Brechiadau i fyfyrwyr
Mae bod yn gyfredol â’r holl frechiadau rheolaidd yn bwysig i bob un ohonom. Mae’n arbennig o bwysig i fyfyrwyr sy’n dechrau yn y brifysgol neu’r coleg a fydd yn cwrdd, yn cymysgu ac yn byw gyda llawer o bobl newydd.
Gall prifysgolion fod yn fagwrfa ar gyfer y frech goch, clwy’r pennau, llid yr ymennydd a sepsis yn ogystal â’r ffliw a COVID-19 gan eu bod yn rhoi cyfle perffaith i heintiau ledaenu.
Bydd rhai myfyrwyr sy’n dechrau yn y brifysgol neu’r coleg am y tro cyntaf yr hydref hwn wedi methu brechlynnau rheolaidd yn gynharach mewn bywyd sy’n eu hamddiffyn rhag cyflyrau a allai fod yn angheuol.
Gallwch wirio eich statws brechu a gwneud trefniadau i gael dosau a fethwyd drwy gysylltu â’ch meddyg teulu. Neu gallwch gysylltu â’ch tîm imiwneiddio lleol i holi sut i ddal i fyny â brechlynnau a fethwyd.
Rhestr wirio ar gyfer mynd i’r coleg neu’r brifysgol
Gwiriwch eich bod wedi cael y brechiadau diweddaraf cyn i chi fynd i’r brifysgol neu’r coleg.
Yn ddelfrydol, dylid rhoi brechlynnau o leiaf bythefnos cyn dechrau yn y coleg neu’r brifysgol gan fod hyn yn rhoi amser i’ch corff adeiladu amddiffyniad. Fodd bynnag, gellir rhoi brechlynnau ar unrhyw adeg. Peidiwch ag oedi, gorau po gyntaf!
Hyd yn oed os ydych chi eisoes wedi dechrau yn y coleg neu’r brifysgol, gallwch chi barhau i wirio gyda’ch practis meddygon teulu i weld a ydych chi wedi cael yr holl frechiadau gofynnol. Yna gallwch drefnu i gael brechlynnau y gallech fod wedi’u methu.
Dylech fod wedi cael y brechlynnau canlynol erbyn 16 oed fel rhan o’r rhaglen frechu reolaidd:
- dau ddos o’r brechlyn MMR (amddiffyniad yn erbyn y frech goch, clwy’r pennau a rwbela)
- un dos o’r brechlyn MenACWY (ar gael hyd at eich pen-blwydd yn 25 oed) (amddiffyniad yn erbyn grwpiau Meningococol ACW&Y)
- pum dos o frechlyn sy’n cynnwys difftheria, tetanws a pholio
- un dos o frechlyn HPV (ar gael hyd at eich pen-blwydd yn 25 oed) * (amddiffyniad rhag y feirws papiloma dynol)
* Mae 01/07/2026 dynion (a aned ar neu ar ôl 01.09.2006) a menywod yn parhau i fod yn gymwys i gael y brechlyn HPV nes iddynt gyrraedd eu pen-blwydd yn 25 oed. Cynigir 3 dos o’r brechlyn HPV i bobl ifanc sydd â system imiwnedd wan neu sy’n HIV positif.
Dylai myfyrwyr sy’n dechrau yn y brifysgol neu goleg preswyl am y tro cyntaf ym mlwyddyn academaidd 2026/27 hefyd wirio a ydynt yn gymwys i gael y brechlyn MenB. Mae rhagor o fanylion ar gael o frechlyn Meningococol Grŵp B (MenB).
Gall dynion hoyw, deurywiol neu ddynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion (GBMSM) gael y brechlyn HPV hyd at 45 oed trwy wasanaethau iechyd rhywiol. Mae angen cwrs dau ddos o HPV ar rai 25 oed a throsodd.
Gall unigolion GBMSM hefyd fod yn gymwys i gael brechlynnau eraill i wella eu hamddiffyniad rhag Hepatitis A a B, brech M a Gonoroea, siaradwch â’ch clinig iechyd rhywiol i gael manylion.
Gwybodaeth
Os ydych chi mewn grŵp sydd mewn mwy o berygl o gael y ffliw a COVID-19, cofiwch drefnu i gael y brechlynnau hyn pan gewch chi eu cynnig.
Ar ôl i chi gyrraedd y brifysgol dylech chi wneud y canlynol:
- Cofrestru gyda meddyg teulu cyn gynted â phosibl – peidiwch ag aros nes bod gennych broblem.
- Trefnu gyda’ch meddyg teulu i ddal i fyny ag unrhyw frechiadau rydych chi wedi’u methu neu sy’n bryd i chi eu cael.
Oes angen i chi ychwanegu brechiadau at eich rhestr o bethau i’w gwneud?
Dylai pawb sy’n gallu cael eu brechu fanteisio ar y cynnig gan fod hyn yn helpu i amddiffyn nid yn unig chi, ond pobl agored i niwed sydd mewn perygl hefyd. Mae hyn yn cynnwys pobl na ellir eu brechu a phobl â system imiwnedd wan. Pan fyddwch chi’n cael brechlyn, gall leihau lledaeniad clefydau heintus. Mae hefyd yn gwella diogelwch i chi, eich teulu, eich ffrindiau a’r rhai rydych chi’n dod i gysylltiad â nhw.
Gwybodaeth am Frechu
I gael rhagor o wybodaeth am y brechiadau canlynol gweler yr wybodaeth yma:
Mae rhagor o wybodaeth am frechlynnau eraill ar gael yn y rhestr o frechlynnau.
