, gall yr isod helpu gyda’r hyn sydd angen ei wneud nesaf. Drwy gysylltu’r dangosfwrdd â’r adnoddau hyn, gall defnyddwyr symud o ddeall y data i ddod o hyd i dystiolaeth ddibynadwy sy’n llywio gwelliant yn y byd go iawn.

Cefnogi Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles mewn Ysgolion

Mapiau Tystiolaeth – Mae’r mapiau hyn yn rhoi mynediad strwythuredig at dystiolaeth gyfoes o ansawdd uchel ar amrywiaeth eang o bynciau iechyd a lles. Wedi’u datblygu gan dîm y Gwasanaeth Tystiolaeth yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, maent yn dwyn ynghyd canllawiau dibynadwy ac adolygiadau systematig i gefnogi defnyddwyr i nodi camau gweithredu effeithiol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Gweithio gyda Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles

Gall ysgolion sydd am fabwysiadu dull ysgol gyfan o wella iechyd a lles hefyd gysylltu â chynlluniau sy’n rhan o Rwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles (WNHWSS). Mae’r Rhwydwaith yn cefnogi ysgolion ledled Cymru i ymgorffori iechyd a lles yn eu polisïau, eu cwricwlwm a’u diwylliant. Mae’n cynnig arweiniad, cymorth ymarferol, a chyfleoedd i rannu arferion da. I gael gwybod rhagor neu i gysylltu â’ch cydlynydd lleol, ewch i’w gwefan neu cysylltwch yma [email protected].

Ymwadiad

Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Barn yr awdur(on) a fynegir yma ac nid o reidrwydd barn y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) na Phrifysgol Caerdydd.

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig