Neidio i'r cynnwys

Brechu yn erbyn meningococol grŵp B (MenB) mewn babanod a phlant ifanc - Brechu meningococol B (MenB) mewn babanod a phlant ifanc – Gwybodaeth i weithwyr iechyd

Cefndir 

Mae clefyd meningococol ymledol (IMD) yn glefyd hysbysadwy. Mae’n haint bacteriol sy’n gwaethygu’n gyflym a achosir gan Neisseria meningitidis. Lledaenir yr organeb gan ddefnynnau anadlol ac mae ganddi gyfnod magu rhwng dau a saith diwrnod. Mae clefyd meningococol ymledol fel arfer yn ymddangos fel llid yr ymennydd (acíwt) neu sepsis, neu gyfuniad o’r ddau. 

Mae clefyd meningococol yn digwydd amlaf mewn babanod o dan flwydd oed, gyda’r cyfraddau’n gostwng wrth i blant fynd yn hŷn. Gwelir cynnydd llai mewn achosion hefyd ymhlith pobl ifanc rhwng 15 a 19 oed.

Mae clefyd meningococol yn angheuol mewn 5% i 10% o achosion. Gall y rhai sy’n goroesi brofi cymhlethdodau hirdymor difrifol fel colli clyw, amhariad difrifol ar y golwg, problemau cyfathrebu, colli aelod(au) o’r corff, ffitiau, a niwed i’r ymennydd.

Mae meningococi yn cael eu grwpio i wahanol fathau (serogrwpiau) yn seiliedig ar farcwyr ar du allan y bacteria (polysacarid capsiwlaidd). Yn y DU, y serogrwpiau o’r pwysigrwydd clinigol ac iechyd y cyhoedd mwyaf yw B, C, W ac Y. 

Ers cyflwyno rhaglen MenB y DU yn 2015 a rhaglen MenACWY i bobl ifanc yn 2015, mae digwyddedd IMD wedi gostwng yn sylweddol, er bod achosion yn parhau i ddigwydd ar draws pob grŵp oedran.

Mae’r brechlyn MenB i fabanod wedi lleihau clefyd MenB tua thri chwarter yn y plant a’i derbyniodd, o’i gymharu â phlant na chawsant eu brechu. Mae clefyd MenB wedi cynyddu ers i gyswllt cymdeithasol ddychwelyd i normal ar ôl y pandemig COVID-19 ac mae nifer y bobl sy’n cael eu brechu wedi gostwng, gan adael mwy o bobl heb amddiffyniad. Yn wahanol i straeniau meningococol eraill, nid yw brechlynnau MenB yn creu imiwnedd torfol cryf, felly mae brechu amserol yn bwysig i sicrhau bod plant ifanc yn cael eu hamddiffyn rhag clefyd MenB.

Y brechlyn

Bexsero®, brechlyn protein meningococol B (4CMenB) pedair cydran, yw’r brechlyn a argymhellir ar gyfer y rhaglen imiwneiddio reolaidd i blant. 

Brechlyn wedi’i anactifadu i’w chwistrellu sy’n dod mewn chwistrell wedi’i llenwi ymlaen llaw yw Bexsero®. Mae Bexsero yn frechlyn sy’n cael ei amsugno gan gydran rDNA. 

Mae’r brechlyn MenB yn effeithiol yn erbyn heintiau difrifol a achosir gan facteria meningococol grŵp B. Gall y brechlyn hefyd amddiffyn rhag haint gan grwpiau capsiwlaidd heblaw grŵp B.

Rhoddir y brechlyn i fabanod yn:   

  • 8 wythnos,   
  • 12 wythnos a    
  • 12 mis oed.  

Ym mis Gorffennaf 2025, dechreuwyd rhoi’r brechlyn ​​​​MenB yn gynt er mwyn rhoi amddiffyniad cynharach i fabanod, sydd â’r risg uchaf o glefyd MenB ymledol (IMD).

I gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn, ewch i Newidiadau i’r amserlen imiwneiddio i blant – Gwybodaeth i weithwyr iechyd .

Cymhwysedd i gael brechiad dal i fyny 

Dim ond ar gyfer plant dan ddwy flwydd oed y mae brechiad dal i fyny MenB yn cael ei argymell fel arfer. Mae cyfanswm y dosau ar gyfer babanod dan ddwy flwydd oed yn dibynnu ar oedran y plentyn wrth ymgyflwyno a’i hanes brechu MenB blaenorol. I gael manylion am ddosau gweler y Llyfr Gwyrdd – Meningococol.

Nid yw plant dwy flwydd oed a hŷn yn gymwys i gael brechiad MenB fel mater o drefn oni bai eu bod yn dod o fewn grŵp risg clinigol penodol fel y’i diffinnir yn y penodau Llyfr Gwyrdd – Imiwneiddio unigolion â chyflyrau meddygol sydd eisoes yn bodoli a Llyfr Gwyrdd – Meningococol. Mae hyn oherwydd bod y risg uchaf o IMD mewn babanod. Mae’r polisi wedi’i seilio ar gyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), grŵp cynghori arbenigol, sy’n cynghori llywodraeth y DU ar frechlynnau ac imiwneiddio. Mae’r pwyllgor yn parhau i fonitro epidemioleg a thystiolaeth sy’n dod i’r amlwg.

Dyma rai pwyntiau y gallai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol fod eisiau eu rhannu â rhieni:

  • Mae’r risg uchaf o IMD yn ystod babandod. 
  • Mae rhaglen frechu MenB wedi’i chynllunio i roi amddiffyniad cynnar.  
  • Bydd y JCVI yn adolygu’r rhaglen yn rheolaidd 

Crynodeb o nodweddion cynnyrch  

Mae’r atodlen canllawiau yn y Llyfr Gwyrdd – Meningococol (Saesneg yn unig) yn disodli’r crynodeb o nodweddion y cynnyrch.

Rhoi gwybod am sgîl-effeithiau  

Mae’n bwysig rhoi gwybod am adweithiau niweidiol a amheuir ar ôl awdurdodi’r cynnyrch meddyginiaethol. Mae’n caniatáu monitro parhaus o gydbwysedd mantais/risg y cynnyrch meddyginiaethol. Dylech roi gwybod am adweithiau niweidiol posibl o frechlynnau a meddyginiaethau ar-lein yn Yellow Card (Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9yb i 5yh).  

Mae’r Amserlen Imiwneiddio Arferol Gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am frechiadau arferol ac anarferol.

Canllawiau 

Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.  

Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (Saesneg yn unig) - darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI; chwiliwch e.e. meningococol.  

Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru 

Adnoddau a gwybodaeth glinigol 

Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau 

Gellir dod o hyd i dempledi Cyfarwyddyd Grŵp Cleifion (PGD) ar gyfer brechlynnau ar dudalen Cyfarwyddydau Grŵp Cleifion Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru

Mwy o adnoddau a gwybodaeth clinigol 

Adnoddau a digwyddiadau hyfforddi 

Ynediad i gyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer o frechlynnau ac afiechydon drwy’r dudalen E-ddysgu. 

Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant ar y dudalen Adnoddau a Digwyddiadau Hyfforddi.

Data a goruchwyliaeth  

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 27ain Mai 2026