Brechiad MenB
Nid yw’r brechlyn MenACWY yn amddiffyn rhag clefyd Meningococol grŵp B. Cynigir brechiad yn erbyn clefyd MenB i fabanod fel rhan o’r amserlen imiwneiddio reolaidd. Os cawsoch eich geni cyn Mai 2015 ni fyddwch wedi cael cynnig y brechlyn MenB fel rhan o’r rhaglen frechu reolaidd.
Mae rhaglen frechu amser cyfyngedig wedi’i threfnu i gynnig brechiad MenB i bobl ifanc sydd mewn mwy o berygl o gael clefyd meningococol. Mae hyn yn cynnwys yr holl unigolion ifanc a aned rhwng 1 Medi 2007 a 31 Awst 2008 (rhwng 17 a 18 oed). Mae’r brechlyn hefyd yn cael ei gynnig i’r rhai a aned ar ôl 21/7/2001 sy’n bwriadu mynd i brifysgol neu goleg addysg bellach preswyl am y tro cyntaf yn hydref 2026. Mae rhagor o fanylion ar gael o frechlyn Meningococol Grŵp B (MenB).
Efallai y bydd pobl eraill sydd wedi’u nodi fel rhai sydd mewn mwy o berygl hefyd yn cael cynnig y brechlyn MenB. Mae hyn yn seiliedig ar argymhellion cyfredol y JCVI.
Efallai y bydd y brechlyn MenB ar gael yn breifat i’r rhai nad ydynt yn gymwys i gael y brechiad ar y GIG. Gallai hyn fod drwy rai practisiau meddygon teulu preifat, fferyllfeydd a chlinigau brechu cyn teithio.
Ewch i gael eich brechlynnau pan gewch chi eu cynnig, er mwyn cael yr amddiffyniad gorau rhag clefydau y gellir eu hatal drwy frechu.
Beth sydd angen i mi ei wneud i gael fy mrechiadau?
Os ydych chi’n gymwys i gael y brechlyn MenB, mae rhagor o fanylion am sut i gael y brechlyn ar gael o frechlyn Meningococol Grŵp B (MenB).
Yn achos pob brechlyn arall, cysylltwch â’ch practis meddygon teulu yn y lle cyntaf. Gwiriwch gyda’ch practis meddygon teulu os nad ydych chi’n siŵr pa frechiadau rydych chi wedi’u cael, gan y dylai fod ganddyn nhw gofnod o’r holl frechiadau rydych chi wedi’u cael. Os nad yw eich cofnodion ar gael, neu os ydych chi’n meddwl eich bod wedi methu rhai brechlynnau, gwnewch apwyntiad i’w cael cyn gynted â phosibl.
Mewn rhai achosion, caiff brechlynnau yr ydych chi wedi’u colli eu cynnig i chi os nad oes hanes na chofnod dibynadwy o’r brechlynnau a gawsoch o’r blaen. Mae hyn er mwyn sicrhau’r amddiffyniad gorau i chi.
Ydych chi eisoes yn y brifysgol neu’r coleg?
Os ydych chi wedi symud i ddinas newydd ar gyfer y brifysgol ac wedi cofrestru gyda meddyg teulu newydd, dylai fod ganddyn nhw eich cofnodion a gallant wirio eich hanes brechu.
Os oes gennych unrhyw amheuaeth, dylech gael eich brechiadau a gwneud yn siŵr eich bod wedi’ch amddiffyn yn llawn. Mae cael eich brechu’n llawn yn golygu bod gennych yr amddiffyniad gorau yn erbyn y clefydau difrifol hyn. Nid oes yr un brechlyn 100% yn effeithiol, felly dylech fod yn wyliadwrus o hyd am arwyddion a symptomau unrhyw glefyd a gofalu am eich iechyd. Yna gallwch fwrw ymlaen i fwynhau popeth sydd gan y brifysgol i’w gynnig.
Gwybod yr arwyddion a’r symptomau
Rydyn ni eisiau i bawb fod yn iach a mwynhau eu hamser yn y brifysgol, ond gall cymysgu â phobl newydd gynyddu lledaeniad clefydau heintus.
Mae llawer o fyfyrwyr newydd yn dal ‘ffliw’r glas’ a bydd angen iddynt orffwys. Gallwch gymryd meddyginiaeth dros y cownter fel parasetamol i’ch helpu i deimlo’n well.
Dylech geisio cyngor meddygol ar unwaith os oes gennych symptomau llid yr ymennydd neu sepsis, y frech goch neu glwy’r pennau. Mae manylion arwyddion a symptomau llid yr ymennydd a sepsis ar gael o Meningitis Now (safle allanol, Saesneg yn unig).
Neu gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar wefan GIG 111 Cymru (safle allanol).
Cofiwch ddweud wrth rywun os ydych chi’n teimlo’n sâl
Gallwch ffonio 111 i gael cyngor dros y ffôn gan GIG 111.
Ffoniwch 999 mewn argyfwng.
Dywedwch wrth rywun os ydych chi’n sâl, yn ddelfrydol rhywun a all wirio eich bod chi’n iawn a galw am help os nad ydych chi. Gwrandewch ar eich greddf, cadwch mewn cysylltiad â’ch cymdogion a gofalwch am eich gilydd.
Gwybodaeth ar gyfer prifysgolion a cholegau
Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU wedi cyhoeddi pecyn cymorth (pecyn cymorth cyfathrebu ar gyfer prifysgolion, colegau a lleoliadau addysg uwch eraill (safle allanol, Saesneg yn unig)) sydd ar gael i’w lawrlwytho. Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau ar frechiadau i fyfyrwyr, a’r clefydau y maent yn amddiffyn yn eu herbyn. Mae’r pecyn cymorth hwn hefyd yn cynnwys dolenni i wybodaeth berthnasol ar gyfer Cymru.