Brechu yn erbyn meningococol grŵp B (MenB) mewn babanod a phlant ifanc - Ynglŷn â’r brechlyn MenB ar gyfer babanod a phlant ifanc
I gael gwybodaeth am y cynnig MenB i bobl ifanc, ewch i Brechlyn MenB ar gyfer pobl ifanc.
Am wybodaeth am frechu Meningococcal mewn pobl ifanc gweler Brechlyn MenACWY.
Mae rhai o’r dolenni sydd wedi’u cynnwys yn yr wybodaeth hon yn arwain at gynnwys a grëwyd gan sefydliadau eraill ac efallai nad yw’r cynnwys hwn ar gael yn Gymraeg.
Cefndir
“Gall clefyd meningococol achosi llid yr ymennydd (chwydd yn yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn) a sepsis (sef adwaith sy’n peryglu bywyd i haint a all niweidio eich corff cyfan). Mae llid yr ymennydd a sepsis yn glefydau sy’n bygwth bywyd.“
Talfyriad o ‘facteria meningococol grŵp B’ yw MenB. Mae MenB yn un o sawl math o facteria meningococol. Mae’r mathau mwyaf cyffredin eraill yn cynnwys W, Y ac C.
Mae’r brechlyn MenB yn helpu i amddiffyn babanod rhag llid yr ymennydd a sepsis a achosir gan facteria meningococol grŵp B. Nid yw’n amddiffyn rhag mathau eraill o facteria meningococol. Cynigir brechlyn gwahanol i bobl ifanc yn eu harddegau, o’r enw MenACWY, i helpu i’w hamddiffyn rhag mathau A, C, W ac Y.
Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn
Ynglŷn âr brechlyn
Fel arfer, bydd babanod yn cael y brechlyn MenB trwy bigiad yn rhan uchaf eu coes (clun). Fel arfer, bydd plant hŷn ac oedolion yn ei gael trwy bigiad yn rhan uchaf eu braich.
Y brechlyn MenB, o’r enw Bexsero (safle allanol, Saeneg yn unig), yw’r unig frechlyn sy’n cael ei gynnig ar amserlen imiwneiddio’r GIG yng Nghymru sy’n helpu i amddiffyn rhag bacteria meningococol grŵp B.
Diogelwch ac effeithiolrwydd
Adnoddau
Os hoffech chi ddysgu rhagor am y brechlyn MenB neu’r clefydau y mae’n amddiffyn yn eu herbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu. Gallwch chi hefyd ffonio GIG 111 neu eich practis meddyg teulu i gael cyngor os oes gennych gwestiynau.
Brigiad achosion llid yr ymennydd
Rhagor o wybodaeth
- Mae Meningitis Research Foundation (safle allanol, Saesneg yn unig) yn elusen flaenllaw yn y DU, Iwerddon ac yn rhyngwladol sy’n dod â phobl ac arbenigedd ynghyd i drechu llid yr ymennydd a septisemia.
- Mae Meningitis Now (safle allanol, Saesneg yn unig) yn elusen genedlaethol ar gyfer llid yr ymennydd sydd wedi’i lleoli yn y Deyrnas Unedig.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 18fed Mehefin 2026